Ailddysgu

Monday 24 February 2014

Siopau llyfrau anibynnol a Gŵyl Ddewi Arall


Mae’r nifer o siopau lyfrau wedi gostwng fel bod na llai na fil o siopau ar ôl ym Mhrydain Fawr.  Yn ôl y Guardian dydd Sadwrn diwethafMae’n amlwg ei fod yn anodd i’r siopau bach yma: The balance of risk in bookselling has changed for good and now sits disproportionately with the bookseller," said Tim Godfray, chief executive of the Booksellers Association. "Bookshops are important community and cultural hubs, which also provide an important educational resource for all. Sadly, the overall picture in terms of the number of independent booksellers in the UK is still one of contraction."  Felly os ydy’r siop llyfrau mor bwysig i’r cymuned lleol, be fedran ni wneud?  Un weithred, yn amlwg, ydy cefnogi, siopau sydd gennyn ni.    

Fel mae fy ddarllenwyr fyddlon yn gwybod  (os oes rhai!), dwi’n meddwl bod Palas Print yn gwneud gwaith ardderchog.  Dwi’n trio archeb y llyfrau dwi’n prynu o’r siop yma - a fel arfer mae nhwn’n dod cyn gyflym ac archebau Amazon.  Ond hefyd, mae cyngor ar gael.  Mis diwethaf roedd fy ffrind yn dathlu ei phenblwydd - wedi cyrraedd 60.  Mae hi’n dysgu Cymraeg, felly yn naturiol meddyliais prynu rhywbeth Cymraeg - neu ynglyn a Chymru.  Cefais sgwrs gydag Eirian, perchenog Palas Print, ar y ffôn, a derbyniais ei chyngor hi - ac yn fuan roedd y parsel wedi dod.  A mae fy ffrind wrth ei bodd.

Un peth mae Palas Print yn gwneud (neu un peth mae perchynog Palas Print yn gwneud) ydy trefnu digwyddiadau fel y Gŵyl Arall – sy’n digwydd bob blwyddyn bellach, yn yr haf.  Eleni dwi’n mynd i’r Gŵyl Ddewi Arall, dros y penwythnos. Dwi’n edrych ymlaen yn arw a dyma’r rhaglen  .

Sunday 16 February 2014

Garddio, o'r diwedd

O’r diwedd, dipyn o haul!  Cyfle i fynd i’r ardd a tocio’r mafon.  Dwi ddim yn dallt pan mae’r llyfrau i gyd yn dweud bod rhaid tocio mafon hydref ym mis Chwefror.  Pam ddim ar ôl iddyn nhw orffen ffrwytho ar ddiwedd y flwyddyn?  Beth bynnag, gyda’r tywydd mwyn (er gwaetha’r glaw), roedd tyfiant yn dechrau dangos, felly hen bryd i dorri nhw i lawr.  Ond dim llawer o gyfle, gyda’r glaw.  Ond heddiw, ar ôl diwrnod a ddechreuodd yn ddigon stormus ddoe, roedd yr haul yn gwenu: 

felly ar ôl mynd a’r ci am dro dyna ddechrau ar y mafon.  Dyma sut oedden nhw cyn dechrau:

A dyma sut oedden nhw ar ol tocio am dipyn o amser, a hefyd tynnu rhai allan, oherwydd mae ’na ffrwythau eraill yn y gwely hefyd, fel gwsberen, cyrans du a chyrans coch - a r’oedd popeth ar draws ei gilydd, rywsut.



Dwi ddim wedi gwneud lawer o arddio o gwbl eto eleni, ond yn y tŷ gwydr mi wnes i wasgaru hadau letys penwythnos diwethaf, ond dwi braidd yn sicr bod y llygod wedi bod atynt - felly heddiw, mae’r hadau yn mynd i’r lofft a mi wnai chwilio am y trap llygod.

Tuesday 11 February 2014

Diffyg blogio a darllen


Mae’n amlwg fy mod i ddim yn llwyddo llawer gyda’r blog ar y funud.  Serch hynny, dwi wedi bod yn gwneud rhywfaint o ddarllen.  Mi wnes i ailddarllen Wythnos yng Nghymry Fydd, gan Islwyn Ffowc Elis (IFE) - llyfr roedden am drafod yny Clwb Darllen.  Mi ges i ddipyn o hwyl gyda’r llyfr: fel y tro gyntaf, roedd y stori yn cydio -  yn enwedig wrth gofio bod y nofel yma wedi ei chyhoeddi yn ol yn y pumedgau: yn sicr mae IFE yn storïwr gwych. Yr unig rhan nes i DDIM fwynhau oedd hanes y capeli ac eglwysi Cymru y dyfodol.  Does gen i ddim diddordeb mewn crefydd - a roeddwn wedi colli diddordeb yn fuan yn y rhan yma.  Ond yn y bôn, mae’r nofel yn ddiddorol, ac yn dangos y diddordebau eang a oedd gan yr awdur.

Roedden yn trafod y nofel yn y Clwb Darllen yn LLundain - a roedd rhai ohonon ni wedi gwneud rhestr o’r pethau a wnaeth IFE rhagweld yn llwyddianus: e.e. y gweleffôn; y loteri, ac y senedd. O, a’r ceir yn gyrru eu hunain (bron wedi digwydd!).  Ond wrth gwrs roedd llawer o bethau ddim yn iawn: y darlun o Gymru llwyddianus lle mae pobl yn gweithio ac yn byw yn lleol (yn yr Iwtopia); a gyda ffatrïoedd enfawr, a coedwigion enfawr yn y “dystopia“. Ond mi fyddai wedi bod yn anodd iawn yn y pumdegau rhagweld na fydd llawer o gynhyrchu o gwbl yn digwydd y dyddiau yma.

Roedd rhai ohonon ni yn meddwl bod yr ail Gymru, y “dystopia“ yn fwy ddiddorol, gyda’r iwtopia braidd yn ddelfrydol - a chymeriad Mair, yn enwedig, dim cweit yn taro deuddeg.  Ac wrth feddwl, doedd o ddim yn hawdd meddwl o lyfrau eraill Cymraeg sydd yn debyg.  Diffyg o ffuglen wyddonol Gymraeg efallai?

Fel ddwedais o’r blaen - ro’n yn falch gweld awgrymiadau Bethan Gwanas o lyfrau 2013.  Un wnes i archeb ydy Twll Bach Y Clo a mi wnes i orffen darllen o yn ddiweddar.  Anodd dweud llawer heb dwud gormod - ond mae o’n lyfr dda - werth darllen yn sicr (yn fy nhyb i!)

Labels: ,