Ailddysgu

Friday 27 March 2020

Yn y tŷ gwydr


Gwnewch y pethau bychain, meddai Dewi Sant.

Un o’r “pethau bychain” dwi’n trio gwneud eleni ydy cyfranu at fy mlog bob wythnos.  Hyd at hyn dwi wedi bod y eitha llwyddianus – dwi wedi blogio deg waith ers dechrau’r flwyddyn.  Mae’r sefyllfa cyfoes, gyda’r feirws Covic-19, yn un gwbl newydd i bawb.  Mae pawb gartref lle mae hynny’n bosib (e.e. onibai eich bod yn gweithio mewn archfarchnad neu i’r gwasanaethau iechyd a.y.y.b).  A mae’r haul wedi bod allan am bron wythnos ar ol gaeaf mor wlyb a mae hynny’n helpu.

Ym mhobman, mae’r Gwanwyn wedi dod.  Mae ieir bach yr ha allan, wedi goroesi’r gaeaf mewn un ffordd neu’r llall fel y brimstone yma yn y tŷ gwydr.  



A fel fasech chi’n disgwyl o rywun sydd yn hoffi garddio, dwi wedi bod yn brysur…

Yn y tŷ gwydr, mae’r salad gaeaf yn parhau a wedi bod yn llwyddianus.  Dydy roced ddim yn ffefryn gen i, na, chwaith, endive, sydd yn gallu bod yn chwerw.  


Ond yr adeg yma o’r flwyddyn dwi wedi bod mor falch bod na ddigonedd o roced yn y tŷ gwydr, ychydig o sbinaets a’r endive i wneud salad.  Does dim llawer o lysiau ar gael ar y funud.  Dipyn mwy o spinaets yn yr ardd, a cenin, wrth gwrs.  Dechreuais hau hadau yng nghanol mis Chwefror, yn y tŷ gwydr, ond maent yn cymryd dipyn bach o amser i ddechrau tyfu go iawn.  




Ar y funud, fel sawl tŷ gwydr am wn i, dwi’n dechrau rhedeg allan o le.  Mae’r rhan fwyaf o’r planhigion ieuanc ry fach i’w symud, a felly dim lle i hau mwy, eto.  Ond dwi wedi symud y letys  ac yn gobeithio ddôn nhw ymlaen yn dda.

Sunday 15 March 2020

Bywyd gwyll lleol

Bore Sul, wythnos yn ol, es i Bedford gyda ffrind sydd yn ffotograffydd GWYCH.  Mae’r ddwy ohonon ni yn trio cael lluniau o ddyfrgwn.  A chredwch neu pheidio, maent wedi cael eu gweld, yn aml, yn ystod y ddydd, yn yr afon, bron yng nghanol Bedford sydd ryw hanner awr i ffwrdd o fama.

Ond creaduriaid anwadal ydynt!  Roeddent yna dydd Llun, Mawrth, Mercher Iau a dydd Gwener yn ol bob sôn, ond dim dydd Sadwrn na dydd Sul.  Peth felly ydy gwylio bywyd gwyllt.  Ond gan bod ni yna, a hithau’n bore gwyntog ac oer (ond haelog!) cerddon ar hyd lan yr afon i weld y gŵyddau.  Gŵydd Eifftiaid? ydy’r rhain (Egyptian goose)- wedi dianc rywbryd: dydyn nhw ddim yn wreiddiol o’r wlad yma, ond maent yn eitha hardd.




Ac yn ol gartref, erbyn dydd Mawrth (y degfed) penderfynodd y llyffantod ddychwelyd i’r pwll.  Am flynyddoedd ’roedd y grifft yn dod o gwmaps dydd Ddewi Sant.  Mae’r dyddiad wedi mynd dipyn yn hwyrach yn ddiweddar, ond aeth yr wythnos gyntaf o Fawrth hebio eleni gyda dim arwydd o gwbl.  Ond wrth fynd i’r tŷ gwydr, bore Mawrth, roedd gymaint o fywiogrwydd yn y pwll,  a mwy o lyffantod nac erioed.  Am unwaith r’oedd yn weddol agosau at y llyffantod digon i gael lluniau. A rŵan mae’r pwll yn llawn o grifft.






Ddoe, daeth gwalch glas i’r ardd a dal  a lladd ’sguthan druan wrth yml y pwll. Wedyn aeth a hi wrth yml y giât cefn i’w bwyta.  Dwi ddim wedi gweld y gwalch glas mor agos yn aml, a mae hi wir yn aderyn hardd ond gyda llygaid melyn treiddgar a ffyrnig.  mae’r fenyw yn llawer mwy na’r gwrw - sydd yn beth gyffredin mewn adar ysglyfaethus.  A pham gwalch glas?  Brown ydy’r fenyw, fel gwelwch, a llwyd ac oren ydy’r gwrw. Ond mae llwyd a glas yn eitha debyg....



Monday 9 March 2020

Darllen a llyfrau John Alwyn Griffiths


Dwi wastad wedi bod yn ddarllenwr frwd.  ‘Falle fy mod wedi etifeddu y tueddiad yma oddiwrth fy mam.  Dwi ddim yn cofio fy nhad yn darllen llyfrau llawer, na Nain, ond dwi yn cofio fy mam yn dweud ei bod hi yn eistedd mewn coeden yn yr ardd pan roedd yn blentyn, yn darllen.

Beth bynnag, mae llyfrau yn ran bwysig mawr o fy mywyd a dwi yn tueddu i ddarllen pan ddylwn i wneud rywbeth arall.  A wedi dod yn ol i’r Gymraeg, ac yn byw yn Lloegr, mae darllen yn cadw’r cysylltiad a’r iaith yn fyw.  Felly mae ‘na wastad pentwr bach o lyfrau Cymraeg dwi’n darllen, neu am ddarllen, neu, rhy aml, wedi hanner ddarllen.  Dyma’r pentwr sydd ar y silff ar y funud.



Dwi hanner ffordd trwy darllen Sgythia, a wedi ei mwynhau, ond rhaid dweud, dwi wedi colli diddordeb yn y canol.  Mae’r Cymraeg yn wych (un rheswm dda i’w ddarllen)  a dwi am ail gydio yn y llyfr ond does dim llawer o stori gryf: dim dyna natur y llyfr.  A dwi YN hoff o stori gafaeilgar.

Mae mynd i Gaernarfon yn gyfle wych I brynu mwy o lyfrau, ond gyda’r pentwr bach yn bodoli, wnes I ddim brynu llawer ar ddechrau mis Mawrth.  Ond, prynais dau dwi wedi darllen yn barod.




Mae John Alwyn Griffiths wedi sgwennu sawl lyfr ditectif erbyn hyn: bob un teitl yn dechrau gyda’r gair ‘Dan’. Maent i gyd wedi ei lleoli yn yr un lle (tref bach ar lan y mor yng Ngogledd Cymru, gyda’r a’r un ditectif).  ’Dan Law’r Diafol ydy’r un diwethaf  a mae o’n lyfr gwych.  Cymraeg graenus, cymeriadau credadwy a diddorol a stori gafaelgar.  Mae’n bosib mae hwn ydy’r un gorau, hyd at hyn. Ond dwi wir yn gobeithio bydd un arall yn dod allan yn eitha fuan.

Yr ail lyfr ydy “Llythyrau yn y llwch” gan Sion Hughes.  Bargen: 75c mewn siop elysen. Nofel ddirgelwch a chafodd ei gyhoeddi yn ol yn 2014, a nofel gyntaf yr awdur.  Dwi’n meddwl ei fod wedi sgennu un nofel arall.  Beth bynnag, nofel wedi ei osod, yn rhannol, yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd, a dwi wedi mwynhau hon hefyd.

Dwi’n meddwl mai O Law i Law fydd y nofel nesaf i ddarllen.  Darllenais hon yn yr ysgol, blynyddoedd yn ol (1970 falle?!!) a dwi wedi ei ailddarllen unwaith ond am ei ddarllen eto ar gyfer ein clwb darllen Llundain.

Tuesday 3 March 2020

Gŵyl Ddewi Arall 2020 - Elin Tomos a hanes merched y bröydd llechi

Mae Gŵyl Ddewi Arall wedi bod, eto, a fel arfer, treuliais y benwythnos yng Nghaernarfon yn cael cyfle i ddysgu, cymdeithasu, mwynhau fy hŷn a phrynu llyfrau newydd (ia, rhan bwysig); i gyd mewn amgylchedd braf Cymraeg.  

“Cofio Merched y Bröydd Llechi - Gofal ar yr Aelwyd Chwarelyddol” oedd teitl y digwyddiad gyntaf ar fore Sadwrn lle roedd Elin Tomos yn rhoi hanes y merched chwareli yn y bedwerydd ganrif ar bymtheg.  Ond, doedd dim gymaint a hynny o hanes ar gael - ac yn bendant dim llawer o dystiolaeth o safbwynt y merched ei hun. 

Mae Elin Tomos wedi bod yn ymchwilio i berthynas merched y chwarel gyda iechyd, a mae’r hanes (a’r diffyg hanes) yn diddorol ac yn frawychus.  Fel sgwennodd Angharad Tomos yn y Daily Post Gymraeg yn ddiweddar, Merfyn Jones yde awdurdod ar y chwareli. Yn ‘The North Wales Quarrymen’ dwedodd: “Little is known about the quarryman’s wife and daughter”, a dyma be sbardunodd Elin Tomos i wneud ei hymchwil.

Yn ol erthygl yn ‘Y Tyst Cymreig’ roedd y marched ‘yn hoff o gyfeillach lawen, pleserau gwag a gwisgoedd pinc yn unig’ ! 



Ac yn ol ffynhonellau tebyg, doedd y ferched yma ddim yn darparu bwyd maethlon i’r chwarelwyr: yn hytrach, roedd y teuluoedd yn byw ar bara menyn a te - i frecwast, cinio, te a swper.  Ond wrth gwrs, does na ddim llawer o dystiolaeth o gwbl, a dim wedi cael ei sgwennu o safbwynt y merched ei hun. Mae’n debyg bod una ryw gronydd o wirionedd yn yr hanes ond yn aml be oedd ddim yn cael eu ystyried yn y datganiadau oedd y tlodi enfawr gyda, ar gyfartalef 11 person yn byw mewn un tŷ teras yn Nantperis.  Ac wrth gwrs, gyda’r chwarelwr yn sal ac allan o waith, dim cyflog.

Felly mae’n amlwg bod bywyd y chwalerwyr – a’i deuluoedd - yn un anodd. Mae ymchwil Elin yn ran o brosiect, a mae hi’n amlwg bod y prosiect wedi bod yn llwyddiant sgubol.   Mae ‘na fwy o manylion ar y blog yn fama. https://www.merchedchwarel.org/about-1#/about-the-project.  Mae Elin wedi  sgwennu llyfr a fydd yn dod allan yn eitha fuan – dechrau’r haf efallai: edrychaf ymlaen.