Ailddysgu

Sunday 31 July 2022

Ynys Sgogwm: brain goes-goch

Ynys Sgogwm rhan 2: y fran goes-goch

Dyma fran hardd gyda phig a choesau goch fel yn yr enw sydd yn byw, fel arter yn y wlad yma, wrth y mor.  Ond mae na lai na 400 par ym mhrydain.  A dydy o ddim mor hawdd tynnu lluniau ohono fo.  Mae un pâr (efllai mwy) yn nythu ar yr ynys ond gwelir mwy na’r teulu yna.  Maent yn nythu ym mis Ebrill felly erbyn mis Gorffenaf mae’r cywio yn hedfan - ac yn ffurfio heidiau bach eu hunan (yn ol yr RSPB).  Mae nhw’n perthyn i’r bran ond yn debyg o faint (dipyn mwy) i’r jac-y-do, ond yn yr awyr mae nhw’n hollol wahannol, gyda’r pig goch a’r coesau coch a’r adenydd yn ffurfio bysedd.  A mae o petai eu bod nhwy’n chwarae pan yn hedfan - yn flio’n gyflym iawn gyda’r bysedd clir a’r pig  goch yn dangos yn glir hefyd.






Mae rhaid iddyn nhw cael glaswellt byr, felly tir sy’n cael ei pori sydd yn dda.  Ym Mhen Llŷn mae’r defaid yn gnweud y gwaith.  Ar Sgogwm, mae llawer o’r ynys wedi ei orchuddio gyda rhedyn y dyddiau yma - a mae hynny’n dda i’r gwylanod oherwydd bod y nythod yn cael eu cuddio, ond yn dda i ddim i’r fran goes-goch.  Ond yn ffodus, mae’;r cwningod yn gwneud y gwaith pori.  Efalle bod mwy o frain goes-goch yn y gorffenol pan roedd defaid a geifr ar yr ynys?




Beth bynnag, mae’n fraint cael eu gweld nhw - a’u clywed nhw.  Mae nhw’n swnllyd - felly dydy o ddim yn anodd i dod ar eu draws nhw, ond gan eu bod yn ddu (wel, yn las dywyll dywyll dwi’n meddwl) ac yn symyd mor gyflym yn sicr mae o’n  anodd i gael lun da.

Thursday 21 July 2022

Ynys Sgogwm: y pâl

Yn ddiweddar, es i ynys Sgogwm (Skokholm) am wythnos.  Am brofiad!  Tybiaf bydd y blog yn cynnwys llawer am yr ynys dros y dyddiau neu wythnosau nesa.  Dipyn bach am yr ynys i ddechrau.  Ynys eitha bach yn Sir Benfro, a dim ond y wardeiniaid ac ambell wirfoddolwr neu ymchwilwr sydd yn byw ar yr ynys yn barhaol.  Es i yna gyda grŵp o fodrwywyr a dau ffotograffwyr - am wythnos.  Mae o'n bosib mynd am benwythnos neu Pythons.


Y pâl, efallai, ydy seren yr ynys i’r ran fwya, felly dyma testun y post yma.  Mae’r palod yn amlwg wrth i’r cwch dod i’r lan; yn heidio o’r môr i’r nythod (twneli) ac i’r môr, ac yn sefyll ar y wal wrth ben yr harbwr.  




Er eu bod yn llwyddianus are yr ynys, mae’r gwylanod yn ymosod arnyng trwy’r amser.  Fel arer mae nhw’n trio dwyn y pysgod mae’r palod wedi hela, ond gyda’r gwylanod cefnddu fwyaf, os oes siawns dwyn a bwyta pâl ifanc (neu hyd yn oed oedolyn) mae hynny’n digwydd hefyd.

Mae rhai yn chwilfrydydd iawn, ac ym mae y crancod, mae’n bosib os dach chi’n eistedd ar y ddaear, daw un neu ddau i chwillota o gwmpas.  Roedd un yn eistedd ar fy mhenglin  (ond fiw i fi fynd rhy agos - pig brwnt sydd yn medru gwneud llawer o niwed!).  Mewn llefydd eraill a gyda phalod eraill, dydyn nhw ddim isio bod mor agos i bobl.  

Pan sgwennais hwn yn wreiddiol (Gorffenaf 16) roedd llawer wedi gadael yr ynys, oherwydd bod y rhai ifanc wedi aeddfedu.  Yn hwyrach yn y dydd, pan oeddwn yn trio tynnu lluniau o’r palod yn hedfan, cefais y llun yma: rhan o natur ond trist i’r palod.  Dyma’r gwylan gefnddu fwyaf gyda palod ifanc mae o wedi llwyddo i ddwyn.


Mwy am fywyd gwyllt Sgogwm i ddod...