Ailddysgu

Thursday 29 November 2018

PS i’r post diwethaf

Rhywbeth o’i le gyda’r post diwethad: y llun rhy fawr!

Beth bynnag, da cael trafod y llyfr a roedden i gyd yn gwerthfawrogi’r ffaith bod Sioned Wiliam yn fodlon dod i siarad gyda ni.  Trafodaeth da.

A rwan ymlaen at Llyfr Glas Nebo.  Ond dros y Dolig a’r Gaeaf swi’n siwr o ddarllen ychydig o lyfrau Gymraeg. Wedi archeb dilyniant i Efa gan Bethan Gwanas. Llyfr i blant ond mae llawer o lyfrau plant (yn y ddwy iaith) yn wych.  Ac yn meddwl am brynu llyfr Galwad Cynar hefyd.  Rhaid cael ychydig o lyfrau wrth y gwely - neu’r tan!

Defnyddio’r ipad.....

Dwi wedi gaddo i fy hun fy mod am bostio i fama yn fwy aml.  A mi roedd y cwrs undydd yn y Ganolfan yn Llundain dydd Sadwrn yn sbardun. Diolch i Sion Aled (ein tiwtor) am ddiwrnod da.

Ond bu rhaid mynd a’r Macbook i gae ei drwsio, a bydd o ddim yn ol am dipyn, felly dipyn o her ond gweithio gyda’r ipad. Ond ta waeth, dwi’, benderfynol i wneud mwy yn Gymraeg. Un peth sydd wedi cymryd amser eleni ydy cwrs ffotograffiaeth, felly dyma un neu ddau llun wnes i dynnu gyda lens newydd ( os dwi’n llwyddo i lwytho nhw).






Mae’r dryw bach a’r titw cynffon hir yn cael ei fodrwyo yn y warchodfa lleol. A dwi mor falch bod y cyrsiau un-dydd ar gael yn Llundain. Mae o’n bosib teithio i Gray’s Inn Road heb ormod o drafferth, a mi es ddwywaith wythnos dwythaf. Unwaith ar gyfer cyfarfod y clwb darllen (trafod Cicio’r Bar) ac eto dydd Sadwrn.