Ailddysgu

Saturday 27 January 2024

Gwylio Adar yn yr Ardd




Dydy’r teitl yma ddim cweit mor dda a Big Garden Birdwatch, nac ydy?
  Ond dwi am gymryd ran heddiw, fel dwi’n trio gwneud bob blwyddyn.  Gyda’r tywydd gwlyb cawson ni yn gynharach yn y flwyddyn, roedd rhai o’r bwydwyr wedi datblygu llwydni a’r hadau a oedd ynddynt wedi dechrau egino.  Doedd dim modd eu golchi yn lan.  Felly er fy mod i’n casau gwastraff, roedd rhaid cael gwared ohonyn nhw a prynu bwydwyr newydd.  Hefyd, mae digon o fwyd wedi cael ei brynu.  Ac eleni dwi’n gobeithio gweld dipyn mwy o adar na sydd wedi digwydd yn y gorffennol.  Dyma’r adar sydd yn dod i’r ardd fel arfer:

 

Y fwyalchen (sydd yn dod yn eitha agos at y drws gefn)

Y robin goch

Y ddrudwy

Y sguthen

Y ddruw

Titw tomos las

Titw Mawr

Titw cynffon hir

Piod

Colomen goler?

Jac y do

llwyd y gwrych

 

Felly does dim byd cyffrous yn fama, yn anffodus.  Ond gawn weld.  A byddaf falle yn ychwanegu lluniau hwyrach ymlaen.


A dyma be ddigwyddodd.  Gwelais dau fwyalchen (ceiliog a iar); dau robin goch, 1 titw tomos las,  pioden, jac-y-do a llwyd y gwrych.  Tynnais lluniau trwy'r ffenestr oherwydd roedd yr adar yn eitha ofnus, felly dydy'r lluniau ddim yn dda iawn.

Friday 19 January 2024

Cyfnod oer a rhewllyd

Dan ni wedi cael cyfnod o dywydd oer, oer (ond dim mor oer ac yn yr Alban!). Dwi wedi bod yn brysur yn bwydo’r adar, ac yn rhoi dŵr iddynt ac yn gobeithio bod hyn wedi helpu.  Ond hefyd dwi wedi bod yn tynnu lluniau ar y comin, yn rhannol ar gyfer ein cyfarfod nesa o'n ngrŵp bach ffotograffydd, lle enw’r thema ydy “oer”.  Dyma ychydig.  Rhaid dweud dwi’n hoffi’r tywydd yma.  Awyr glas, glas a golau gwych.  Ond, mae hi ar fin newid.





 

Monday 8 January 2024

Dechrau Ionawr 2024

O’r diwedd mae’r glaw wedi mynd a mae’r tir yn dechrau sychu,  Dan ni’n ffodus yn fama; does na ddim llifogydd wedi cyrraedd y tai dwi ddim yn meddwl.  Ond mae ambell i lôn wedi bod dan dŵr, a does dim bosibilrwydd cyrraedd y llwybr wrth yr afon.


Bore Sadwrn, es i gyfarfod a’r tîm lleol sy’n modrywo adar.  Mae hyn yn gyfle i weld pa fath o adar sydd o gwmpas, ac i’w gweld nhw yn agos hefyd, yn y llaw.  Y tro yma roedden ni mewn perllan cymunedol.  Yr adar dan ni’n gweld yr amser yma o’r flwyddyn ydy’r fronfreithod sy’n dod o Scandinafia - fel y socen eira, a’r coch dan aden.  Doedd na ddim socen eira i’w gweld ond gwelson ni ychydig o’r coch dan aden.  Digon o'r titw tomos las, a dyma llun o llynedd o goch y berllan.  Am aderyn drawiadol!