Ailddysgu

Monday 23 December 2013

Pigion cyn y Dolig

Yn amlwg dwi ddim wedi llwyddo i flogio llawer yn ddiweddar.  Rywsut mae o wedi bod yn gyfnod brysur, ac wrth gwrs mae ddigon o gymdeithasu wedi bod yn digwydd.  Ond wedi coginio cinio fory a llwyth o mince pies, r'oedd rhaid cael hoe bach felly dyma ychydig o bigion tra dwi'n eistedd i lawr.


1 I ddechrau - dwi wedi bod yn gwneud compost dail.  Gan ei fod wedi bod yn Hydref ( a hyd at hyn) Gaeaf mor fwyn, nmae gymaint o ddail o gwmpas o hyd - yn rhad ac am ddim - a bydd y rhain yn gwneud compost delfrydol, ond mae angen gwneud compost ar wahan gyda ond y dail - oherwydd mae nhw'n cymryd dipyn o amser i dorri i lawr

2  Moron ar gyfer Nadolig
Mi wnesi i roi fwy o hadau moron i fewn yn y ty gwydr ar ol i'r rhai gynnar cael eu fwyta.  A dyma nhw - dim llawer - ond digon i gael bwyta ein moron ni fel rhan o'r cinio Nadolig



Dwi'n trio cael dipyn o salad a llysiau o'r ardd a'r ty gwydr ar gyfer Nadolig.

3.  Yr ardd yn y gaeaf

Dim fy ngardd i, ond yr ardd wrth ymyl lle dwi'n gweithio yn y Prifysgol Agored.  Fel dwi wedi son o'r blaen dwi'n hoff iawn o'r ardd lle mae 'na llawer o weiriau wahanol ac ar ddiwrnod haulog mae'r rhain mor hardd


4  A mae'r pobi a'r coginio newydd dechrau  - mae rhaid rhoi rhybydd ar y mince pies.  Gyda ddau fab yn byw gyda ni - os dach chi'n pigio allan, mae'n beryg bod bwyd yn diflanu a mae rhaid cadw rywfaint erbyn dydd Nadolig!


Felly erbyn amser cinio pan mae fy mab yn dod draw gyda'i phartner a fy wyres bach ddyle pobeth bod yn barod a dwi'n edrych ymlaen i fwyta, yfed ac ymlacio gyda llyfr da...Dyma fy wyres gyda ei mam - Nadolig Llawen


Saturday 7 December 2013

Pupurau o'r tŷ gwydr

Dyma be nes i gasglu heddiw!






Dwi wedi bod yn aros, yn gobeithio y basai'r pupurau yn aeddfedu dipyn mwy ac yn troi'n goch.  Ond rwan dan ni ym mis Rhagfyr, dwi ddim yn meddwl bod lawer o obaith.  Cafodd y hadau eu blannu braidd yn hwyr.  Os dach chi'n cofio roedd y Gwanwyn yn hwyr iawn yn dod eleni, a doeddwn i ddim eisiau rho't hadau i gewn tra bod y tymheredd yn y tŷ gwydr mor isel.  Hyd yn oed mewn blwyddyn da, mae pupurau yn cymryd amser i aeddfedu a troi'n goch - er eich bod yn medru eu defnyddio yn wyrdd.  Diolch byth - ar ol y Gwanwyn oer, mi gawsnon ni haf poeth a tymereddau da yn y tŷ gwydr am dipyn o amwer, a mi roedd rhai o'r pupurau wedi gwneud yn dda iawn, fel yr rhain nes i gasglu bythefnos yn ol.


Felly does dim i gwyno amdano - one mae hi'n well casglu bron y gwbl rwan, rhag ofn bydd tywydd oer yn dod ac yn eu difetha nhw.  Yn y ty gwydr mae nhw'n medru goroesi dipyn o oerni (yn enwedig gyda 'fleece' drostyn nhw - ond dim pam mae'r tymheredd yn isel iawn)