Ailddysgu

Sunday 21 May 2023

Y fursen fawr goch

Dyma’r fursen fawr goch.   



Mae’r ddau yma yn cyplysu a wedyn (fel yn yr ail lun. ond sori dydy o ddim yn hawdd i'w weld) bydd y fenyw yn gosod ei hwyau ar blanhigyn addas sydd yn tyfu yn y pwll sydd wedi bod yn yr ardd ers rhai blynyddoedd bellach. 

 


Y cyngor gyda phyllau ydy adeiladu pwll mor fawr ag y gallwch.  Ar y pryd, meddyliais bod y pwll yn ddigon mawr, ond mi fase wedi bod yn well tase hi dipyn fwy.  Beth bynnag, mae’r pwll wedi dod a digon o fywyd gwyllt gyda fo.  Mae’r tymor yn dechrau gyda’r llyffantod sydd yn dod i ddodwy grifft ym mis Mawrth a pryd hynny bydd y pwll yn llawn o lyffantod, a dan ni’n gobeithio fydd na ddim tywydd garw i ladd y penbyliad bach bach.

 

Hefyd, mae’r pwll yn lle i adar yfed.  Yn anffodus, os dach chi’n sguthan, mae rhaid bod yn wyliadwrus iawn oherwydd dyma gyfle i walch glas gael pryd o fwyd. (Dyma llun o un yn yr ardd yn 2021)




Mae’r rhain yn adar trawiadol gyda llygaid melyn treiddiol.  Mae nhw’n ddigon cyffredin o hyd ond dan ni ddim yn eu gweld yn yr ardd yn aml.  A wedyn gyda’r tymherau yn codi yn y Gwanwyn a’r haf, daw’r mursennod a weithiau gweision y neidr.  

Saturday 6 May 2023

Gwiwerod

Gan fy mod yn byw yn Ne-Ddwyrain Lloegr, ond wiwerod llwyd sydd o’n gwmpas.  Ar wahan i’r Gogledd lle mae rhai wiwerod coch wedi goroesi, yr unig llefydd yn Lloegr ydy’r ynysoedd yn y De: Ynys Wyth a Ynys Brownsea. https://www.dorsetwildlifetrust.org.uk/brownsea-island.  (A mae’r wefan yma yn dda ac yn dangos lle mae’r wiwerod yn yr Alban: https://scottishsquirrels.org.uk/squirrel-sightings/)  Wythnos diwethaf treuliais dipyn o amser yn Dorset gyda ffrind o Ganada.  Arhoson yn Wareham, hen dref fach ddymunol iawn, lle mae’n bosib cael bws neu tren i Poole, a wedyn dal cŵch i’r ynys.

 

Y tro diwethaf es i Brownsea ’roedd o’n ddydd boeth yn yr haf - ym mis Mehefin, ychydig o flynyddoedd yn ol.  Roedd môr wenoliaid i’w gweld, wedi nythu, gyda cywion bach a ceirw a gweision y neidr, ond doedd dim wiwer i’w gweld.  Tywydd boeth yn eu cadw yn y coed, allan o’r haul.   Ond wythnos diwethaf, roedd 6 neu 7 wiwer o gwmpas y coed wrth ymyl yr eglwys yn y coed a ro’n wrth fy modd yn trio cael lluniau.

 

Dyma un dwi’n hoffi




 A dwi’n meddwl efallai ei fod yn amser paru.  Beth bynnag roeddent yn rhedeg ar ol ei gilydd ac yn dringoor coed i fyny ac i lawr.  Annifeiliaid mor hoffus, a gobeithiaf na fydd yn gyfnod mor hir tan i fi ei weld nhw eto.