Ailddysgu

Friday 30 July 2021

Glaw a lluniau

Dydd Mercher pan roedd yr ŵyrion yma, aethom ati i glirio dipyn ar y llecyn lle roedd ychydig o datws.  Yn anffodus cawson nhw ddim llawer o ofal eleni.  Mae’r tywydd wedi bod yn broblem eleni: yn oer, gyda rhewogydd tan diwedd mis Mai, a wedyn, rywbryd, digonedd o law am dipyn bach, a wedyn yn sych, o ag yn boeth, hefyd.  Ond heb dyfrio, a heb cael cyfnod digon hir i dyfu, doedd y tatws yn dda i ddim.  Dyna sut beth ydy tyfu llysiau.  Mae rhai pethau yn methu, bob blwyddyn, ond eraill yn ffynnu. (Os nad oes gennych lwyth o amser)

 

Eleni mae’r ciwcymbers yn hwyr iawn a llawer heb cael ei beillio - ond rŵan maent yn dod yn raddol.  Dim felly y courgettes.  Erbyn rŵan ddyle fod gennyn ni ddigonedd ohonyn nhw, ond ar ol i’r rhai gwreiddiol cael ei fwyta, roedd rhaid ail blannu hadau, a hyd at hyn, dydy’r planhigion ddim wedi blodeuo.........Gobeithio bydd courgettes yn dod, gyda amynedd.  Mae’r ffa gwyrdd hefyd yn dod, yn raddol, ond gymaint yn cael eu fwyta gan rywbeth.  A bob dydd bron, dwi wedi bod yn dyfrio: yn enwedig pan oedd hi’n chwilboeth: allan ar y comin yn gynnar, dyfrio yn y tŷ gwydr, wedyn cadw allan o’r haul poeth a dyfrio gyda’r nos.

 

Ond heddiw mae digonedd o law yn disgyn.  Oedden ni am gael stormydd, yn ol y rhagolynion, ond diolch i’r drefn, death dim storm, ond glaw trwm.  A mae hyn yn beth dda i’r ardd, ag i’r pwll, sydd yn gollwng dwr.  A mae hi'n stidio bwrw o hyd.

 

Yn ddiweddar dwi wedi prynu lens newydd: lens ‘macro’ ail-law oddiwrth ffrind.  Mae’r lens yn eitha hen ond yn un dda, a mi oeddwn a brynu’r fath lens beth bynnag ond dim wedi gwneud yr ymchwil eto. Felly yn ddiweddar dwi wedi cael hwyl yn ymbrofi ac ymarfer gyda’r lens, yn cymryd lluniau o bryfed wahannol.

Dyma rai ohonyn naw.  Dwi ddim yn sier fy mod i wedi dysgu'r enwau Cymraeg eto, ond gyda Llyfr Natur Iolo, gawn ni weld.

Yn aml dwi'n trio cymru lluniau or gwenyn, ond dydy o ddim yn hawdd.  Ond dyma un ar lafant.



A dyma lindysyn teigr y benfelen (yn ol Iolo): cinnabar moth yn Saesneg.  Maent yn bwyta llysiau'r gringroen (am lond geg!), neu ragwort yn Saesneg.  Mae'r gwyfyn yn del hefyd, ond doedd na ddim un o gwmpas o be welais i.



Dwi'n meddwl mai 
gweirlôyn y ddôl (meadow brown) ydy hon.   A dyma glesyn y celyn


Ac i orffen, mae'r llyffantod yn dod.  Dyma un bach, bach....newydd dod allan o'r pwll.



Saturday 24 July 2021

Lluarth ac Asturias

 Dwi wedi dod ar draws gair newydd yn ddiweddar.  Lluarth.  Erioed wedi ei chlywed cyn dechrau darllen llyfr Cathi McGill am fyw yn Asturias 

Mae Cathi wedi bod yn blogio yn Gymraeg am bywyd yn yr ardal  yma yng Ngogledd Spaen am dipyn o amser rŵan a mae’r ardal yn sownio’n hyfryd ac yn ddiddorol.  Mae hi’n byw yn eitha agos i’r Picos, o be dwi’n dallt.  

 

Blynyddoedd maith yn ol, es ar daith yn Ngogledd Spaen gyda fy ngŵr, ar ein beics.  Dwi ddim yn siwr pam dewison ni fynd i Gogledd Spaen ond roedd y taith yn ddiddorol iawn ac yn bleserus y ran fwya o’r amser.  Ond hefyd mi roedd yn wlyb iawn ar adegau!  Dwi’n cofio cyrraedd Potes, pentre dwi newydd chwilio amadano fo ar Google, a mae o’n edrych fel pentre del ofndawy, ond mi roedd yn stidio bwrw pan cyrhaeddon ni.  Es i fewn i dŷ bwyta ofyn am ginio, ond gyda fy Sbaeneg gwael, wnaethon ni archeb ystafell yn ogystal a chinio!  A stafell digon gwael oedd hi hefyd, ond o leia roedden yn eitha (ond dim yn gwbl!) sych tra yn yr ystafell.  A wedyn crwydro o gwmpas y bentre yn y glaw.  Cawsom amser anturus yn croesi’r Picos (a roedden digon ifanc i fedru ymdopi gyda beicio i fyny’r lonydd mynyddig) ac ar ol laru ar y glaw, penderfynon dal tren am dipyn, er mwyn cyraedd tir sych!  Dwi ddim yn cofio lle aethom ni i ddechra, on yn sicr aethon i Leon ac i Salamander; llefydd hanesyddol, braf a’r haul yn tywynnu!

 

Dwi erioed wedi bod yn ol i’r ardal ond dwi wedi mwynhau clywed am Asturias yn yblogiau mae Cathi wedi sgwennu a rŵan yn darllen y llyfr.  Hyd at hyn mae hi’n son am yr ardd am y ran fwyaf, a Lluarth ydy rhan helaeth o’r ardd.  Tybiaf mae hen air ydy hwn, ond falle ddim.  Beth bynnag, mae’n braf cael gair sydd i’w wneud a tyfu pethau ar gyfer bwyta.  Mae gennym “l’Orto”,” yn yr Eidaleg “potager” yn Ffrangeg ond mae rhaid defnyddio ddau air yn Saesneg ‘the kitchen garden”.




 

Wnaf son am y brwydro yn fy “lluarth” i yn y post nesaf.

Saturday 3 July 2021

Byw Iaith

Wel yn amlwg, dwi ddim wedi lwyddo i flogio yn wythnosol, fel roeddwn yn gobeithio.  Ar y funud dwi’n ailddarllen llyfr Aneirin Karadog sydd yn fath o ddydiadur o’r flwyddyn fuodd yn byw yn LLydaw, a fel mae’r teitl yn dweud:  “Byw Iaith”.  Er ei bod wedi cael ei fagu ar aelwyd Lydaweg (ar ochr ei fam) a Chymraeg o ran ei dad, doedd o ddim yn hawdd iddo drosglwyddo’r iaith i’w ddau blentyn mewn cydestun di-Lydaweg.  A felly dyna un reswm fawr dros dreilio flwyddyn yn Llydaw lle cafodd ei ferch, Sisial, fynd i ysgol Lydaweg. O bob sôn, mi ddaeth yn rugl yn eitha gyflym.  A felly mae o gyda plant ifanc ynte?  Os ydy’r plentyn yn  bedair oed neu yn 6 neu 7,  a mae’r iaith o gwmpas, mae’r iaith yn dod.  Felly yr oedd o i fi, yng Nghaernarfon, yn dechrau ysgol yn bedair oed.

Ond mae Llydaw yn eitha wahanol i Gymru, a fel gwelir os dach chi’n darllen y llyfr, mae defnyddio’r iaith wedi lleihau yn sylweddol, a dydy o ddim yn beth arferol o gwbl i glywed yr iaith ar y strydoedd.Felly, diolch byth i’r ysgolion lle mae plant yn cael eu haddysg trwy Llydaweg: yr ysgolion Diwan.  A dyna lle aeth merch bach Aneirin. Ond, yn ddiweddar, mae addysg Llydaweg wedi ei wneud yn anghyfreithlon gan y llywodraeth yn ol Adran 2 cyfansoddiad Ffrainc!  Am warthus! Beth sy’n bod ar lywodraeth Ffrainc i’w wneud hi deimlo mor fregus ynglyn a’r iaith? Dydy Ffrangeg ddim am ddiflanu yn y flynyddoedd a ddaw, ond gellir Llydaweg. 


Gofynodd ffrind (sy'n dysgu Almaeneg) wrthaf ddoe: faint o amser wyt ti'n treilio ar y Gymraeg mewn wythnos?  Doedd o ddim yn hawdd i ateb, oherwydd be dwi'n trio gwneud ydy cyfuniad o ddarllen, sgwennu (fel rwan), gwylio ambell beth ar S4C a gwrando ar bethau sydd o ddiddordeb beth bynnag.


Heddiw er engraifft, darganfais bodlediad newydd i:"Byw LLyfrau" https://podcasts.apple.com/gb/podcast/byw-llyfrau/id1567785114. Diolch i Jo Heyde o’r Clwb darllen Llundain am y wybodaeth.  Wnes i wrando ar Rebecca Jones yn siarad (a sgwennodd Mudferwi: llyfr gwych). Rwan mae hi wedi sgwennu llyfr ar gyfer oedolion ifanc: #Helynt, a, mae hi wedi sgwennu dilyniant I Fydferwi – hwre!


A hithau’n ddydd Sadwrn, byddaf yn aml yn dechrau’r dydd gan wrando ar Galwad Cynnar: fy hoff rhaglen radio. Os dwi’n mynd i nol bara o’r becws hyfryd sydd yn pobi bara a chocolate ganache gwych,medraf cerdded ar draws y comin a trwy’r parc i’r siop, sydd ar stad bach ryw filltir i ffwrdd.  Felly os dwi digon gynnar mae Galwad Cynnar yn chwarae ar Sounds  tra dwi’n cerdded gyda’r ci.  Dechrau gwych i’r dydd.  A dipyn o Gymraeg hefyd – ond dwi ddim wedi cael sgwrs Cymraeg heddiw: bydd rhaid aros tan fory am hynny.