Ailddysgu

Tuesday 27 June 2017

Crwydro

Newydd dod yn ôl o’r Alban - wedi bod yn crwydro o gwmpas y ffiniau am wythnos.  Ymweld a sawl abaty, a  cherdded ar hyd yr afon Tweed, a hefyd ymweld a sawl ardd hyfryd, hyfryd.  ’Roedd rhai gyda cysylltiad a’r abaty fel yn Jedburgh, a ddaeth yn enwog am y gellyg a oedd yn tyfu yna.



 ’Roedd perllan bach i’w weld yn Jedburgh o hyd, ac yn Melrose ’roedd perllan a gardd muriog wrth ymyl yr abaty, y ddwy yn llefydd heddychol.  





Cerddon o Melrose i dŷ Walter Scott, Abbotsford; taith cerdded hyfryd ar hyd yr afon, sydd yn llawn o fywyd gwllt a gweld gwennoliaid y glennydd ym mhobman.  A dyna i chi ardd sydd yn Abbotsford!  



Tair ardd bendigedig oedd y gerddi Abbotsford, (gwelir y lluniau uwchben]; yr ardd muriog yng Nghastell ’Floors’ wrth ymyl Kelso, dyma'r eirin gwlannog yn y ty gwydr:

a chastell muriog arall -’Harmony Garden’ ym Melrose.

Roedden yn falch dianc o’r gwres yma yn MK lle roedd hi wedi bod yn sych am amser hir, a wedyn yn boeth iawn.  A dyna wahaniaeth i fynd a Teo [y ci] am dro ar hyd llwybrau ger yr afon Tweed, lle r’oedd popeth yn wyrdd.  Dod yn ôl i ardd sych gyda’r mafon yn dioddef, ond serch hynny digon o ffa llydan, a’r ffa ffrengig yn dod ymlaen yn dda.  Mae nhw’n gaddo glaw drwm, felly codais y shallots: rhois dwr iddynt tra r’oedd yn sych a maent i’w weld yn iawn - dim rhy fawr, ond digon.  Mae o’n braf cael haul, ond mae angen dipyn o law i lwyddo yn yr ardd, ac yn aml does dim digon yn fama.

Serch hynny, dwi'n edrych ymlaen i fwyta'r ffa ac i goginio gyda'r shallots.  Dyma rhai ohonyn nhw.  Mae nhw am sychu yn y ty gwydr.





Sunday 18 June 2017

Natur mis Mehefin yn Newport Pagnell

Yn amlwg dwi ddim wedi llwyddo i gadw i fynny gyda’r blogio.  Gyda’r tywyddd bendigedig boeth boeth boeth, dwi wedi bod yn brysur yn cerdded y ci yn gynnar, ac yn dyfrio yn gynnar ac yn hwyr.  Serch hynny, mae’r ardd yn sych ofnadwy.
Ond mae bywyd gwyllt yn ffynnu.  Dyma lun o fras y cyrs [dyna ydy reed bunting yn ol geiriadur Y Drindod Dewi Sant]. 


Dwi ar goll, braidd oherwydd dwi ddim yn medru dod o hyd i Lyfr Natur Iolo - a dyna’r beibl i fi ynglyn enwau adar Cymraeg.  Hebddo fo, dwi ar goll gyda adar sydd dipyn bach fwy anhyffredin.  Dwi’n hoff iawn o’r aderyn yma, ac yn raddol wedi dod i adnabod ei gan.

Aderyn arall a welais yn ddiweddar ydy telor y cyrs - a dyma ei lun.  


Ymweliad i’r warchodfa natur gyda fy ffrind a oedd draw o America, a hefyd yn hoff iawn o fywyd gwyllt.  Cawsom prynhawn da.  ’Roedd y telor yma ty allan i’r cuddfan, ond dim yn hawdd cael ei lun - ond dwi’n meddwl bod y mosgitos allan hefyd.  Beth bynnag, roedd rhywbeth wedi fy mrathu ym mhob man, a’r brathiad[au?] wedyn yn chwyddo ac yn cosi fel dwn i’m be.

Yn ôl ar y comin, yr un noson, clywson y gog.  ’Falle bod y gwaith ar y comin yn cael effaith: dim chwyn laddwr, dim pori’ a’r gwair yn denu trychfilod.  Noson hyfryd, hyfryd, ac wrth gerdded, gwelson y dylluan wen yn hela.  


Wnes i ddim llwyddo i gael lun da [eto!] - ond mi fyddaf yn dal ati os gai siawns!