Ailddysgu

Friday 30 December 2011

Darllen i ddysgu

Fel llawer o bobl eraill, dwi wedi bod yn myfyrio am sut mae’r dysgu wedi mynd eleni. Mae ’na bedair elfen i ddysgu unrhyw iaith, dwi’n credu: clywed a dallt yr iaith trwy gwrando arni hi; siarad yr iaith (mae’r ddwy elfen yma mewn pâr); a wedyn darllen yr iaith a sgwennu. Yn aml dydi’r pedair elfen yma dim mewn cydbwysedd - ac yn sicr, os dych chi’n byw tua allan i Gymru, mae’n hawdd gweithio ar rhai elfennau na’r lleill. Hefyd, wrth gwrs, mae angen cynhyrchu mewn ddwy o’r elfennau: siarad a sgwennu, ond i wrando a deallt, does dim rhaid darganfod y geiriau, dim ond dallt y geiriau (a’r patrymau) dyn ni’n clywed neu darllen.

Felly sut dwi wedi bod yn gwneud efo’r elfennau yma? Mi wnai sgwennu am yr elfennau eraill yn y dyfodol, ond i ddechrau dwi wedi bod yn myfyrio am ddarllen. Fel y gwelir o’r rhestr o lyfrau, dwi’n darllen llawer o lyfrau Cymraeg - i ddweud y gwir, dwi’n cael hi’n annodd, y dyddiau yma, i ddarganfod amser i ddarllen llyfrau Saesneg hefyd achos does dim amser i ddarllen yn Gymraeg a Saesneg.

Wrth edrych ar y llestr o lyfrau, dwi wedi darllen ryw 18 o lyfrau eleni, er fy mod i ddim wedi gorffen nhw i gyd; mae rhai o’r llyfrau yn llyfrau i ddarllen o bryd i bryd, dim o’r cychwyn i’r diwedd, fel, e.e. Cymru: Y 100 Lle, llyfrau barddoniaeth a dwi ddim wedi gorffen Owain Glyn Dŵr, chwaith. Ond dwi wedi gorffen y lleill, er bod rhai ohonnyn nhw braidd yn anodd - fel Awr y Locustiaid (storiau fer). Y dyddiau yma, y rhan mwyaf o’r amser, dwi ddim yn edrych geiriau newydd i fynny yn y geiridadur - dwi’n cario ymlaen (oni bai fy mod i ddim yn dallt o gwbl, neu fy mod i eisiau dysgu’r gair newydd). Ond dwi ddim yn siŵr be ydi’r ffordd gorau o ddarllen i ddysgu. I mi mae o’n bwysig cael naratif gryf, themau diddorol, a cael deialog dwi’n deallt (felly dim gormod o dafodiaith y de).

Os dwi’n darganfod awdur dwi’n hoffi, dwi’n mynd ymlaen i ddarllen ei lyfrau eraill. Felly es i ymlaen i ddarllen llyfr arall gan Gwen Parrott. A nes i fi ddarllen Si Bei, roeddwn wedi hoffi bob lyfr gan Geraint V Jones. Ges i ddipyn o siom efo Awr y Locustiaid, hefyd. Gallwn weld bod y storiau yn glyfar, ond roedd rhai rhy anodd - a dim um yn fy nghydio yn yr un ffordd a’r “Llyfrgell“. Roedd y Stafell Ddirgel braidd yn anodd hefyd, ond digon diddorol i fi eisiau darllen mwy am yr amser yna, a’r digwyddiadau - a mwynhais Y Rhandir hefyd.

A be oedd llyfrau gorau’r flwyddyn, i fi? Nes i fwynhau un llyfr yn enwedig: Y Tŷ Hwn, gan Siân Northey: archebais hwn ar ol clywed Sian yn siarad am y llyfr yn y Gŵyl Arall yng Nghaernarfon. Hoff lyfr arall oedd Caersaint, dwi’n meddwl (ond efalla dwi’n tueddu i ffafrio llyfrau dwi wedi newydd darllen ac yn medru cofio yn fanwl. Dwi’n cofio hefyd bod Y Gwyddel yn dda iawn - a dipyn mwy fel barddoniaeth mewn llefydd. Dwi wedi newydd gorffen Un Ddinas Dau Fyd gan Llwyd Owen, a fel ei lyfrau eraill, mae o’n stori gyffrous sy’n tynnu chi ymlaen. Dwi hanner ffordd trwy Piéta - ond ar ol hynny, dwi ddim yn siŵr be dwi am ddarllen nesaf. Felly dwi’n hapus cael awgrymiadau am be i ddarllen nesaf.

A sut mae hyn i gyd yn cyfrannu i’r Cymraeg? Dwi’n siŵr ei fod yn helpu fi i ehangu fy ngeirfa. Weithiau mae geiriau Cymraeg yn dod i fy mhen: geiriau dwi ddim wedi dysgu yn ymwybodol - a dwi’n meddwl bod rhai o rhein yn dod o ddarllen. Hefyd dwi’n trio edrych ar (a sylwi) y patrymau Gramadegol.

Monday 19 December 2011

Gair bach anodd - y gair bach a

Hyd at hyn, dwi ddim wedi sgwennu am y cwrs dwi’n gwneud. Cwrs Maestroli (Prifysgol Bangor) trwy’r post. (Mi fyddaf yn postio mwy am y cwrs yn gyffredinol nes ymlaen). Dwi wedi cyraedd uned 8, ac yn ddiweddar mi ges i fy ngwaith cartref uned 6 yn ôl. Mae o’n edrych fel pe bai’r gair bach a yn achosi dipyn o drafferth i fi a mae’n amlwg ron i rioed wedi meddwl am y peth. Gwyddais bod sawl ystyr – “and”, wrth gwrs, a hefyd fel ansoddair. er engraith ar ol ferf fel “cyfarfod a“ a hefyd "who/whom" e.e. “Y dyn a chafodd“ Ond dim a chafodd sy'n iawn, achos mae'r tri a yn byhafio yn wahanol: ynglyn a'r treigliadau sy'n dilyn; sut mae nhw'n newid (ac neu ag?), to bach neu beidio?. Mae na gymaint o reolau yn enwedig ynglyn a treigladau yn y Gymraeg -ac wrth gwrs dydy'r Cymry Cymraeg ddim yn dysgu'r reolau, dim mwy na mae siaradwyr Saesneg pan mae nhw’n siarad Saesneg. H.y. dydy nhw ddim yn dysgu nhw yn fwriadol. Ond trwy ddarllen, siarad, clywed a chyfathrebu yn gyffredinol. A mae nhw'n gwneud cangymeriadau hefyd. Mae nifer o Gymry Gymraeg yn camdreiglo ambell air. Felly taswn yn gwneud yr un gangymeridadau a’r Cymry Cymraeg, dwi’n meddwl faswn yn hapus. Yn y cyfamser, mi fyddaf yn trio sylwi’r patrymau cywir.

Wednesday 7 December 2011

Fy rhestr o lyfrau Cymraeg

Dyma be sydd ar fy rhestr darllen ar y funud: rhai i brynu a rhai i fenthyg o’r llyfrgell. Dydyn nhw ddim mewn drefn arbennig:

1. Neb Ond Ni gan Manon Rhys. Hwn oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn yr eisteddfod, eleni.
2. Tair Rheol Anhrefn, gan Daniel Davies – a hwn oedd enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni. Dwi ddim wedi darllen llyfr gan yr awduron yma h.y. Daniel Davies a Manon Rhys, felly dwi’n edrych ymlaen.
3. Stryd y Glep, gan Kate Roberts. Cyhoeddiad newydd ydi hon, o lyfr a gyhoeddwyd gyntaf yn 1949. Ydi Kate Roberts fel Marmite tybed? ( Hoff iawn neu casau…) Beth bynnag, dwi wedi mwynhau y llyfrau dwi wedi darllen.
4. O! Tyn y Gorchudd, Ar ol darllen O Ran, archebais hwn o “Palas Prints” yng Nghaernarfon, a dwi’n edrych ymlaen……
5. Pieta, gan Gwen Pritchard Jones. R’on i am brynu hwn yn ol yn Ionawr, ond roeddwn wedi prynu llwyth o lyfrau yn barod. A rywsut, dwi ddim wedi mynd yn ol ato fo. Un i archebu o’r llyfrgell dwi’n meddwl. Ac os dwi’n mwyhau o, mae na un newydd…..gwelir rhif 6 islaw.........
6. Barato – hefyd gan Gwen Pritchard Jones.
7. Y Daith – Lloyd Jones. R’oedd hwn yn cael ei drafod ar Pethe, dwi’n meddwl (wel yn sicr cafodd ei drafod ar S4C a roedd cyfweliad a Lloyd Jones ond dwi ddim yn cofio y rhaglen…)
8. Un Ddinas, Dau Fyd gan Llwyd Owen. Ar ol darllen llyfrau eraill Llwyd Owen mi wn y bydd hwn yn dda, hefyd: un am dros y Dolig efalla?
9. Dangos fy Hun, Tudur Owen. Daeth yr awgrymiad yma o flog Bethan Gwanas: “Os ydach chi isio syniad am anrheg Dolig i rywun, mae hunangofiant Tudur Owen yn y gyfres Nabod efo llai o eiriau ond llwyth o luniau) yn werth ei gael, wir yr. Chwip o hanesion difyr ynddo fo. A lluniau hilêriys!” A dwi wedi mwynhau rhaglenni Tudur Owen
10. ? Felly awgrymiadau, os gwelwch yn dda, am rhif deg.

Thursday 1 December 2011

S4C -Byw yn ôl y Papur Newydd a pethau eraill

Dwi wedi mwynhau gwylio Byw yn ôl y Papur Newydd, sydd newydd orffen. Mae'r rhaglen yn dilyn yr un fformiwla llwyddianus a Byw yn ôl y Llyfr: y gyfres flaenorol: canolbwyntio ar wahanol elfennau o fywyd ar y pryd. Fel Byw yn ôl y Llyfr, mae’r gyfres hon yn ddiddorol, yn hwyl, a hefyd dwi wedi dysgu pethau am y cyfnod.


Yn y gyfres, mae Bethan Gwanas a Tudur Owen yn archwilio bywyd yn y dauddegau, trwy dilyn rhai o’r erthyglau o’r papurau newydd yr adeg. ‘Roedd sawl papur newydd Gymraeg ar gael: Y Brython, Y Darian, Yr Herald Cymraeg, Y Seren – a mwy. R'oedd y bennod olaf yn edrych ar bywyd y brif weinidog, Lloyd George, a’i ddylanwad. Dan ni’n dysgu bod y dauddegau yn gyfnod cythryblus i Lloyd George; bod ei berthynas a’i ysgrifennyddus yn creu stŵr, a hefyd bod y Torïaid, yn 1922, wedi profi ei fod wedi gwerthu anrhydeddau am arian. Ond er hyn, roedd y carfannau o fewn y wasg Gymraeg yn driw iddo fo. Aeth Tudur Owen i Lanystumdwy, lle gafodd Lloyd George ei eni, ac i’r amgudeddfa sydd yn dathlu ei fywyd, i gyfarfod a Twm Morris, bardd gyda diddordeb mawr mewn bywyd Lloyd George. Dywedodd Twm Morris bod Lloyd George yn cael ei gyflwyno fel y dyn enwocaf yn y byd pan aeth ar daith i America a Canada yn 1923.


Felly be dwi’n hoffi am y rhaglen yma? Wel, yn gyntaf, mae’r ddau gyflwynydd yn dda iawn – yn defnyddio Cymraeg da, cywir – ag eto yn ddealladwy. Fel dysgwraig, dwi’n dysgu geiriau newydd a patrymau sydd yn newydd i fi. Ac i fi, mae Cymraeg y Gogledd yn haws o lawer i ddallt na Cymraeg y De. Hefyd, mae’r ddau yn medru bod yn ddoniol, ac yn sicr mae nhw’n medru diddanu. Yr ail elfen ydi bod y rhaglen yn cynnwys dadleuon gyda arbennigwyr. Felly mewn rhaglenni eraill, dan ni’n clywed bod na ddim llawer o nofelau Gymraeg ar y pryd, yn rhannol, oherwydd dylanwed crefydd, a hefyd yn dysgu am technoleg, cludiau a ffilmiau yr adeg.


Ond does na ddim llawer dwi eisiau gwylio ar S4C ar y funud. Dechreuais gwylio Gwaith Cartref - ond r'on i'n methu dod ymlaen efo'r rhaglen. Roeddwn yn edrych ymlaen at weld gyfres newydd o Rownd a Rownd - dwi'n gwybod bod y ffilmio wedi digwydd - gwelais y criw yn ffilmio yn Sir Fon, yn yr haf. Ond, dydy'r gyfres newydd dim wedi digwydd. Mae Wedi Saith o dan y bywell - felly gobeithio ein bod ni'n cael rhaglenni da yn y dyfodol. Ond falle dim.