Ailddysgu

Wednesday 24 August 2022

Bywyd gwyllt yr ardd: llyffantod a draenogod


Mae gymaint o lyffantod yn yr ardd ar y funud.  Mae llawer yn cael eu gweld wrth i fi chwynnu neu dyfrio, ond mae nifer mawr yn y pwll hefyd.  Dwi wedi bod yn trio cadw’r pwll yn iach.  Gyda’r tywydd poeth, roedd algâu i’w gweld - ac am ryw reswm roedd ein cymdogion a oedd yn dyfrio’r ardd tra roedden ar ein gwyiau yn ol ym mis Mehefin wedi penderfynu bod ormod o blanhigion yn y pwll a wedi tynnu rywfaint allan!  (Mae hi’n gymydog ardderchog ac yn ffrind, felly dim byd i’w gwneud ond trio achub y sefyllfa).  Falle fyse’r pwll wedi dioddef beth bynnag.


Roedd ffrind yn clirio ei phwll allan - gormod o flanhigion felly cefais dipyn o’r rheina, a hefyd rhois barley straw  i fewn sydd yn helpu hefyd.  

Ro’m yn meddwl bod y grifft llyffant wedi cael ei ladd gan y rhew yn y gwanwyn, ond mae ddigonedd o lyffantod bach o bob faint.  Rhai eitha bach, dim llawer mwy nag ewin a wedyn rhai sydd dipyn mwy ac oedolion hefyd.  A mae lliwiau go wahanol ganddynt hefyd.  




Maent i fod i fwyta gwlithod, a falle eu bod nhw, ond yn yr ardd yma, gyda waliau o gwmpas mae na gymaint o falwod, sydd yn bwyta bron popeth. (A dwi ddim yn meddel bod llyffantod yn bwyta malwod!)  Mi faswn  wrth fy modd yn gweld bronfraith yn yr ardd eto ond dydyn nhw ddim yma y dyddiau yma - y gwir ydy eu bod wedi dod yn brin.

Ar ddiwedd y brynhawn mae na gymaint a 15 o lyffantod i’w gweld yn y pwll, a wedyn mae nhw’n dechrau neidio allan i’r bordor.  

Mae’r draenogod i’w gweld yn gnweud yn dda yma hefyd. Mae un yn dod am fwyd i’r ardd gefn bob nos, a dwi’n gadael bwyd yn yr ardd ffrynt hefyd.  Dwi wedi gweld draenog enfawr yng ngardd ffrynt drws nesa, ond dwi ddim yn siŵr os mai draenog neu llwynog sydd yn cymryd y bwyd yn y ffrynt.  Amser i roi’r camera allan eto efalla.

Labels: , , ,

Monday 15 August 2022

Capten


Mae’r tywydd sych sych a chrasboeth yn parhau, er nad yw’r tymheredd am fod cweit mor uchel heddiw.  Un peth dwi wedi mwynhau gymaint dros y dyddiau diwethaf ydy darllen Capten; nofel Meinir Pierce Jones a enillodd gwobr Daniel Owen eleni.  Be well i ddarllen dros frecwast!

Ac am nofel!  Hwn ydy’r llyfr gorau dwi wedi darllen am dipyn.  Mae o’n eitha hir - felly mae’r pleser yn parhau, ond dim rhy hir; ac eto mae hi’n nofel gynnil. Cawn hanes o fywyd ym Mhen Llŷn  ar ddiwedd yr un ar ddeunawfed ganrif trwy lygaid Elin Jones, gwraig y “Capten”.  Mae’r cymeriadau yn hollol fyw a chredadwy, a mae’r stori yn gryf hefyd.  Cawn ddarllen am fywyd bob dydd Elen, tra mai ei ŵr, John i ffwrdd yn hwylio, ac wrth gwrs, mae’r siwrna yn un hir. Yn ol ym Mhen Llŷn, mae Elen yn disgrifio bywyd bob dydd; sut mae ei nai yn dod i fyw gyda hi i roi hoe bach i’w mam - a codi ysbryd Elen sydd heb blant.  Cawn hefyd clwyed am Lydia ac Adi sydd yn byw bron ar gyrion y gymdeithas a rhy dlawd i talu’r rhent a be sydd yn digwydd iddynt - a sut mae Adi am fynd i forio.  Mewn rhai ffyrdd, mae’r llun o fywyd lleol yn debyg yn ein atgoffa ni o lyfrau Kate Roberts, er bod y cynfas llawer mwy eang.  Felly dan ni hefyd yn dysgu am  y byd hwylio, trwy lygaid Capten John.

Mae themau mawr yma hefyd, yn cynnwys fyddlondeb, cariad a iechyd meddwl.  A mae’r nofel yn anodd i’w roi hi i lawr.    Mae’r ymchwil yn drwyadl - a’r holl hanes wedi ei seilio (yn eitha agos, o be dwi’n dallt) ar stori go iawn a’r holl peth mewn Cymraeg godidog a hefyd tafodiaith Pen Llŷn.  A cawn clwyed am lefydd gyrafwydd fel Tŷ Coch (os dach chi’n nabod Pen Llŷn) ond mewn cyfnod a chydestun tra gwahanol.  Arafais wrth fynd tuag at y diwedd a mae’n eitha bosib byddaf yn ailddarllen y nofel yn syth bin.