Ailddysgu

Saturday 31 December 2016

Celf Milton Keynes

Dan ni wedi cael tywydd ardderchog yn ddiweddar, tan ddoe, a oedd yn niwlog a dim llawer i’w gweld.  Ond cyn hynny, mae’r haul wedi bod yn gwenu; y barrug wedi bod yn sgleinio, a’r golau mor dda.  Es am dro, dydd Mawrth, ar hyd drywydd celf, sydd i’w ddarganfod ar hyd y gamlas; trywydd a chafodd ei ysbrydoli gan ysgol Japaneiadd Gyosei a oedd yn Milton Keynes tan 2002.
Dyma wybodaeth am y trywydd:
Doedd dim ddigon o amser i weld popeth ar y trywydd, ond dyma tri ohonnyn nhw.  Cerflun dur o geffyl ydy’r gyntaf.  Mae dipyn o wybodaeth ar y we am y cerflun.

Mae o’n edrych yn wych yn sefyll wrth y gamlas, ond 'falle ddim yn glir iawn yn y llun yma.



Un arall ydy brithwaith o dylluan wen, un o fy hoff adar, ac aderyn sydd i'w weld yn lleol.  Dydy'r niferoedd ddim yn uchel ofnadwy, ond, ers rhoi blychau nythu


yn agos i'r afon, rhai flynyddoedd yn ol, mae'r niferoedd wedi codi.  Dyma'r frithwaith a chafodd ei greu gan Melanie Watts.


A'r trydydd yay'r fainc yma gan Jeremy Turner, gyda saw greadur sydd i'w ddarganfod yn y gambles neu o gwmpas.


.A dyma rhai o luniau o'r comin cyn i'r tywydd torri: