Ailddysgu

Thursday 20 April 2023

Dau aderyn y comin lleol

Dau aderyn dynodd fy sylw ar y comin yn ddiweddar.  Y cyntaf oedd y cudyll coch, yn ei nyth: mae’r cudyll coch yn nythu mewn twll, neu mae hi yn defnyddio blychau weithiau (https://www.rspb.org.uk/birds-and-wildlife/wildlife-guides/bird-a-z/kestrel/breeding-and-nesting-habits/) ac yn aml mae nhw’n defnyddio’r un nyth flwyddyn ar ol flwyddyn. 




Mewn twll mewn coeden onnen mae’r nyth yma, yr un lle a llynedd.  Cyn nythu, mae’r adar yn cryfhau’r cwlwm rhyngthyn nhw – a falle dyma pam mae’r ddau mor agos at ei gilydd yn fama, yn ol ym mis Chwefror.  Mae’r ceiliog ar y chwith ac yn edrych braidd yn flin: newydd ddeffro mae o!.  




Yr ail aderyn ydy pibydd y waun (meadow pipit).  



Am flynyddoedd, hoffwn weld yr aderyn hwn pan roeddwn ar wyliau cerdded – ac yn cerdded ar rostir, neu yn yr uwchdiroedd.  Doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn byw yn yr iseldiroedd a dim wedi sylwi ei fod yn byw yn lleol yn y gaeaf, oherwydd  mae o’n dod i lawr i’r iseldiroedd yn y gaeaf, a weithiau, dwi’n meddwl, yn aros yma hefyd.  Bydd rhaid i fi wylio’n ofalus yr haf yma.  Dydy o ddim yn aderyn lliwgar, ond dwi’n meddwl bod rhywbeth hoffus iawn amdano a mae o’n fy atgoffa o uwchdiroedd Cymru.  Fel llawer o adar, mae’r niferoedd wedi gostwng yn sylweddol ers y saithdegau.