Ailddysgu

Wednesday 7 April 2021

Gwneud pentwr coed

Dwi wedi trio gorffen post i’r blog dros yr wythnos diwethaf - a methu.  Ta waeth. Dan ni wedi cael gwanwyn anwadal yn ddiweddar, gyda rhai diwrnodau braf iawn (am ryw dair ddiwrnod) ond wedyn wedi yn troi mor oer a wedi bod y bwrw eira yn ddiweddar hefyd.  


Ond ddoe, gyda’r plantos ar eu gwyliau, daethant draw.  Ar ol cael ymweliad i’r warchodfa leol (uchaf bwyntiau: hen wyau neidr y gwair), yn ol i’r tŷ, ac ar ol dipyn o ginio, mynd ati i wneud bentwr goed yn yr ardd, wrth y wal cefn.


Yn ddiweddar dwi wedi bod yn plannu coed newydd sydd yn dda i fywyd gwyllt wrth y wal yma.  Hyd at hyn, mae un coeden cotoneaster newydd, a coeden celyn newydd (eitha bach ar y funud), sydd wedi ymuno a Garrya Eliptica 

a viburnum ac ywen.  Mae’r ardal yma o’r ardd mewn dipyn o gysgod a dros y flynyddoedd wedi mynd yn fler a rhai phlanhigion dim yn ffynnu, felly amser am dipyn o newid. Mae’r hen garrya eliptica yn dda am ddenu adar a rhoi cysgod iddynt a felly roedd o dan y goeden i’w weld yn lle dda i’r pentwr o goed.

 

A dyna mynd ati a gofyn i’r plant nol y foncyffion 



a wedyn eu osod dan y goeden a clirio dipyn o’r tir i drio achub planhigion nad oedd wedi derbyn gofal am flynyddoedd.  Daeth y robin i’n gweld a chwilio am pryfed genwair sawl gwaith!