Ailddysgu

Monday 30 July 2018

Dwy sgwarnog


Wrth fynd am dro bach bore ’ma cyn gadael Suffolk, lle ’roedden wedi bod yn aros fel ein bod yn medru mynd i briodas teuluol, gwelais y pâr o sgarnogod yma.  [Dydy’r llun ddim rhy agos, yn anffodus.]  




Mae rhywbeth am sgarnogod sydd yn codi fy nghalon, ond dwi ddim yn siŵr os ydy o’n beth arferol i weld dwy gyda’i gilydd yr amser yma o’r flwyddyn.  Beth bynnag,

rhywbeth da i ddechrau’r dydd.

Monday 16 July 2018

Dod yn ol o’r Gŵyl Arall


A dyma fi, ym Mangor, ar y tren 9.22 a fydd yn mynd yn uniongyrchol i Milton Keynes.  Dod yn ol ar ol benwythnos pen-y-gamp yng Ngŵyl Arall.  Y ddegfed Gŵyl Arall.  Dwi ddim yn cofio pryd es i’r Gŵyl Arall gyntaf - wel, gyntaf i fi.  2OO9 efalla.  Mae pob un wedi bod yn dda ac yn wahanol.  Gwneud petha na fedraf gwneud yn ol yn MK:
  • Cyfle i siarad Cymraeg trwy’r penwythnos - mor bwysig i siarad yr iaith
  • Cyfle i ddysgu mwy am gerddoriaeth, hanes, llyfrau a diwydiant Cymraeg - a Chymreig
  • Cyfle i sgwrsio gyda ffrindiau a chyfarfod pobl newydd
  • Cyfle i cael amser i bori trwy llyfra yn siop Palas Print

A rhai o’r uchafbwyntniau?  Dyma ddau i ddechrau - o nos Wener a bore Sadwrn....
Eistedd tŷ allan i’r clwb hwylio yn y dref ar ddiwedd y pyb crôl llenyddol [ardderchog] yn gwylio’r machlud dros y Fenai ac yn canu caneuon Cymraeg



Gwneud Yoga yn yr ardd, yn y Gymraeg am y tro gyntaf.................

Thursday 12 July 2018

Y comin

Bron bob dydd dwi'n cerdded am awr ar y comin yn y bore a weithiau awr yn y prynhawn ond ar y funud  mae o'n boeth yn y prynhawn fel arfer a felly hanner awr dan ni'n gnweud ar ol saith o'r gloch.

Ond yn ddiweddar dwi wedi bod yn cerdded ar comin yn y Goedwig Newydd [?? New Forest] tra roedden yn aros gyda fy mrawd a'n chwaer yng nghyfraith, a cyn hynny yn cerdded ar comin Wareham yn Dorset.  Mae nhw i gyd mor wahanol ac eto  yn rhoi gofod i ni werthfawrogi.  Mae comin Wareham yn SSSI


Welis i ddim weision y neidr ond mi roedd hi braidd yn sych, ond  welais y llyffant du yma.   Dwi bron byth yn gweld y rhain yn ein hardal ni.

A mae pethau yn newid o flwyddyn i flwyddyn.  Dyma aderyn sydd wedi bod yn byw are ein comin ni am flynyddoedd: bras y cyrs.


Mae'r llinos yma hefyd - er ie fod ddim mor gyffredin yn ein hardal ni a hefyd eleni dwi wedi gweld y weirloyn cleisiog [esgusodwch diffyg acenion!]


dyma iar fach yr ha ddel!