Ailddysgu

Sunday 16 August 2020

Cynhaeaf

O’r diwedd mae’r tywydd crasboeth wedi darfod a dan ni wedi cael glaw, sydd yn hynod o dda i’r ardd.  Ond, gyda’r glaw, dan ni wedi cael stormydd – a dwi’n casau stormydd.  Ond rhaid dweud dydan ni ddim wedi cael gymaint a oedd wedi cael eu ddarogan.  Serch hynny mi fyddaf yn falch iawn pan mae’r tywydd wedi setlo.

 

A mae’r cynhaeaf wedi dechrau o ddifri.  Mae’r ciwcymbers wedi bod yn tyfu fel dw’n i’m be am dipyn, ond rŵan mae ‘na ddigon o ffa hefyd (a dwi wedi defnyddio rhai ohonyn nhw mewn Fasolakia -  a rhoi nhw yn y rhewgel).  Blasus!

 

Ar wahan i’r ffa ffrengyg a’r ciwcymbyr, mae digon o courgettes, tomatos, moron ac ychydig o datws. 


O a chard spinaets (ychydig iawn; ar ol i’r adar y tô ei fwyta) a letys.  Mae ffrwythau ar gael hefyd; afalau (Discovery); eirin Fictoria (sydd ddim wedi gnweud mor dda eleni yn y lleithder a’r gwres, a bydd y gellyg yn barod cyn bo hir.  Felly mae na ddigon i fwynhau a bwyta yn yr ardd llysiau. A roedd yr aubergine yma (yn y fasged) digon fawr i wneud sawl cyri!


 Ond yr adeg yma o’r flwyddyn, yn enwedig ar ol tywydd mor eithafol, mae’r ardd yn gyffredinol wedi bod yn edrych yn fler.  Llawer o blanhigion wedi mynd drosodd. Ond rŵan maen llawer wedi cael eu tocio, fel yr echinops, sydd yn denu’r gwenyn, ond ar ol gorffen yn edrych yn fler ofnadwy.  Ond mae rhai blanhigion eraill yn mynd ymlaen ac ymlaen, a hefyd yn denu pryfed, fel y Rudbeckia yma.  


 

Tyfais hon o hadau ac unwaith mae hi wedi ei seflydu mae’r blodau yn para trwy’r haf hwyr i fewn i’r Hydref.  

 

Mae’r glaw yn gwneud lles mawr i’r ardd a cyn bo hir byddaf yn dechrau paratoi am y gaeaf ac am blwyddyn nesaf.  Ond  post arall ydy honna. 

Wednesday 12 August 2020

Yn yr add ym mis Awst...

 Poeth a sych

Dwi ddim yn dda efo tywydd poeth a hyd yn oed yn waeth os oes rhagolygion o stormydd ar y gweill oherwydd fy ffobia.  Mae’r cyfnod diweddar wedi bod yn gyfnod o dywydd eithafol.  Ar y funud mae o’n eithriadol o boeth yma bob dydd a wedi bod yn sych ofnadwy, ac oes, mae ’na rhagolygion am/o? stormydd.  Ond mae o’n bosib bydd y stormydd yn ein pasio ni, neu dim yn parhau rhy hir, ond nid felly mae’r rhagolygion yn dangos.  Mae’r gardd wir angen dŵr.  Ar y funud mae rhaid dyfrio bob nos, a weithiau, os oes bosib, yn y bore hefyd.  Wrth gnweud hynny, mae’r llysiau yn ffynu.

 

Ond dydy’r ffrwythau ddim yn gnweud mor dda eleni yn yr ardd.  Mae’r eirin yn pydru ar y coeden: efallai ei fod rhy boeth a rhy llaith?  Dwi wedi cael rywfaint o eirin ond dwi ddim yn or obeithiol. Gawn weld - mi fase’n drueni peidio cael rywfaint.  Fictorias ydyn nhw - a blasus iawn!


Dwi wedi bod yn pori drwy’r eisteddfod a wedi mwynhau ambell sgwrs o’r babell len (e.e. rhwng Manon Steffan  Ros a Bethan Gwanas) a wedi mwynhau llyfr diweddara Bethan Gwans hefyd: Merch y Gwyllt.  Wnes i fwynhau digon i fi fynd yn ôl at y llyfr gyntaf: Gwrach y Gwyllt.  Mae’r ddwy nofel, dwi’n credu, mor dda.  Mae Bethan Gwanas yn sgwennu mor dda, mae’r ddau lyfr yma yn ddarllenadwy, gyda narratif gryf a chymeriadau credadwy a gry, eto, dydynt ddim yn arwynebol.  Mae rhywbeth mewn stori gwrachod yn Ewrop (a’r ffordd hynllefus roedd rhywun a oedd yn cael ei gyhoeddi o fod yn wrach, yn cael ei drin, yn dweud rhywbeth am yr agwedd tuag at ferched, a tuag at pethau nad oedd pobl yn deallt.  A rhywbeth am rhan yr eglwys a oedd yn ofni gweld pŵer merched.  Dwi’n ailddarllen  llyfrau dwi’n hoffi reit aml.  Wn i ddim os ydy pobl eraill yn gwneud yr un peth?


Ac yn ôl i’r ardd cyn gorffen.  Dwi wedi treulio oriau yn yr ardd, yn dyfrio, yn chwynnu ac yn casglu ffa, a courgettes, tomatos a chiwcymber - ond eto dydy’r ardd ddim yn edrych mor dda ar y funud.  Mi wnaf lwytho lluniau toc, ond wedi rhedeg allan o egni ar y fund!