Ailddysgu

Friday 26 February 2021

Arwyddion y gwanwyn

 Ar ol yr holl law a wedyn rhew a glaw eto, mae hi’n teimlo fel gwanwyn o’r diwedd.  Mae’r letys wedi dechrau tyfu yn y tŷ gwydr, a’r tomatos a’r aubergine yn dangos dipyn bach.  Mae nhw i gyd mewn ’propogators’ yn y tŷ gwydr felly mae dipyn o wres ganddyn nhw a bydd hynny’n parhau i’r aubergines a tomatos am dipyn.  Dwi’n meddwl i mi blannu’r hadau dipyn yn hwyrach llynedd, ond mae’n dda gweld pethau yn dechrau tyfu.

 

Mae arwyddion eraill o wanwyn yn yr ardd hefyd.  Llyffant wedi dangos ar stepan y drws!  


Eisiau dod i fewn i’r tŷ?  A mae’r gwenyn o gwmpas hefyd. 



Mae’r planhigion scilla yn amlwg yn dda ar gyfer gwenyn gynnar, a mae o’n bwysig cael planhigion tebyg oherwydd mae gwenyn yn dod allan ym mis Chwefror os ydy hi’n digon gynnes.  Gwenyn neu gwenynen ydy un o’r geiriau yna gydag ystyr gwahanol mewn ardaloedd gwahanol.  I fi, bee ydy gwenynen a hefyd bees ydy gwenyn meirch - ond mewn llefydd eraill wasps ydy gwenyn meirch, nid cacwn.  Rhaid bod yn ofalus!  A hefyd gyda llyffantod.  Erioed wedi clywed am froga tan ryw ddeng mlynedd yn ol.

 

Ac yn ola, dyma aderyn ysglyfaethus (gyda colomen) wrth yml yr ardd. 



 Yn ol Llyfr Natur Iolo (y Beibl, am enwau annifeiliaid) Gwalch Glas ydy hon, sparrowhawk, ond o be dwi’n cofio, mae Angharad Price yn defnyddio’r un enw am be faswn i’n galw’n hebog tramor: peregrine falcon.  Mae’n diddorol gweld faint o enwau gwahanol sydd ar gael!  Un lle lle mae rhai o’r enwau gwahanol yn cael eu rhestri ydy “Rhagor o Enwau Adar” gan Dewi Lewis (Carreg Gwalch).  (Fel gwelwch chi o’r teitl yr ail yn y gyfres ydy’r llyfr hwn: dydy’r llyfr gwreiddiol dim gen i).

 

Ond wrth edrych ar rhai o enwau adar ysglyfeuthus yn fama, mae gymaint o amrywiaeth.  Cymerwch ‘Cudyll’ fel engraifft.  Yr unig fersiwn dwi’n defnyddio ydy Cudyll Coch: kestrel; aderyn dwi’n gweld ar y comin yn eitha aml.  Ond hefyd, enw arall iddi hi ydy “cudyll y gwynt”: enw ardderchog am aderyn sydd yn hofran ar y gwynt.  A mae’r hebog tramor hefyd yn cael ei enwi fel Cudyll Glas, yn ogystal a sparrowhawk! I fi mae’r holl amrywiaeth mewn enwau, mor ddiddorol.

Saturday 20 February 2021

Sylwi


Post byr oherwydd dwi wedi bod yn teipio gormod ac mae’r  RSI yn fy mraich de wedi dod yn ol.


Ers dechrau’r cyfnod clo dwi wedi bod yn trio sylwi mwy, bob dydd, yn enwedig wrth fynd am dro gyda fy ffrind Teo (y ci).


Yn y dyddiau diwethaf mae’r cyfnod oer ofnadwy wedi troi i gyfnod gwlyb a dwi’n gobeithio bod yr adar wedi goroesi’r oerni (gyda cymorth yr holl bwyd dwi wedi rhoi iddynt!).  Ar y ffordd i’r comin mae coed celyn - a rhai o’r aeron yna o hyd, ym mis Chwefror.  Dyma llun ohonynt ar ddiwedd fis Ionawr – a mae rhai ar y coed o hyd. 


 Felly mae’n debyg eu bod wedi bwyta pethau eraill. Neu bod ’na gymaint o aeron nad ydynt wedi bwyta nhw i gyd.  O be dwi’n cofio, fel arfer mae’r aeron i gyd wedi mynd erbyn hyn.  Ond mae’n stori gwahanol gyda aeron eiddew.  


Ac un peth arall dwi wedi sylwi.  Ar lôn bach arall mae’r coch dan adain i’w gweld mewn cae ar ochr y lôn, a falle bod y faith bod ceffylau yn y cae, a felly tail yn denu pryfed (wn i ddim os ydy coch dan adain yn bwyta pryfed, ond pam lai) ond maent yn symud o’r cae i’r coed yn y lôn, i fwyta’r eiddew; un blanhigyn lle mae’r aeron ar gael yn hwyr yn y tymor.