Ailddysgu

Sunday 22 February 2015

Rhwng Gaeaf a Gwanwyn

Y prynhawn yma mae’r glaw yn pistillio i lawr - a llawer gwell swatio ar y soffa na mynd allan i gerdded y ci (lle mae fy ngŵr ar y funud.  Ond dwi’n medru osgoi’r cerdded oherwydd 1) es i allan am awr ben bore a 2) mae gen i glun boenus).  Felly does dim modd mynd allan i’r ardd - a dim llawer o chwant i fynd i’r tŷ gwydr chwaith.

Ond o’r diwedd, ddoe, mi rhois hadau letys i fewn, a rocet, a dechrau clirio gwely yn y tŷ gwydr ar gyfer hadau salad.  Dan ni wedi cael rywfaint trwy’r gaeaf, ond, fel gwelwch chi, dydy’r dail ddim yn edrych mor dda erbyn hyn.  Amser i ddechrau o’r newydd.  Ond gan fy mod i’n defnyddio’r pridd yn y tŷ gwydr trwy’r blwyddyn bydd rhaid rhoi dipyn o faeth i’r pridd cyn dechrau eto.   Ond o leiau mae’r hadau wedi mynd i fewn.


A roedd un greadur fach yn dechrau deffro yn y tŷ gwydr hefyd.  Llyffant wedi bod yn aeafgysgu dan darn o babur brown trwchus - un a oedd yna i gysgodi’r pupurau yn y tywydd rhewllyd.  


Roedd o i weld fel ei fod am ddeffro, ond rhois y duvet yn ôl amdano.  A falle, unwaith mae o wedi deffro bydd yn awyddus i fwyta’r malwod a ballu yn y tŷ gwydr.  Dwi’n meddwl bydd na grifft cyn bo hir.  Dwi wedi gweld llyffantod yn symud yn y pwll  yn barod.  Tua dechrau mis Mawrth, fell arfer, bydd y grifft yn ymddangos.

Allan ar y comin bore ’ma roedd y tywydd yn ddigon braf, ac yn oer.  




Roedd y pwll yn y fan yma wedi rhewi eto, a’r gwynt yn oer, ond digon o haul bore ’ma - a’r cydyll coch yn hela eto (ond yn troi ei chefn ata i heddiw).  Ond mae’r ehedydd wedi bod yn canu ers wythnos diwethaf, felly dwi’n gobeithio bod Gwanwyn ar y ffordd.

Friday 13 February 2015

Gwledd o gyfryngau Cymraeg

Dychmygwch eich bod yn beicio adre o’r gwaith ar noson oer ym mis Chwefror, a bod hi’n dywyll…… dyna be dwi’n gwneud fel arfer, ac yn y gaeaf allai fod yn ddiflas.  Ond gyda’r iphone (neu unryw ffôn “smart“), gallaf wrando ar bodlediau wrth beicio (a na, dwi ddim yn meddwl ei fod yn beryglus oherwydd dwi ond yn beicio ar llwybrau ar gyfer y beic, ac yn ffodus mae digon ohonnyn nhw yn MK).  Ac yn ystod y bythefnos diwethaf, dwi wedi cael gwledd!

Y rhaglen dwi’n gwrando arno mwyaf ydy Dewi Llwyd ar fore Sul.  Mae ei westeion o wedi bod yn ddiddorol tŷ hwnt.  Dwi wedi sôn yn barod am wrando ar Bethan Gwanas - a mae hi yn pwysleisio’r pwysicrwydd o gael bobl i ddarllen yn y Gymraeg: mae hi’n dweud ei bod hi wedi dechrau sgwennu ar gyfer y fath o berson sydd ddim yn darllen yn y Gymraeg fel arfer. Ar ôl gwrando ar Gareth F Williams, gwestai penblwydd arall ar raglen Dewi, sylwais ei fod o hefyd yn frwdfrydig dros y iaith, a dros cael pobl infanc i ddarllen yn y Gymraeg.  Yn ogystal a darllen bob llyfr Bethan Gwanas dwi’n meddwl fy mod wedi darllen bron bob lyfr gan Gareth Williams hefyd, a mae’n amlwg o’r gyfweliad gyda Dewi, bod llawer fwy o lyfrau ar y gweill! Ond cyn darllen mwy, bydd raid i fi ddarlle Awst yn Anogia, sydd yn eistedd ar y silff.  Mae rhai yn honni mae hon ydy’r nofel gorau yn y Gymraeg!

Wythnos diwethaf roedd gwestai arall arbennig (rhaid bod pobl diddorol iawn yn cael eu eni ym mis Ionawr a Chwefror!)  Tro Duncan Brown oedd o, naturiaethwr hynnod diddorol.  Cefais y fraint o gyfarfod a fo pan roeddwn yn Nant Gwrtheyrn haf diwethaf, ac ers hynny, dwi’n cyfrannu lluniau bob hyn a hyn i’r wefan Llên Natur.

A tra mae awdurion a naturiaethwyr yn siarad ar Radio Cymru, mae rhagleni da wedi bod ymlae ar S4C hefyd.  Dwi wedi mwynhau gwylio “Arctig Gwyllt Iolo Williams“.  Ac yn nes at fy milltir sgwar, dwi’n lwcus cael digonedd o lefydd i wylio bywyd gwyllt yn lleol.  Dwi ddim wedi cael  llun da o’r cudyll coch eto - ond dyma’r llun diwethaf.


Thursday 5 February 2015

Llwybr rhewllyd

Dwi wedi llwyddo i feicio i'r gwaith bron bob dydd dwi'n mynd i fewn (ond gweithio 3 diwrnod yr wythnos rwan) trwy'r gaeaf hyd at hyn, ond bore ddoe, wnes cangymeriad wrth feddwl bod y llwybrau yn glir o farrug a rhew.  Roedd y rhan fwya yn iawn, ond weithiau roedd rhaid cerdded - dyma rhan llithrig!

Dewisiais peidio a beicio'n ol ar y llwybr - gobeithio bydd digon da i dod a'r beic adre heddiw!

Tuesday 3 February 2015

Dechrau’r tymor garddio

Dwi ddim wedi edrych i weld pa hadau sydd gen i ar ôl eto, ryw fath o “audit“, am wn i, cyn prynu mwy o hadau.  Ond, ar ddydd oer, dydd Sadwrn, mi es gyda ffrind i’r ganolfan garddio yn Buckingham i brynu tatws i blanu.  Dim y lle agosaf ydy’r canolfan yma, ond mae o’n dda ar gyfer prynu tatws, gan fod gymaint o ddewis. (Ond aethon ni cyn y benwythnos tatws - dim isio mynd pan oedd o mor frysur!)

Mae o’n hawdd prynu gormod, felly ond tri fath wnes i brynu; dydy’r ardd ddim yn ddigon fawr i blannu ormod o tatws: felly “pink fir apple“:





“international kidney 

am fy mod yn hoff iawn o’r rhain.  Yr international kidney“ ydy’r math dach chi’n cael os dach chi’r prynu tatws newydd Jersey.  Hefyd dwi isio prynu rywfaint o tatws “Sarpo“ sydd wedi eu datblygu fel bod nhw yn llai debygol o cael yr haint “blight“.  Ond, be doeddwn i DDIM yn gwybod, oedd bod yr ymchwil yn cael eu gwneud yng Ngogledd Cymru - gwelir fama.  Prynais rhywbeth tebyg - Sarpero, sydd i fod yn dda os does dim digon o law.

Eleni roedd y shibwns (dim yn siwr o’r gair gorau am shallots) yn anobeithiol.  Dydyn nhw ddim yn dda mewn tywydd sych a phoeth.  Ond, dwi am drio eto, felly dwi wedi prynu dwy fath o shibwns hir: dwi’n hoff iawn o goginio gyda nhw, ond dim y rhai bach sydd yn annodd eu drin.  A dyma rhai mae fy ffrind wedi rhoi i fi, rhai a oedd hi wedi tyfu eleni.  


Edrych yn dda ac yn flasu'n dda hefyd.  

Neithiwr cawsom haen fach o eira, dim llawer, ond digon i'r ci fwynhau ei hun yn yr eira.  Mae o'n amlwg bod yr ogleuon yn dda