Ailddysgu

Friday 18 September 2020

Haf bach Mihangel

 Nodyn bach heddiw.  (Dwi wedi bod yn mwynhau ein haf bach Mihangel, a wedi bod allan gymaint (fel arfer yn yr ardd neu ar y beic) a felly dim wedi cyfrannu at y blog am fis!  Felly hen bryd. 

Ond dyma rhai o uchafbwyntiau ddiweddar. Mae’r blodau  yn gwneud yn dda o hyd yn y bordor, gyda dahlias, sedum a bloday blynyddol fel rudbeckia a cosmos, (ond bod rhai o’r cosmos ddim wedi blodeuo), a mae’r sedum yn atynu pryfed.




Gan na fedraf cerdded llawer ar y funund dwi wedi bod ar y beic dipyn, a mi fyddaf yn chwilio am fadarch: fel y parasol yma.




Es am bicnic ddoe a roedd y cae yn llawn o weidion y neidr, a oedd yn llawer rhy gyflym i fi cael lluniau.



Mae’r llysiau wedi gwneud yn eitha dda - yn enwedig y pupurau yn y tŷ gwydr, a mae’r rhan fwyaf o’r basil rŵan wedi cael ei troi i pesto.  



Ac wrth gwrs, yn ogystal a’r clirio a’r chwynnu a digod o ddyfrio, mae hefyd angen paratoi am y gwanwyn, felly dwi’n dechrau plannu bylbiau hefyd.  Mwy am hynny tro nesa falle.