Ailddysgu

Tuesday 19 April 2022

Y cudyll coch

Ar ol tywydd bendigedig am ryw wythnos a dros y Pasg, mae’r cymylau wedi dod heddiw. Dros y tywydd braf dwi wedi bod yn cerdded ar y comin fel arfer; ac yn medru mynd yn eitha gynnar yn y bore.

Dwi wedi dod braidd yn “obsessd” gyda’r cudyll coch sydd yn nythu mewn hen goeden onnen sydd wrth yml y llwybr.  Wedi dweud “nythu” defnyddio twll mae nhw.  Mae’r cuddliw mor dda, heb wybod bod nhw yna, fase chi ddim yn eu gweld nhw yn hawdd.  Dyma llun eitha agos (wedi ei chwyddo) o’r iar ar y nyth,

 

a dyma’r un golygfa o bellach i ffwrdd.  


Dydy o ddim yn hawdd gweld yr aderyn o gwbl.  Pan tynnais y llun gynta, y ceiliog oedd yn eistedd yn y nyth,

 

ond ers hynny, yr iar dwi wedi gweld.  Prynhawn ddoe, a bore heddiw, doedd yr iar ddim ar y nyth, ond y bore ’ma, roedd y ceiliog yn cadw llygad barcus arna i pan cerddais heibio.


Dwi'n teimlo mor ffodus bod yr adar yma mor agos i lle dwi'n byw.

Dwi’n gobeithio byddant yn llwyddianus a bydd mwy ohonon nhw cyn bo hir. 

Friday 1 April 2022

Yn yr ardd - Ebrill 1af

Ar ol tywydd mor braf a chynnes hyd at dydd Llun diwetha, mae’r tywydd wedi troi yn oer gyda cawodydd o eira neu eirlaw, neu glaw.  Ond wrth gwrs, gyda’r tywydd braf, blodeuo wnaeth y goeden gellyg ac y goeden eirin gwlanog.   Gobeithio bydd na ffrwythau gyda’r tywydd mor oer.  Mae rhai o’r bylbiau ( a oedd yn edrych mor dda) wedi mynd drosodd.  



Ond gan ei fod mor oer, yn y tŷ gwydr fues i am awren prynhawn yma, gyda’r ffenstri a’r drws ar gau.

 

Rhois hadau moron i fewn ym mis Chwefror, a maent wedi dechrau dangos;   




felly mae rhes ychwanegol wedi mynd i fewn rŵan a mae’r letys a’r rocet yn dechrau tyfu hefyd. Ond y cnwd gyntaf go iawn bydd y ffa  a chafodd ei blannu yn ol ym mis Rhagyr a rhes bach hefyd ym mis Ionawr, credwch chi byth.




Daeth y llyffantod yn ol i’r pwll ym mis Mawrth, ac erbyn Mawrth 12fed, roedd o fel ryw ŵyl neu ffair yn yn pwll, a medraf ond gobeithio bod y penbyliaid bach bach wedi goroesi tywydd mor oer.  




Yn aml maent yn mynd i lawr i’r dyfnder, ond gawn ni weld.  A daeth Speic yn ol hefyd i’r ardd gefn.  I ddweud y gwir, dwi’n amau mae draenog gwahannol sydd yma – ond mae’n dda gweld draenog beth bynnag.  Yn yr ardd ffrynt mae dau lwynog wedi dod o bryd i’w gilydd: un dew ac un mwy tenau.

 

Amser da ydy’r Gwanwyn.