Ailddysgu

Wednesday 25 April 2018

Gwylio byd natur

Wythnos diwethaf daeth ffrind i aros o America; ond efo fi am ychydig o ddyddiau; felly cymerais amser i ffwrdd o'r gwaith.  Ac ar ol yr holl law, dyna ni'n cael haf bach - ar ol dydd Mawrth beth bynnag.  Felly aethon am daith cerdded bore Mercher a wedyn eistedd tŷ allan i dafarn lleol i fwyta cinio.  

Ac yn hwyr yn y prynhawn, aethon i lawr i warchodfa newydd y 'Parks Trust'.  Dwi wedi sôn am MK Parks Trust o'r blaen - nhw ydy awdurdeb unedol i'r holl parciau yn MK, a mae 'na digon ohonyn nhw.  Beth bynnag, mae'r parc yma newydd gael ei drosglwyddo i'r ymddiriedolaeth a ryw bythefnos yn ol, aeth ychydig ohonon ni am dro gyda'r swyddog bioamrywiaeth i cael gweld y lle a gweld be oedd o gwmpas.  Ceirw a sgwarnogod, dyna be!  A mae hynny falle yn annisgwyl oherwydd mae Magna Parc reit wrth ymyl y traffordd [M1] a hefyd wrth ymyl warysau enfawr John Lewis.  Felly dydd o ddim fel ryw baradwys cefngwlad.

Ond efalla am bod y traffordd yn creu un ffin i'r llecyn a bod dim lôn yn mynd trwy'r parc, mae'r bywyd gwyllt yn cael llonydd.

Pan es i yna gyda fy ffrind Jenny gwelson sawl carw dwr Tseineiaidd.


Maent yn ddel iawn - gyda clustiau mawr fel Tedi bêr a does dim rheiddiau [antlers] ganddynt - ond mae ganddynt ysgithredd [tusks].

Dyma llun arall yn dangos eu clustiau mwy


Mae sgwarnogod yn ffynnu yma hefyd.  Fel arfer doedd o dim rhy hawdd cael llun digon agos on dwi'n eitha hapus gyda'r llun yma:


Mae lliwiau'r gwair a'r cynhefin yn cuddio'r ceirw a'r sgwarnogod yn dda.
A'r dydd canlynol, dydd poeth ofnadwy, aethom i'r warchodfa lleol.  Dyma llun o lygoden bengron goch a oedd yn y warchodfa.  Mae un o'r cuddfanau yn y coed [woodland hide] a mae llecyn back wedi ei osod ar gyfer y llygod - gyda canghennau wedi eu osod ar y ddaear.  Clywson y gog hefyd - ond am ryw ychydig o eiliadau.


A dyma lle mae'r llygod yn cuddio.  Ddoe, gyda fy ffrind wedi mynd, cefais gyfle i fynd allan gyda Martin [y swyddog bioamrywiaeth] o gwmpas y parc sydd yn amgylchu'r Prifysgol Agored, amser cinio, i wneud ymchwiliad i'r neidr y gwair.  Cawsom hyd i sawl un weddol ifanc, a dyma un yn llaw Martin cyn i ni ei fesur o [neu hi].


Friday 13 April 2018

Tynnu lluniau


Dwi’n perthen i grŵp bach o ferched sydd yn cyfarfod i drafod a gwella ein ffotograffau.  Rhanu a trafod ein lluniau, a trio dysgu gwella.  Y mis yma dan ni wedi bod yn canolbwyntio ar lluniau bywyd gwyllt.  Felly dyma rhai o’r lluniau rhannais gyda'r grŵp:


Dwi wastad yn trio cael llun gwell o'r cudyll coch - ond dim wedi llwyddo eto.


A dyma gwyach gawr gopog a tynnais yn y warchodfa dydd Sadwrn.  Diwrnod sych am unwaith.


Dwi'n hoffi hon am ei fod yn edrych at y camera.



Dwi mor hoff o jac-y-dos - a'r holl teulu brain.  Mae nhw mor glyfar.  Roedd y rhain yn nythu ym Mhalas Esgob Tyddewi, a falle dyna pam roedden nhw'n iawn gyda fi yn mynd yn eitha agos atyn nhw - wedi arfer gyda pobl.

A dyma hwyaden ddanheddog.  Mae'r rhain i'w gweld ar ein afon ond mae yn anodd i dynnu lluniau da - maent yn hedfan i ffwrdd y funund dach chi'n agosau.  'Roedd hon, yn Besancon yn Ffrainc, dwy neu dair flynedd yn ol, dipyn mwy fodlon!



Monday 2 April 2018

Taith cerdded yn Shropshire

Dydd Sul diwethaf oedd diwrnod cyntaf y taith cerdded eleni – dyma taith mae grŵp ohonon ni yn gwneud bob blwyddyn.  Cerdded llwybrau fel y llwybr arfordir Cymru ac yn aros mewn lle gwahanol bob nos. Dwi’n meddwl, erbyn hyn ein bod wedi gwneud ryw ddeuddeg daith fel hyn, er bod y grŵp wedi gwneud rhai cyn i fi ymuno.  Y daith gyntaf un i fi ymuno ynddo r’oedd y Shropshire Way, a dyna beth roedden yn cerdded eleni hefyd.  Wedi gwneud rhan un llynedd a tro yma yn decharu yn Ludlow [oes mae ‘na enw Cymraeg i Ludlow ond dwi ddim yn cofio fo].

Cawsom amser hyfryd.  Dechrau gyda cinio ar ol cyrraedd Ludlow, a wedyn taith cerdded bach hyd at ’AngelBank, dim nepell allan o Ludlow, a cherdded i fynny i’r tafarn ’Golden Cross’ am frechdan gyda’r nos.  Siawns i ddeffro’r cyhyrau! Gwelson ddwy ’sgwarnog a digon o fwncathod, cyn ddrigo ’Clee Hill’ y ddiwrnod wedyn. Digon o ddiddordeb yn fama hefyd: yr haul yn gwenu, a golygfeydd hyfryd yn ogystal a hanes diwydianol. Mwy o fwncathod, cudydd coch a hebog tramor.  Digon o hen chwareli iddyn nhw nythu ynddynt, dwi'n meddwl.



Ar ol glawio yn ystod y nos, ’roedd hi’n bwrw yn ysgafn pan roedden ni’n dechrau cerdded bore Mawrth, ond yn fuan, wneth y law peidio.  Ond dwi bron erioed wedi gweld llwybrau mor wlyb a gyda gymaint o fwd a baw gwartheg arnynt.  Cerdded i Much Wenlock i aros mewn hen dafarn, Y Fox.  Cerdded ar hyd 'Wenlock Edge' a heibio hen blasdy; Wilderhope Manor, lle arhoson y tro diwethaf gwnaethon y taith yma.


Hen dafarn hyfryd yw'r Fox - a bwyd hyfryd hefyd.   Ar ddydd Mercher cerddodd rhan fwyaf o’rgrŵp i Little Wenlock - a chael cinio yn Ironbridge. 
Tref gyda gymaint o hanes ddiwydianol - ond dim digon o amser i aros ac i edrych o gwmpas  dydd Mercher. Gorffenais y taith yna am y ddiwrnod - doeddwn i ddim isio or-ddefnyddio fy mhenglin.

Nos yn Little Wenlock a wedyn cerdded i Wellington: cael cinio cyn dal y tren yn ol i MK.