Ailddysgu

Monday 24 July 2023

Yr ardd sych


O’r diwedd, dan ni wedi cael glaw sylweddol.  Ryw wythnos yn ol, cawsom ddiwrnod o law a lenwodd y pethau-dal-dwr, a’r pwll, a rhoddodd dwr i’r blanhigion i gyd, ond wedyn daeth gwyntoedd cryf ac ar ol ryw bedair diwrnod, roedd pobman bron yn sych eto.  Ond dydd Sadwrn, roedd hi’n bwrw eto a heddiw mae him am wneud yr un peth, felly dwi’n siwr bydd y blanhigion yn gwerthfawrogi hynny.  A be a wnelo hyn a'r dylluan fach?  Wel, mae'r teulu ( o dylluanod bach) yn byw ond ryw 15 mumud (cuerdded) i ffwrdd a dwi'n sier byddan nhw'n falch o'r glaw.  Bydd hela am bryfed genwair llawer yn haws! 

 Mae’r ardd yma wedi dod yn le anodd i’w edrych ar ei hol mewn un ffordd.  Mae’r pridd yn hawdd ei weithio, ond yn colli lleithder mor gyflym.  Felly mae’n bwysig i adeiladu pridd sydd yn medru gwrthsefyll sychder, gyda tail a chompost.  Wel, mae’r tail yn mynd i fewn i’r compost - dan ni’n ffodus bod na ddigon o geffylau o gwmpas, felly pan dwi’n dod ar draws tail ar y llwybr neu ar y comin, dwi’n ei chasglu o a mae o’n help mawr i’r compost.  

 

Gyda’r glaw yn disgyn dydd Gwener, treuliais i amser yn y tŷ gwydr yn trio cael ryw drefn ac o’r diwedd mae’r planhigion yn dod ymlaen er ei fod hi braidd yn oer ar y funud!  (Cyfle felly i blannu mwy o hadau letys sydd ddim yn llwyddo yn dda yn yr haf).  


Mae’r aubergines a’r ciwcymbers yn dod ymlaen yn dda rŵan a dwi’n gobeithio bydd y pupurau yn llwyddo hefyd.  Dim gormod o basil eleni, ond digon i wneud pesto i’r ŵyrion.  Ac yn yr ardd ei hun, mae yna ddigon o ffa Ffrengyg; courgettes yn dechrau; a’r mafon bron wedi gorffen - o ia, a mŵyarduon yn dod ymlaen yn dda (i’r rhewgell i fynd gyda afalau yn yr hydref a’r gaeaf).  Unwaith dwi'n cael y lluniau i lwytho i'r cyfrifiadur (dweud na ar y funud) wnaf ychwanegu lluniau.

 

Ddois ar draws y wefan yma bore ’ma, sydd yn syniad mor dda.  Cael blodau sydd wedi ei tyfu yn lleol.  Mae ôl carbon blodau yn fawr iawn, felly dyma ffordd i gael flodau gwych, lleol.

 

Ddois ar draws y wefan yma bore ’ma, sydd yn syniad mor dda.  Cael blodau sydd wedi ei tyfu yn lleol.  Mae ôl troed carbon blodau yn fawr iawn, felly dyma ffordd i gael flodau gwych, lleol.  https://www.flowersfromthefarm.co.uk/

 

Dan ni’n ffodus yn fama, mae rhywun yn tyfu blodau ond ryw filltir i ffwrdd, a mae siop blodau lleol yn eu gwerthu.

Monday 10 July 2023

Gŵyl Arall 2023

Dwn i'm faint o’r rhain (Gŵyliau  Arall) dwi wedi mynychu dros y flynyddoedd.  Mae nhw wastad wedi bod yn hwyl a bob un yn wahannol.  Ond dau ddiwrnod i fi eleni.  Cyrraedd nos Wener a gadael prynhawn Sul.  Ar ol noson heulog poeth ar gyfer y Pyb Crôl Llenyddol, nos Wener (dechreuad gwych fel arfer) roedd y tywydd mwy gymysg dydd Sadwrn a roeddwn inna’n flinedig.

 

Ond, serch hynny, cefais modd i fyw wrth glywed Jon Gower yn siarad a Julie Brominicks am ei llyfr: The Edge of Cymru, am gerdded o gwmpas Cymru: wel, mwy na hynny, oherwydd mae hi’n rhoi y daith mewn ei gyd-destyn - gyda hanes Cymru, a’r effaith cafodd y daith arni hi, a’i hunaniaeth a.y.y.b.  Beth bynnag, annwyl ddarllenwyr, prynais y llyfr ac edrychaf ymlaen at ei ddarllen.

 

Wedyn cawsom glywed gan Sian Llewlelyn a Peredur Glyn am ei lyfrau nhw: Darogan a Pumed Gainc y Mabinogi.  Nofel a chasgliad o storiau byrion.  A rhwng cerdded o gwmpas Doc Fictoria, ar yr arfordir a digwyddiadau dydd Sul, darllenais Darogan a gorffenais y llyfr ar y tren.  Fel mae Geraint Lovegreen yn dweud a y clawr ro’n i’n cael trafferth i roi’r llyfr i lawr hefyd!  A mae Llyfr Peredur Glyn ar fy rhestr pwnblwydd (penwythnos nesa!).  I fi mae Gŵyl Arall yn gyfuniad o gael crwydro’r dref a’r ardal; cerdded dipyn ar yr arfordir; cael sgyrsiau difyr gyda phobl dwi’n nabod a weithiau (fel y tro yma gyda pobl dwi newydd cyfarfod fel y merched o Sir Gaerfyrddin); darganfod a phrynu llyfrau newydd diddorol a chael siawns i glywed yr awduron yn siarad amdanynt.  Yn aml mae cerddoriaeth yma hefyd.  Y tro yma, y cor “Kana”: gwych !

Ac i rywun sy’n byw yn Lloegr cael cyfle i wneud popeth yn Gymraeg!  Ond cyn gorffen, rhaid dweud bod taith Rhys Mwyn yn bendigedig fel arfer.  A’r tro yma, dim glaw!