Ailddysgu

Sunday 25 October 2015

Robin goch yn y tŷ gwydr

Dwn im am bobl eraill, ond mae rhaid i fi fynd trwy'r holl lluniau dwi wedi cymryd a sydd ar y cyfrifiadur, a cael gwared o cyn gymaint a medrai, yn weddol aml.  Gyda camera digidol, fel pawb arall, dwi'n tynnu llawer mwy o luniau nag yn yr hen dyddiau, ac er bod rhai yn dda, mae na lawer sydd yn mynd i'r basged bach 'na yn nghornel sgrîn y cyfrifiadur.

Beth bynnag, bore ma, gyda'r amser wedi newid, ond wedi dyhuno yn eitha gynnar fel arfer, penderfynnais gwneud dipyn o sortio ar y lluniau.  Mi ddois ar draws un o'r cornel pellach yn y tŷ gwydr, yn ol ym mis Mai.  Dyma fo.


Llanast fel arfer, ond wrth edrych yn fwy fanwl, gwelais robin bach yn eistedd ar gefn y cadair sydd yna.

  Mi roedd 'na sbel llynedd pryd roedd robin yn dod i'r tŷ gwydr reit mal, ond dwi ddim yn cofio fo'n dwad eleni.  Beth bynnag, braf oedd gweld y 'deryn bach yn y llun.

Tuesday 20 October 2015

Cerdded

Pedwar diwrnod o gerdded (y rhan fwyaf) yn yml Coniston (ardal y llynoedd).  Gwych.  Yn enwedig gyda’r tywydd yn sych, a’r dail yn troi lliw.  Mae gennyn ni hen ffrind (ffrind hen, hefyd, mae hi’n 95) yn byw yn agos at Coniston a bob blwyddyn dan ni’n mynd am trip bach.  A bob tro dan ni’n cyrraedd, dwi’n sylweddoli eto, fel o’r dechrau, mor hardd ydy’r ardal.  Y tro yma, wnaethon ni ddim fynd am dro newydd, ag un peth gyda’r hen ffefrynau ydy bod ni’n gwybod y ffordd a dim yn mynd ar goll, a dim yn gorfod edrych ar y map.


Dyma rhai o’r lluniau


Ar ein ffordd, heibio'r llyn i "Tarn Howes"


A mae gerddi "Monks Coniston" ar y ffordd.


A dyma'r llyn mynydd ei hun.  Mae'n lle boblogaidd, ond mae'r rhan fwyaf o'r ymwelwyr yn gyrru i fynny i'r maes parcio, ond yn colli taith hyfryd i fynny (ac i lawr).  Un hoff taith cerdded ydy taith o gwmpas Elterwater.  




Dyma'r olygfa ar ol dringo trwy'r coed


A dyma'r defaid "Herdwick" sydd yn perthyn i'r ardal.  Dwi wrth fy modd efo nhw.  Mae'r wyn yn eitha dywyll, fel y rhain - ac wrth tyfu, mae'r lliw yn newydd.




Saturday 10 October 2015

Pigion o'r ardd

Am tywydd gwych dan ni’n cael ar y funud.  Ar ol dipyn o law (yn dilyn cyfnod digon sych) mae’r haul allan eto: dyma llun o’r tren ddoe pan oeddwn yn teithio i Shrewsbury i weld ffrind. (Dinas bach (neu dre?) dymunol iawn - ’rioed wedi bod o’r blaen).

Yn ol yn yr ardd mae digon i’w gwneud o hyd.  Gyda’r diwrnodau byr, dwi wedi bod yn tynnu plisg y cnau gyda’r nos - gymaint o gnau eleni: dyma’r cnau gwreiddiol…..a wedyn ar ol ’prosesu’ nhw….. 


wedi eu casglu….


Ac ar ol tynnu'r plisgyn allanol….


A'r plisgyn nesa'.

Cymryd oes - rwan dwi'n gwybod pam mae cnau yn ddrud yn y siopau!

Am ryw reswm, mae’r pry moron wedi cadw draw eleni yn yr ardd - o rywfaint o’r moron beth bynnag.  Fel arfer bydd rhaid tyfu’r moron yn y tŷ gwydr, ond mae rhain digon dda!