Ailddysgu

Thursday 28 March 2013

Bwyd o'r ardd a darllen

Er ei fod more oer dydd Sul diwethaf penderfynnais cael riwbob o'r ardd i wneud crymbl, ac ar ol tynnu'r riwbob (allan o'r rhew ac yr eira) dyma fo, cyn ei goginio



Ond dwi ddim yn meddwl bydd llawer ar ol i dynnu eto, nes iddo fo gael dipyn o wres a haul i dyfu eto.

Gan ei fod more oer, mae'n braf eistedd o flaen y tan yn glud a gwneud dipyn o ddarllen.  Ac ar ol rhoid Y Storiwr i lawr, mi wnes i ail-ddechrau ar Petrograd.  Tro diwethaf, darllenais ryw 50 tudalen.  A'r tro yma, dwi wedi cyrraedd tudalen 100, ond mae'r stori yn mynd ymlaen braidd yn araf, ar y funud, yn fy marn i.  Os dwi yn llwyddo i orffen y llyfr, mad na ddau lyfr arall i ddarllen yn y gyfres, ac am fod Petrograd yn lyfr trwchus, digon i gadw fi'n mynd am ychydig o amser!

R'on yn drist gweld y newyddion yn y Guardian am siopau llyfrau annibynnol yn cau.  Fel dych chi'n gwybod os dach chi wedi bod yn darllen be dwi wedi sgwennu o'r blaen, dwi yn archeb fy lyfrau o Pala Print sydd yn cynnig gwasanaeth ardderchog.  Mae llyfrau yn dod yn gyflym trwy'r post ac os dach chi'n byw digon agos, cewch coffi a pori trwy'r llyfrau mewn awyrgylch cyfeillgar, a mae'r perchenog yn gweithio gydag ysgolion lleol ac yn cefnogi bob fath o ddigwyddiadau.

Friday 22 March 2013

Yma o hyd


Wel dyma fi o flaen y tân, gyda’r ci a’r cath…a fy ngŵr a fy mab – a’r eira yn disgyn ty allan…… ond dim fel yma oedd pethau i fod.  

Ro’n i i fod yng Nghaernarfon , heno, ond gyda’r tywydd a’r ffaith bod mwy o eira ar y ffordd yn ôl bob sôn, penderfynais peidio mynd yn y diwedd.  Y cynllyn oedd i fynd i cwrs adolygu un-dydd ym Mangor (fory) ar gyfer yr arholiad ym mis Mehefin.  Yn ffodus, mae cwrs arall mis Mai, ac efallai bydd y tywydd dipyn yn well!  Ond yn y cyfamser, mi fyddai’n trio gwneud dipyn o’r gwaith sydd angen ar gyfer yr arholiad.

Sunday 17 March 2013

Rhew ac eira



Mi ddaeth y gaeaf yn ôl i frathu, yr wythnos yma.  Ond pedwar diwrnod ar ôl dŵad, dyma’r grifft yn y pwll, wedi rhewi i gyd.  Dwi ddim yn meddwl bod llawer o obaith iddyn nhw goroesi, ond gawn ni weld.

Mi aethon ni  i Ludlow dros y benwythnos i aros gyda ffrindiau.  Lle braf i grwydro, a digon  o lefydd ardderchog i fynd am dro.  Ond ar ol stidio bwrw pnawn Sadwrn,  mi roedd haen o eira dros y dre bore Sul.  Dyma lluniau o’r olygfa o’r comin, ac yng nghoedwig Mortimer.



Sunday 10 March 2013

Y babis newydd... a mwy arwyddion o’r Gwanwyn



Mi ddaethon nhw yn y nos....... (efallai) ac erbyn dydd Gwener, roedd sawl glwmp o rifft yn y pwll.  Dipyn yn hwyrach nac arfer. A dyma un o’r oedolion - anodd i gael llun, mae ein llyffantod ni yn swil iawn!


Saturday 9 March 2013

Clwb Darllen Llundain: Trafod Saer Doliau gyda Aled Pedrick


Cawsom drafodiaeth diddorol iawn yn ein clwb darllen ryw bythefnos yn ol, pan ddaeth Aled Pedrick, cyfarwyddwr y ddrama,  i ymuno a ni i drafod Saer Doliau 

Roedd rhai ohonon ni wedi mynd i weld y ddrama yn Theatr y Finborough ar ddechrau mis Chwefror, .  Fel sgwennais ar y pryd, doeddwn i ddim yn siwr o gwbl am “ystyr“ y ddrama.  Roedd y ddrama wedi ei gwrtogi - ond roedd cynhyrchiad Aled Pedrick yn ffuddiol iawn i’r ddrama gwreiddiol.  Mae rhaid dweud, wnes i ddim sylwi ei fod wedi ei gwrtogi, ar ol darllen y ddrama.

Cododd y cwestiynau amlwg: pwy oedd y Giaffar?   Pwy ydi’r merch?  chwant? amser? Enigma?  Un peth nad oeddwn wedi sylwi, ond mi roedd yn amlwg wrth edrych yn ôl, oedd y ffordd bod y ddrama yn datblygu ac yn symud o geiriau i byd gorfforol.  Yn ôl Aled, roedd adolygiau o’r byd Saesneg yn awgrymu bod y gynulleidfa wedi dallt be oedd yn digwydd heb dallt yr iaith.  

Gwnaeth y drafodiaeth i fi feddwl o’r manteision o berthyn i fyd bach Cymraeg - dwi ddim yn medru dychmygu cael y cyfle i wrando ar gyfarwyddwr ddrama Cymraeg yn siarad am ei waith ar ol gweld drama.

A dyma llun o Aled gyda ni yn y clwb darllen - gwnes i ddim lwyddo i gael pawb i fewn i'r llun yma - ond James! (sydd ar y chwith)