Ailddysgu

Friday 10 August 2018

Clirio pethau a’r cynhaeaf


Dwi ddim yn naturiol yn ’minimalist’, ond weithiau dwi yn trio cael rywfaint o drefn a hefyd yn gobeithio os dwi’n medru cael gwared o rai bethau, bydd llai o gwmpas a mwy siawns o fedru ffeindio pethau!

Mae ’na fasged yn yr ystafell bwyta yn eistedd ar y cadair a dyna lle mae rhai pethau yn mynd nad oes ganddynt gartref benodol........a wedyn dwi’n mynd trwyddi a darganfod ryseits, mapiau a phob fath o bethau.  


Ac ar ol trio ffeindio cartrefi iddynt am ryw hanner awr dwi’n cofio pam dwi ddim yn hoffi’r ’tacluso’ ’ma!

O’r diwedd ar ol tywydd poeth trwy mis Mehefin a Gorffenaf [poeth iawn] a dipyn o Awst mae hi wedi oeri dipyn ac yn BWRW GLAW ar y funud.  Yn sicr dan ni angen dipyn o law ar ol ryw ddeg wythnos heb llawer o gwbl.  ’Roedd stormydd yn rhai llefydd ar ddiwedd Gorffenaf ond dim llawer o law yn fama.

Ac yn y tywydd braf, poeth, mae’r tŷ gwydr wedi bod yn gnweud yn andros o dda: pupurau [dim yn aeddfed eto], ciwcymber, letys, aubergine a tomatos - o, a basil ar gyfer gwneud pesto. 





Ac yn yr ardd, cawsom llawer o ffa Ffrengig, ond wedi i’r tywydd craspoeth dechrau doedden nhw ddim mor dda.  A tatws, ac eirin.  Beth bynnag, gyda’r glaw, os oes digon ohoni hi, ddylie’r planhigion sydd wedi bod yn dioddef dechrau dod yn ol.