Ailddysgu

Sunday 31 March 2019

Diwedd mis Mawrth

A dyma ni ar ddiwedd mis Mawrth.  A fel y dywediad Saesneg – death y mis i fewn fel llew.  I di, ddechreuodd y mis gyda penwythnos yng Nghaernarfon yn y Gŷyl, (Gŵyl Ddewi Arall) felly digon o bethau Cymraeg a Chymreig – a gorffennodd (oes dwy 'n' tybed?) gyda ysgol undydd yn Llundain, ddoe.  Mae o’n rhyfedd meddwl bod fy Nghymraeg, y dyddiau yma, yn digwydd mewn llefydd mor wahanol:  un mewn tref bach wrth ymyl Eryri – felly digon agos i lefydd prydferth a tawel, wrth y môr neu yn y mynyddoedd, a’r llall mewn dinas enfawr swnllyd. (A dipyn bach o siarad yn digwydd yn MK o bryd i'w gilydd).

Eto dwi mor falch bod Llundain digon agos.  Mae’r gweithgareddau Cymraeg yn y ganolfan yn ofnadwy o bwysig i fi.  Mae’r clwb darllen yn fy ysbrydoli I ddarllen llyfrau na fyddwn yn darllen fel arall.  Mi faswn byth wedi darllen O Tyn y Gorchydd, fel engraifft.  A mae rhaid bod gymaint o ddarllen yn helpu fi gyda’r gramadeg, er fy mod i’n dal i gamdreidglo, wrth gwrs.  

’Roedd yn ardderchog, ddoe, cael canolbwyntio ar y gramadeg gyda Gwen yn diwtor i’r grwp uwch, a ddois yn ol, ar ol diwrnod gwych, gyda llawer o nodiadau.  A’r peth sydd rhaid i fi gofio ydy mynd yn ol at y nodiadau a gnweud dipyn o ymarferion.  (A dwi wedi gaddo i fy hyn i wneud hynny!)

Ond heddiw, Sul y mamau, ’roedd yn amser teuluol, ac amser i wneud dipyn bach mwy yn yr ardd.  Mae’r cyfrifiadur yn gwrthod lawrlwytho lluniau o’r iphone, felly dim lluniau o’r ardd, ond dyma un llun o ehedydd ar y comin.



Wednesday 6 March 2019

Penwythnos Gwyl Ddewi Sant Arall: gwledd o Gymraeg

Os bosib dwi'n treilio Gwyl Ddewi yng Nghaernarfon yng Ngwyl Ddewi Arall.  Cyfle i siarad Gymraeg, bod yn ol yng Nghymru  a mwynhau digwyddiadau gwahanol:  llenyddiaeth, hanes, celf a.y.y.b.  Fel arfer, roedd yr wyl eleni yn ardderchog.

Ac ar ol i ddigwyddiadau'r wyl gorffen - gyda taith gerdded hanesyddol Rhys Mwyn (sut mae o'n darganfod pethau wahanol iw ddangos i ni bob tro, tybed?) ac ar ol storm 'Freia' (ddim mor ddrwg a'r disgwyl), aethom ar daith bach i Lanberis.  Dwi ddim wedi bod yna am ryw 15 mlynedd.  Doedd y tywydd ddim rhy dda  - ond cerddon i fyny at y rhaeadr, ac i weld castell Ddolbardarn - un o'r castelli Cymraeg.



Mae bod yang Nghaernarfon hefyd yn gyfle i brynu mwy o lyfrau Cymraeg.  Dyma be brynais i dros y penwythnos:

Dwi wedi gorffen darllen Perthyn (Gwych!) a hefyd Dan Bwysau - felly rhaid i fi ddewis be dwi am ddarllen nesaf - falle Ar Drywydd Llofrudd.  Awdur newydd - clywais i o yn son am y llyfr.  Sownio'n ddiddorol.