Ailddysgu

Saturday 30 October 2021

I fewn ac allan

Trwy’r Hydref dwi wedi bod yn meddwl: wel dydy o ddim mor ddrwg: chai dyddiau heulog, llywiau gwych ar y coed, ond rwan, gyda’r amser yn newid, dan ni ar fin gaeaf go iawn.  Mae cryn dipyn o law wedi syrthio, yn enwedig ar ddydd Gwener.  Felly roedd o’n amser da i fynd i weld arddangosfa o luniau Laura Knight.  Ac am arddangosfa hefyd.  Er fy nghwilydd, wyddon i lawer ddim am yr artist yma a roeddwn wedi fy syfrdanu: gymaint o amrywiaeth o ran arddull a chynwys, a mor hardd!


Dyma rhai roeddwn wir yn hoffi:



dwi ddim yn cofio teitl hon, ond portread o tad a’i ferched ydy hon, a mor naturiol, bron yn gyfoes rywsut. (llun).  


A dyma llun gwbl wahanol:



tirlun o ran o Lundain.  Mae ’na botreadau gwych hefyd:

 

Erbyn prynhawn ddoe roedd yr haul yn gwenu a felly es am dro cyn gweithio dipyn ar yr ardd, sydd ddim yn cael y sylw mae hi angen.  Dwi’n hoff o’r llwybr bach yma sydd yn arwain at llyn bach.  




A wedyn amser i ddechrau cael dipyn o drefn ar yr ardd a’r tŷ gwydr.  Dwi wedi casglu’r afalau i gyd rŵan.  Dan ni’n dechrau’r tymor gyda “Discovery”: afal cynnar iawn, ond dim yn cadw.  Wedyn mae’r Laxton Superb, coeden yng nghanol yr ardd llysiau yn ffrwytho; mae blas hyfryd ar y rhain, a wedyn yn hwyr, yr afalau coch - ond dwi wedi anghofio enw’r coeden!  Heblaw am y Discovery, sydd ddim yn cadw, mae’r ddau arall yn cadw am dipyn, ond rhaid cael afal dda iawn i gadw.  Erbyn hyn, mae’r adar wedi dechrau pigo tyllau ynddyn nhw, yn anffodus.

 



Ond dipyn bach o amser wedyn i glirio blanhigion sydd wedi gorffen, fel y courgettes, a chlirio yn y tŷ gwydr hefyd.  Mae’r ciwcymber bron wedi gorffen a mae lwydni i’w gweld arni hi.  Felly bydd yn gwneud lles i’r compost .  Llawer mwy o waith i’w gnweud on bydd rhaid aros rŵan tan prynhawn yma. 

Thursday 14 October 2021

Darllen a deg gair (pump i ddechrau!)

Un o’r pethau anffurfiol dwi am wneud ynglyn a dysgu Cymraeg ydy dysgu 10 gair newydd yr wythnos. Pan ddechreuais i ailddysgu Cymraeg, a dechreuais darllen llyfrau, roedd llawer o eiriau do’n i ddim yn adnabod, a’r trefn roedd sgwennu nhw i lawr mewn llyfr bach.  Ond ers rhai blynyddoedd dwi ddim wedi gnweud nodyn o eiriau newydd.  Fel arfer mae’r cyd-destyn yn ddigon i gael yr ystyr bras – ond weithiau mae rhaid chwilio yn y geiriadur.  Ond mae cofio’r gair yn rhywbeth arall, a dyma’r nod gyda sgwennu nhw i lawr.  (Mae’r geirfa yn ehangu wrth darllen llyfrau, ond yn araf iawn).  Byddaf hefyd yn trio eu ddefnyddio pan dwi’n sgwennu, er dwi ddim yn siŵr faint byddaf yn defnyddio “chwenych”: gair sydd yn teimlo ei fod wedi dod allan o’r Beibl, i fi ( ac yn wir, mae o yn gair Beiblaidd) .  “Covet” yn Saesneg ( a mae on yn bechod hefyd!).  Ond erbyn feddwl, dwi yn edrych ar randiroedd tŵt a llewyrchus gyda rywfaint o genfigen....

 

A pha geiriau eraill sydd yn fy rhestr o ddeg?  Dwi ond wedi cyraedd 5 hyd at hyn a dyma nhw:

Glaw-len: enw dwi erioed wedi ei gweld o’r blane am ‘ymbarel’

Chwennych, fel sgwennais

Dethol – dim gair newydd ond un ro’n i ond wedi dallt trwy’r cyd-destun ( to select ydy’r berf, a mae’r gair detholiad yn ddigon gyffredin)

Trosol (crowbar).  Hmm dim yn siwr pryd byddaf yn defnyddio hwn, na’r nesaf

Anllad (obscene)

 

Mi ddois ar draws y geiriau yma wrth ddarllen llyfr Siân Northey, Celwydd Oll, un o’r llyfrau ail-law prynais yn Llandeilo.  Casgliad o storiau byrion ydy’r llyfr, ac yn y llyfr yma, mae Sian yn esbonio’r gwreiddyn bach gwir a oedd wedi ysbrudoli pob stori.  Fel arfer dwi ddim mor hoff o storiau byrion, ond dwi yn newid fy meddwl.  Mae’r rhain yn ardderchog, a dwi newydd archebu casgliad arall gan Siân.

Friday 1 October 2021

Llandeilo

Dwi ar fy ffordd yn ôl o Landeilo, wedi treulio 3 diwrnod gyda fy ffrind Jan.  Cawsom glaw trwm ar y taith i Landeilo a glaw trwm ddoe, hefyd, ond cawsom diwrnod haelog dydd Mercher, felly i ffwrdd a ni i wneud dipyn back o gerdded ar y bryniau  cyn ymweld â Charreg Cenen.  (Gwelir https://cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/carreg-cennen).  Er bod llawer o’r castell yn adfail rŵan, roedd o’n edrych fel bod yr adeilad gwreiddiol o safon dda.  Rhaid bod adeiladwyr gyda sgiliau gwych yna ar y pryd.  Mae’r olygfa o’r castell yn ddrawiadol, beth bynnag. 

 


 gydag olygfeydd ardderchog o’r cefn gwlad o gwmpas.  (llun).  ’Roedd wir yn braf cael cerdded mewn lle bryniog ar ol y llefydd wastad yn MK.

 

A wedyn eistedd yn yr haul yn cael teisen a phanad, a gwylio'r wenoiliaid cyn ymweld a chastell Dinefwr, castell arall gydag olyga bendigedig, a cherdded trwy’r parc a gweld y coed hynafol a’r ceirw.




 Ddoe gyda’r glaw trwm yn ol, aethom yn ol i Dinefwr ond i grwydro o gwmpas y tŷ (a cadw’n sych yn y glaw), ac i’r siopau yn Llandeilo wrth gwrs, i brynu llyfrau Cymraeg ail-law.

 

Ond heddiw gyda’r haul yn gwenu eto, ’roedd cyfle i grwydro o gwmpas Cwm Du ac ymweld a’r hen abaty yn Talyllychau a mynd am dro bach o gwmpas y pentre a dringo i fyny rywfaint i cael gweld yr olygfeydd.  Cefais sgwrs diddorol yn siop y tafarn yng Nghwm Du gyda un o drigolion y pentre sydd wedi byw yno am 84 flwyddyn.  Acen hyfryd (a thafodiaith) Sir Gâr.  Ond trist iawn oedd clywed nad oedd neb, bron,  o gwmpas (ar wahan i’w deulu ei hyn) yn siarad Cymraeg bellach.  Ydy o’n gofyn gormod i bobl dŵad gnweud rhyw ymdrech gyda’r iaith?  Mi ŵn bod Cymraeg yn medru bod yn anodd i’r Saeson, a mae rhai yn dysgu ac yn gwneud yn dda, ond mae rhai ddim hyd yn oed yn medru (neu yn dewis) dysgu dweud Bore Da, p’nawn da, neu diolch.  Ond beth bynnag roedd cerdded o gwmpas Talyllychau ac ymweld â’r abaty yn brofiad gwych.