Ailddysgu

Monday 27 July 2020

'Wal' a draenogod

Be ydy’r cysylltiad rhwng y llun yma o’r ddraenog sy’n byw yn fy ngardd a’r llyfr ’Wal’ gan Mari Emlyn?

 

Dyma’r ddraenog sydd yn byw yn yr ardd (mae hi/o wedi cael yr enw creadigol ’Spike’: enw’r bwyd dan ni’n prynu iddo fo neu iddi hi).  




A mae’n byw yn y bocs yma (ar gyfer draenogod)



 ac yn dod allan gyda’r nos, a fel arfer yn bwyta’r bwyd dan ni’n gadael allan: ond dim bob nos.  Bore ’ma roedd y bwyd yna o hyd a dyna pryd dwi’n poeni a gobeithio ei fod ddim wedi cael damwain (dan ni’n byw yn eitha agos i lon brysur). Dipyn dros wythnos yn ol clywais sŵn pan roeddwn yn bwyta yn yr ardd a dyna’r draenog, wrth ymyl y bocs draenog.  A wedyn symud ar hyd gefn y bordor ac allan o’r ardd o dan y drws.  Y peth pwysig ydy bod y draenog yn gallu mynd o dan y drws: mae ’na ddigon o le.



 A fel mae’n digwydd dyma rhan o’r ysbrydoliaeth tŷ ol i’r llyfr Wal gan Mari Emlyn.  ’Roedd hi wedi sylwi ar gymaint o waliau, yn lythrennol, yn cael eu hadeiladu rhwn tai ac yn rhwystro cymdogion rhag cael sgwrs hamddenol gyda’r pobl drws nesa, a wedi bod yn meddel am waliau, yn lythrenol ac yn drosiadol.  Hefyd ’roedd hi wedi mynd i ddarlith yng Ngŵyl y Gelli am ddraenogod.  Mae’r niferoedd o ddraenogod wedi gostwng yn enfawr.  Maent yn llwyddo yn well y dyddiau yma mewn gerddi (gormod o blaladdwyr yng nghefn gwlad, falle?).  Ond, fel bywyd gwyllt eraill mae’n bwysig iddynt cael coridorau rhwng gerddi i symud o gwmpas, a felly mae waliau yn medru bod yn broblem os nad oes ffordd allan.  A mae waliau’n creu problemau i ni hefyd.  A dyma thema’r llyfr.

 

Mi wnes i adolygiad o’r llyfr ar gyfer Golwg (Tri ar y tro) yn ddiweddar.  Dyma rhan o fy atebion  i’r holiadur: “Methu ei roi i lawr neu bori ynddo’n hamddenol bob hyn a hyn? Unwaith nes i ddygymod âr steil – sydd yn wahanol iawn i’r mwyafrif o nofelau, roeddwn i isio mynd ymlaen i weld be sydd yn digwydd.  Does ‘na ddim stori fawr, ond mae hi’n cydio.

 

Wedi darllen llyfr(au) gan yr awdur o’r blaen? naddo

 

Cymeriadau wedi cydio? Pam? Pam ddim? Do.  Mae’r holl hanes yn cael ei ddweud trwy lygad Sian, sydd adre yn y tywyllwch ar ôl i’r trydan diffodd mewn storm.  Mae hi’n hel atgofion am ei phlentyndod a hefyd mae ei sylwadau yn cyffwrdd thema bwerus gan gynnwys trais, crefydd, anabledd, newid hinsawdd.

 

Sut oeddech chi’n teimlo wedi gorffen darllen y dudalen olaf? Falch fy mod i wedi ei ddarllen ond isio gwybod  a deall mwy am ambell bwnc a gododd. Be yn union digwyddodd i Gareth?  (dwi’n meddwl fy mod i’n gwybod ond mae’r nofel, fel mae Mererid Hopwood yn ei ddweud, yn gynnil).“

 

Llyfr sydd bendant yn werth darllen.  A mae Mari yn cael ei holi am y llyfr yn fama: rhan o'r eisteddfod amgen, lle mae Marged Tudur yn holi Mari.

 

Dwi wedi cael blas ar ddwy nofel arall hefyd yn ddiweddar: Plethu, gan Rhian Cadwaladr, a Merch y Gwyllt, gan Bethan Gwanas.  Y ddwy yn wych.

Be ydy’r cysylltiad rhwng y llun yma o’r ddraenog sy’n byw yn fy ngardd a’r llyfr ’Wal’ gan Mari Emlyn?

 

Dyma’r ddraenog sydd yn byw yn yr ardd (mae hi/o wedi cael yr enw creadigol ’Spike’: enw’r bwyd dan ni’n prynu iddo fo neu iddi hi).  A mae’n byw yn y bocs yma (ar gyfer draenogod) ac yn dod allan gyda’r nos, a fel arfer yn bwyta’r bwyd dan ni’n gadael allan: ond dim bob nos.  Bore ’ma roedd y bwyd yna o hyd a dyna pryd dwi’n poeni a gobeithio ei fod ddim wedi cael damwain (dan ni’n byw yn eitha agos i lon brysur). Dipyn dros wythnos yn ol clywais sŵn pan roeddwn yn bwyta yn yr ardd a dyna’r draenog, wrth ymyl y bocs draenog.  A wedyn symud ar hud gefn y bordor ac allan o’r ardd o dan y drws.  Y peth pwysig ydy bod y draenog yn gallu mynd o dan y drws: mae ’na ddigon o le.

 

A fel mae’n digwydd dyma rhan o’r ysbrydoliaeth tŷ ol i’r llyfr Wal gan Mari Emlyn.  ’Roedd hi wedi sylwi gymaint o waliau, yn lythrennol, yn cael eu adeiladu rhwn tai ac yn rhwystro cymdogion rhag cael sgwrs hamddenol gyda’r pobl drws nesa.  Hefyd ’roedd hi wedi mynd i ddarlith yng Ngŵyl y Gelli am ddraenogod.  Mae’r niferoedd o ddraenogod wedi gostwng yn enfawr.  Maent yn llwyddo yn well y dyddiau yma mewn gerddi (gormod o blaladdwyr yn y cefn gwlad, falle).  Ond, fel bywyd gwyllt eraill mae’n bwysig iddynt cael coridorau rhwng gerddi i symud o gwmpas, a felly mae waliau yn medru bod yn broblem os nad oes ffordd allan.  A mae waliau’n creu problemau i ni hefyd.  A dyma thema’r llyfr.

 

Mi wnes i adolygiad o’r llyfr ar gyfer Golwg (Tri ar y tro) yn ddiweddar.  Dyma rhan o fy atebion  i’r holiadur: 


Methu ei roi i lawr neu bori ynddo’n hamddenol bob hyn a hyn? Unwaith nes i ddygymod âr steil – sydd yn wahanol iawn i’r mwyafrif o nofelau, roeddwn i isio mynd ymlaen i weld be sydd yn digwydd.  Does ‘na ddim stori fawr, ond mae hi’n cydio.

 

Wedi darllen llyfr(au) gan yr awdur o’r blaen? naddo

 

Cymeriadau wedi cydio? Pam? Pam ddim? Do.  Mae’r holl hanes yn cael ei ddweud trwy lygad Sian, sydd adre yn y tywyllwch ar ôl i’r trydan diffodd mewn storm.  Mae hi’n hel atgofion am ei phlentyndod a hefyd mae ei sylwadau yn cyffwrdd thema bwerus gan gynnwys trais, crefydd, anabledd, newid hinsawdd.

 

Sut oeddech chi’n teimlo wedi gorffen darllen y dudalen olaf? Falch fy mod i wedi ei ddarllen ond isio gwybod  a deall mwy am ambell bwnc a gododd. Be yn union digwyddodd i Gareth?  (dwi’n meddwl fy mod i’n gwybod ond mae’r nofel, fel mae Mererid Hopwood yn ei ddweud, yn gynnil).“

 

Llyfr sydd bendant yn werth darllen.

 

Dwi wedi cael blas ar ddwy nofel arall hefyd yn ddiweddar: Plethu, gan Rhian Cadwaladr, a Merch y Gwyllt, gan Bethan Gwanas.  Y ddwy yn wych.


Gyda llaw, mae 'Blogger' wedi newid a dwi ddim wedi dod i afer efo fo eto, felly siawns bod y blog ddim yn dangos cweit fel dwi isio.  

Labels:

Sunday 12 July 2020

Creaduriaid yr ardd

Yn ddiweddar (fel sawl un arall) dwi ddim wedi bod yn crwydro’n bell, a gan fy mod yn cael trafferth cerdded am hir (cricmala yn y clun) dwi wedi bod yn treulio mwy o amser yn gwylio natur gwyllt yr ardd na natur gwyllt y comin.  Mae’r pwll bach yn llawn o benbyliaid rŵan, a rhai ohonon nhw yn brysur yn troi’n lyffantod, a digonedd o lyffantod o gwmpas yr ardd.  Dyma un a oedd yn neidio o gwmpas prynhawn ddoe.  



A mae’r pwll yn sicr yn diddori fy ŵyr bach sydd yn treulio amser wrth yr ochr yn chwilio am lyffantod.





Mae draenog wedi bod yn ymweld a ni am amser hir.  Falle mwy nag un - anodd weithiau gwahaniaethu rhwng draenogod!  Beth sy’n dda ydy bod draenogod yn ymweld a sawl gymydog.  O'r diwedd dwi wedi llwyddo i gael llun ohono un ohonyn nhw, ty allan i'r ardd.  Ond methais cael llun da.  Roedd pennod 6 o Natur a Ni yn cynnwys dipyn am ddraenogod.


A dyma llun o un yn bwydo wrth y drws


Dan ni ddim yn siŵr faint o ddraenogod sydd yn dod i’r stryd, ond trwy roi camera allan trwy’r nos cafodd ein cymydog drws nesa cip o lwynog a draenog gyda’i gilydd. Does dim modd rhoi'r llun yn fama yn anffodus.   Dwi heb gweld llwynog eto - maent yn dod gyda’r nos - ond bob tro dwi'n deffro yn y nos (rhy amal) dwi'n edrych allan o'r ffenestr, rhag ofn!.

Creadur arall sydd yn byw yn yr ardd ydy llygoden bach sydd yn dod allan weithiau min nos i fwyta hadau.  Ond mae’n andros o anodd cael llun.  Mae hi’n rhedeg o gwmpas fel y gwynt - dyma cip bach.


Ac wrth gwrs, mae ieir bach yr ha yn brysur rŵan, yn cynnwys rhai prydferth fel hon: comma yn Saesneg.


Rhaid darganfod yr enw Cymraeg.  Ddoe, wrth eistedd yn yr ardd gyda’r teulu ar ôl cinio Sul, daeth barcud coch drosodd.  ’Roedd y camera bach gen i, ond doedd dim modd cael llun da - ’roedd rhy gyflym.


Ond am ffodus bod yr aderyn yma yn eitha gyffredin y dyddiau yma.

Tuesday 7 July 2020

GŵylfforArall.

Edrych ymlaen at fwy o GŵylfforArall.  Fel arfer, yr amser yma o’r flwyddyn dwi’n edrych ymlaen at ymweliad i Gaernarfon lle mae Gŵyl Arall yn digwydd dros y benwythnos (sydd yn digwydd bod yn agos i fy mhenblwydd - gwell byth).  Ryw ddwy fis yn ol, r’oeddwn yn obeithiol: falle fase’n bosib mynd, ond yn fuan daeth yn glir na fyddai’r Gŵyl yn mynd ymlaen yn ei ffordd arferol.  Hyd yn oed tase gwestai a tai bwyta ar agor, anodd gweld sut fase’n bosib trefnu araith neu  lansiad llyfr, fel engraifft lle fase’n bosib i bobl gadw ar wahan.....

Ond mae pethau wedi symyd ar-lein.  Bythefnos yn ol gwelais gwahoddiad yn fama  “Estynwch banad a chacen, steddwch mewn cadair gyfforddus ac ymunwch â Bet Jones a Marged Tudur i ddathlu cyhoeddi PERL, nofel ddiweddaraf Bet Jones”   Ac er ei fod yn brofiad gwahanol, ces i hwyl ar brynhawn lawiog yn gwrando ar y sgwrs.  Ac eleni, mae’r Gŵyl wedi dechrau yn barod. Mae’r holl ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim - ond mae’n bosib gwneud cyfraniad hefyd.  Gwrandawais ar Elin Tomos “Russian Ffliw/Pandemic 1889-1993” a mae na digwyddiad arall nos fory.  Ond dydy o ddim cweit yr un peth a chrwydro strydoedd Caernarfon a cael mynd allan am bryd o fwyd a.y.y.b.

Ac i newid y pwnc yn hollol, dyma ychydig o luniau o bethau yn yr ardd..... Mae’r moron wedi tyfu’n dda ac yn blasu’n wych


- ond y ffa llydan yn ofnadwy eleni - y pryfaid wedi enill.   A dyma’r basil a coriander - yn gwneud yn dda yn y tŷ gwydr.