Ailddysgu

Thursday 28 June 2018

Henwaliau

Rywsut dwi ddim wedi postio i’r blog am oes.  Gyda’r tywydd sych [dim glaw ers dechrau’r mis], mae garddio a dyfrio wedi cymryd gymaint o amser.  Ond rŵan dan ni ar ein gwyliau a gyda’r tywydd mor boeth a wedi penderfynnu aros o gwmpas y tŷ a’r dref heddiw, does dim esgus.

Blynyddoedd yn ol, pan roeddwn yn byw yng Nghaernarfon, roedd stryd o’r enw Henwalia dim yn bell o’n tŷ ni.  Ond rywsut, nes i erioed meddwl am ystyr yr enw.  Ond pan es am dro gyda Rhys Mwyn (rhan o Gwyl Arall ychydig o flynyddoedd yn ol],  a clywed hanes Rufeinig y dre, ‘roedd yn amlwg.  Mae stryd Henwalia jyst i lawr y lon o’r hen Gaer Rufeinig. A dwi wedi cerdded rhan o hen waliau Caernarfon, a Conwy a.y.y.b – a waliau wedi adeiladu o cerrig ydynt i gyd.

Dros y dyddiau diwethaf, dwi wedi bod yn cerdded ar hyd hen waliau gwahanol iawn.  Hen waliau ‘Wareham’  lle dan ni’n aros ar y funud. 

Hen waliau tra gwahannol – waliau Sacsonaidd.  Does dim cerrig ar y waliau [ond mae’n debyg bod cerrig wedi bod ar ben y waliau unwaith].  Waliau pridd, ond eitha mawr.  Mae’r waliau wedi sefyll am dros fil o flynyddoedd.  Ond doeddent ddim digon i wrthsefyll y LLychlynwyr. 

Heddiw mae o’n bosib cerdded ar hyd y waliau yn y ran fwyaf o’r dref, a cael golygfeydd trawiadol o'r dre a'r cefn gwlad hyfryd o gwmpas.