Ailddysgu

Tuesday 29 May 2012

Dim llawer o amser i flogio







Dwi ddim wedi cael cyfle  i flogio yn ddiweddar, na gweithio ar y cwrs: mae'r  gwaith wedi bod yn frysur iawn, a gyda'r tywydd braf, boeth, mae llawer o waith yn yr ardd hefyd.  Felly, ychydig o luniau i ddangos be dwi wedi bod yn gwneud. (Dwi ddim yn gwybod sut i gael y luniau i fynd gyda'r geiriau yn lle bod i gyd gyda'u gilydd....)

Aethom i Lundain i gyfarfod fy nghyfnither a'i gŵr, a mynd ar y Cwch Afon ar y Tafwys hyd at Greenwich. Roedd rhaid i fi dynnu llun o'r rhisgl ar yr hen goeden yma yn Parc Greenwich; r'oedd o mor wych.

Mae'r blodau gwyllt fel y gorthyfail (cow parsley) yn brydferth iawn o'n gwmpas ar hyn o bryd, a fel  dach chi'n gweld mae'r drudwy yn dod o hyd.  Mae'r ardd yn edrych mor hardd ar y funud: dyma'r golygfa pan dwi'n bwyta fy mrecwast yn yr ardd.

Be am y Gymraeg ymysg y prysyrdeb i gyd? Wel, dwi'n ddal i ailddarllen Cysgod y Cryman (mwy am hynny mewn post arall, efallai) a dwi'n gwylio S4C (dwi'n mwynhau Rownd a Rownd - gymaint gwell na Phobl y Cwm..... a Byw yn yr Ardd, wrth gwrs), dwi'n cael sgwrs ar y ffon gyda Gareth bron bob wythnos, a mi fyddaf yn mynd i'r cwrs Cymraeg undydd yn Llundan mis nesaf.  Ac wrth gwrs, dwi'n darllen blogiau Cymraeg, ac yn cyfrannu i'r blog yma pan dwi'n medru.

Friday 18 May 2012

Y taith i'r gwaith








Dwi ddim wedi bod ar y beic gymaint yn ddiweddar.  Mae'r tywydd wedi bod yn oer, gwlyb a gwyntog a dwi wedi bod braidd yn ddiog.  Ond dydd Mercher, mi es i'r gwaith ar y beic.  Mi es i lawr lôn fach yn hytrach na i ar y llwybr arferol (i osgoi'r llifogydd).  A mae'r lluniau yn dangos dipyn o be sydd i'w gweld ar y ffordd.  A fel gwelwch, er fy mod yn byw mewn dinas, mae 'na digon o llefydd gwyrdd.  Y lôn bach yma ydy'r lôn gwreiddiol - a heddiw does dim llawer o drafidiaeth.  Mae o yn yml yr afon, a mae'r cyngerdd wedi cadw y tîr yma heb gael ei adeiladu arno - felly mae gwartheg a defaid yn pori yn y caeau yma - a mae hen adeiladau ar hyd y ffordd fel yr eglwys a'r tafarn.

Dipyn o gefn gwlad yn y dinas!

Sunday 13 May 2012

Blodau ar gyfer y gwenyn



Mae rhai blodau yn denu gwenyn: fel arfer blodau gwyllt neu blodau syml.  Dwi wastad wedi trio tyfu blodau sy'n denu gwenyn yn yr ardd.  A mae yna nifer o lyfrau a tydalennau wefan fel http://www.helpthehoneybee.co.uk/plants/plants.php sy'n rhoi rhestri o flanhigion sy'n addas.  Un  o'r rhain ydy'r  ceiniog arian sydd yn dechrau blodeuo rŵan (honesty: lunaria annua).  Mae gwenyn wrth eu fodd efo blodau'r mafon hefyd a bydd y rhain yn dechrau blodeuo mewn ryw bythefnos.  Un o'r planhigion sy'n dda iawn iawn ydy "comfrey" a mae'r planhigyn yma yn hymio efo gwennyn.  Mae o wedi bod yn blodeuo am dipyn rŵan a mae digonedd o wenyn i'w gweld ar y blodau.

Ond eleni dwi am trio cael mwy o wennyn i'r tŷ gwydr i beillio'r llysiau felyr "aubergines".  Llynnedd r'oedd rhaid i fi gnwued hyn fy hun. Dwi wedi rhoi "Valerian" yn y tŷ gwydr sydd hefyd yn dda a dwi wedi archeb hadau blodau gwyllt i dyfu, hefyd.  Mae rhai ohonnyn nhw yn annodd i dyfu mewn gardd, felly gawn ni weld sut bydd y hadau yn gwneud.

Monday 7 May 2012

Drudwy

Yn ôl ym mis Ionawr, roeddwn yn cwyno bod yr adar dim yn dod i fwydo ar yr 'orsedd bwydo' (?? RSPB feeding station), ond ers hynny, gyda'r tywydd gwlyb ac oer, a rhoid bwyd allan pob dydd, mae nifer o adar yn dŵad, fel dwedais i o'r blaen.

A dyma'r drudwy yn yr ardd.  Adar di-nôd, digon gyffredin, efalla? Ond aderyn gyda lle a chysylltiad gyda llenyddiaeth Cymraeg.  A mae'n debyg bod y nifer yn gostwng - fel llawer iawn o adar eraill.  Felly dwi wedi rhoi croeso i'r drudwy yn yr ardd.  Ond mam bach - mae nhw'n dŵad mewn haid bach; yn cwffio ac yn farus.  Mae nhw'n gollwng mwy o fwyd na mae nhw'n bwyta, hefyd.  Ond dyna ni, mae rhaid cario ymlaen rŵan wedi dechrau.

A dyn ni'n falch iawn o weld eurbinc (goldfinch) yn bwydo hefyd; mae nhw mor hardd pan dach chi'n cael cyfle i'w weld nhw yn agos.

Wednesday 2 May 2012

Clwb darllen Llundain - a llyfrau ditectif


Mi gawson ni drafodaeth ddifyr a diddorol neithiwr, yng nghyfarfod cyntaf y clwb darllen Llundain a gafodd ei sefydlu gan Brendan Riley - felly diolch mawr i Brendan.  Roedden wedi darllen y llyfr Y Llwybr - gan Geraint Evans a roedd bron pawb wedi mwynhau y llyfr ac yn meddwl bod safon y sgwennu, ar y cyfan, yn uchel - yn enwedig am lyfr cyntaf yr awdur.  Ond wrth gwrs, dydi llyfrau ditectif ddim yn hoff lyfrau pawb.  Yn ystod y trafodiaeth, roedden yn siarad am llyfrau ditectif Cymraeg yn gyffredinol, ac am faint o lyfrau ditectif sydd ar gael yn y Gymraeg.  Ar y pryd, roeddwn yn meddwl nad oedd lawer ar gael, ond wrth feddwl am y peth, mae sawl llyfr yn y traddodiad yma.  Dyma'r rhai dwi wedi darllen:  (gyda dehongliad eang o'r gair ditectif achos mae rhai yn lyfrau dirgelwch, neu "thrillers"!)


Llyfrau Gwen Parott - Cwlwm Gwaed, Hen Blant Bach a Gwyn eu Byd.  
Llyfrau Llwyd Owen - Mr Blaidd ac yn y blaen Llyfr eitha newydd:Pwll Enbyd gan Alun Cobb; Llafnau gan Geraint Evans eto; Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr gan Alun Jones; Yn Y Gwaed - Geraint V Jones; cyfres Llion Iwan: Lladdwr, Casglwr ac Euog; Tacsi o’r Tywyllwch, Gareth F Williams  ac ymysg llyfrau i ddysgwyr - llyfrau am Seimon Prys y ditectif.  Dwi'n siwr fy mod wedi gadael llyfrau allan yma - ac wrth edrych ar y we dwi'n gweld bod E Morgan Humphreys wedi yn sgwennu llyfrau ditectif blynyddoedd yn ôl fel Llofrudd yn y Chwarel (1951)

Os gennych chi awgrymiadau am lyfra ditectif eraill, gadewch i fi wybod!