Ailddysgu

Sunday 4 June 2023

Ar Adain Cân

 Ar Adain Cân

Dwi newydd orffen darllen llyfr newydd Gareth Thomas, “Ar Adain Cân”.  Fel “Myfi Iolo”, yr un diwethaf, mae o wedi ei leoli yn y gorffennol; y tro yma yn y tridegau a’r pedwardegau o’r ugeinfed ganrif.  Stori serch sydd yma, ond nid stori serch arferol.  A mae hi’n nofel ardderchog.

 

Fel y disgwyl, mae dau brif gymeriad; Siân, cantores talentog, a George, sydd yn canu feiolyn,  a mae nhw yn cyfarfod (a syrthio mewn cariad) wrth i’r ddau hyfforddi yn Academi Gerddoriaeth Llundain yn 1938.  Mae’r ddau o gefndiroedd cwbl wahanol; Siân o Gwm Clydach yn y Rhondda a George o ddosbarth canol Seisnig yn Llundain.  Mae’r stori yn cydio mewn sawl thema.  Un pwysig ydy’r gymuned glôs yng Nghlydach, lle mae amryw drigolyn, wrth frwydro yn erbyn y bywyd caled, y tlodi, a’r ormes; wedi troi at gomiwnyddiaeth.  Un o’r rhain ydy Owain, brawd Siân, ac ar ddechrau’r nofel mae Owain yn Sbaen yn brwydro yn erbyn Ffranco a Ffasgaeth.  

 

Thema arall ydy’r ail ryfel byd, wrth gwrs, ac effaith y rhyfel ar fywyd Siân, sydd yn aros yn Llundain ar y dechrau ac yn ennill ei phres trwy ganu, ac ar fywyd George hefyd, sydd yn ymarfer yn llwyddiannus i fod yn beilot.  Felly cawn hanes y clybiau nos yn Llundain, y cyfeillgarwch a’r ffydd rhwng y cydweithwyr yn y llu awyr, a digwyddiadau yn ol yng Nghwm Clydach.  Ac yn bwysig iawn, cawn y brwydrau personol: yn enwedig y cwestiwn i George am sut i fyw bywyd da, moesogl, yn yr amser yma.

 

Mae’r cymeriadau yn gryf ac yn hollol gredadwy.  Ar wahan i fwynhau gweld ei stori yn datblygu ac yn bendant yn cydio, mwynheuais gael portread o fywyd yng Nghwm Rhondda yn y cyfnod a chlywed tipyn o Wenhwyseg, sydd yn eitha diarth i rywun o Gaernarfon!