Ailddysgu

Saturday 14 August 2021

Bod tinwen, a phethau eraill



Os gennych chi hoff arferion?  Fel dwi wedi dweud o’r blaen, un o fy arferion bore Sadwrn ydy codi’n eitha gynnar a cherdded ar draws y comin i’r becws.  Os dwi digon gynnar, byddaf yn gwrando ar Galwad Cynnar tra dwi’n cerdded.  Fel arfer dwi ddim yn gwrando ar y radio tra’n cerdded: dwi isio clywed  a gweld be sydd o gwmpas.  Ond mae dydd Sadwrn yn wahanol.

 

Mae Galwad Cynnar yn rhaglen arbenning o dda yn fy marn i gyda themâu mor ddiddorol sydd yn amrywio gymaint.  Dyma’r lle i ddarganfod gymaint o wybodaeth amrywiol sydd yn dod ag atgofion yn ol, neu yn dilyn at gynlluniau neu freuddwydion i fynd i weld bywyd gwyllt, a dyma’r lle i ddysgu’r enwau Cymraeg am bron bopeth sydd yn gysylltiedig a bywyd gwyllt.

 

Yr wythnos diwethaf roedd y rhaglen ar y 7fed o Awst; diwrnod y boda tinwen (hen harrier yn Saesneg).  Dwi’n cofio gweld boda tinwen am y tro cyntaf.  Dwi ddim wedi gweld nhw yn aml, ond roeddwn yn aros ar ynys Mull, yn yr Alban, gyda fy ngŵr a’m mrawd yng nghyfraith.  Gan mai fi oedd yn codi gyntaf, fi oedd yn mynd allan o’r tŷ gyda’r ci, i lawr lwybr bach a oedd yn rhedeg ar draws rostir, mwy neu lai.  Yn ffodus, doedd na dim defaid yn pori o gwmpas a felly ’roedd yn iawn i adael i Tyson y ci, rhedeg yn rhydd heb denyn.


Roedd hyn yn unarddeg mlynedd yn ol, ond dwi’n cofio’r wefr o weld yr aderyn yma yn dod dros y gorwel. A sylwi be oedbwn wedi gweld!  Mor gyffrous.  Maent yn hedfan yn eitha araf, a mae’r gwrw a’r fenyw yn eitha wahanol hefyd.  Mae’r gwrw yn lwyd, gyda darn gwyn ar ei gynffon, ond y fenyw yn frown, yn fwy debyg i dylluan glustiog mewn ffordd.  Ond mae o mor gyffrous gweld yr aderyn - a does na ddim gymaint a hynny ohonyn nhw: rywle dros 600.  Ddyle fod mwy na hynny; mae na digon o gynefin ond mae nhw’n cael eu herlid gan yr rhai sydd isio saethu rhugieir a mae gymaint yn cael eu ladd yn angyfreithiol.  Roedd rhywun ar y rhaglen yn sôn amdanynt yn edrych fel ysbrydion, sydd weithiau yn dawnsio bron.  A mae Mull yn le dda i weld bob fath o fywyd gwyllt, yn cynnwys wrth gwrs,  yr eryr eiraid yn ogystal ac eryrod y môr.  Roeddwn i bron yn methu coelio fy mod yn medru codi o’r gwely, a mynd am dro a gweld yr adar ysglyfaethus yma.  Does dim lluniau gen i sydd yn werth dangos, ond dyma’r llwybyr o ble welwyd y trysorion yma!