Ailddysgu

Sunday 30 March 2014

Ychydig o bethau diweddar


O’r diwedd dan ni’n gweld ychydig mwy o adar yn yr ardd - yn enwedig y nico.  Yn ôl canlyniadau The Big Garden Bird Watch mae niferau’r aderyn yma yn cynyddu.  Y pris i ni ydy prynu hadau blodau haul - sy’n ddrud ond dim mor ddrud a’r hadau “Niger“.  A dan ni ddim am ddechrau nhw ar y rheina!  Felly dwi’n cael cyfleydd weithiau i drio allan y camera - a dyma un llun ohonyn nhw. 


Yn ogystal a’r nico dan ni hefyd yn gweld y llinos werdd - (dim llun, mae nhw'n gyflym iawn) a dydy bywyd ddim mor dda iddyn nhw.  Mae’r niferoedd yn godtyngu - yn rhannol oherwydd yr haint mae nhw’n cael o’r ymborthwyr bwyd (bird feeders) - felly mae rhaid glanhau’r feeders  yn aml - yn enwedig os ydy’r colomennod yn gollwng eu faw ar y feeders  a dyna yn union be sy’n digwydd i ni.

Mi gaethon ni gyfarfod o’r cylch siarad Cymraeg nos Iau.  Dydy’r grŵp ddim yn fawr ofnadwy ond fel arfer mae o leiau bump ohonon ni yn medru dod i’r dafarn (dwn i’m be mae’r pobl eraill yn y dafarn yn meddwl!).  Dan ni’n gymysgedd o Gymru Gymraeg - a mae rhai o’r rheini wedi symud o Gymru yn ifanc a wedi colli rywfaint o’i Gymraeg a dysgwyr.  Ar y funud dydyn ni ddim yn gwneud gweithgardddau - ond yn cael sgwrs - neu yn aml, gwahanol sgyrsiau lle dan ni’n tueddu siarad weithiau mewn grwpiau bach gwahanol.  Ond mae o’n braf cael cyfle i siarad Gymraeg gyda gwahanol bobl.

I fi, mae o’n bwysig siarad (a sgwennu rywfaint o Gymraeg).  Onibai hynny, dwi’n anghofio geiriau, achod dwi ddim yn ei ddefnyddio nhw.  Felly ar ganol sgwrs, dwi’n cael be mae nhw’n galw y “tip of the Tongue phenomenon“ yn Saesneg - neu yn waeth, dydi’r gair ddim yn agos i’r dafod o gwbl!

Am unwaith dwi wedi llwyddo i bostio’n gynnar yn y bore (diolch i’r hen gi, sy’n deffro fi’n gynnar y dyddiau yma), felly dipyn o amser i arddio heddiw a mynd am dro.  Roedd hi’n braf yma ddoe, felly aethon am dro i Brickhill Woods.  Dydy’r coedwig ddim yn bell i ffwrdd - ryw 8 filltir, ond am ryw rewm dydyn ni ddim wedi bod am eisoes.  A dyma ychydig o luniau.



Monday 17 March 2014

Penwythnos braf yn y gwanwyn


Cofnod sydyn heddiw.  Penwythnos braf a chynnes a rŵan mae rhan o’r tŷ gwydr yn llawn o hadau: moron, cenin, coriander - a dail salad.  Bwyta’r riwbob gyntaf o’r ardd - sydd wedi tydu’n dda o dan wely bach o dail.



Wedyn ar ddiwedd prynhawn mor bendigedig aethno i’r warchodfa natur sydd ond ryw ddwy filltir i ffwrdd.  Llawer o greÿr bach, a hefyd dwy bar o las y ddorlan.  Mae safle wedi cael ei greu ar gyfer nythu - am mae’n edrych fel eu fod nhw am ddefnyddio fo.  Ond, fel gwelir, mae eisiau dipyn o ymarfer eto i gael lun dda.  


Bod yna dipyn yn gynharach pan mae’r golau yn well, a dipyn o amynedd (mi dynnais lawer lun braidd yn gyflym, oherwydd bod y golau yn mynd - a ’r adar dim yn aros yn yr unman am hir!).  A dyma llyn sydd dipyn yn well. (ond dim o'r las y ddorlan!)



Dwi wedi bod yn darllen cryn dipyn yn ddiweddar hefyd - mwy am hynny i ddod.

Sunday 9 March 2014

Gŵyl Ddewi Arall - rhan 2

Anodd cofio heddiw gyda’r haul a ddaeth heddiw a ddoe, mor ddiflas r’oedd y tywydd, ar ddydd Sul, penwythnos diwethaf.
  


Beth bynnag, doedd y glaw ddim yn spoilio’r taith hanesyddol gyda Emrys Llewelyn Jones o gwmpas Caernarfon - yn cynnwys cerdded ar y waliau.    Dwi ddim wedi llwyddo i fynd ar un o deithiau Emrys  - “Tyrd am Dro Co’“ o’r blaen ond mae o’n werth mynd, yn sicr.  Ychydig cyn y taith, roedd hi’n stidio bwrw, ond erbyn i ni gychwyn o gwmpas yr hen dre ganoloesol (cyn hynny byddai’r “dre“ wedi bod o gwmpas y Caer Rufeinig, siwr o fod).  Mae’r hanes, a’r hen adeiladau yn ddiddorol a dim ond gobeithio bydd modd i wneud dipyn o’r  gwaith trwsio sydd angen ar y rhai sydd wedi dirywio.

Y noson gynt, roeddwn yn Llofft Gwesty’r Castell (bron gyferbyn i’r lle roedd ein siop teuluol, erstalwm , ond stori arall ydy honna), yn mwynhau noson “Pethe Bychain“ gyda grwp gwerin - Triawd - a’r beirdd Ifor ap Glyn, Karen Owen, Arwel Pod Roberts a Nia Môn.

  


R’oedd yn noson wych.  R’oedd yr holl digywddiadau yn ofnadwy o dda, i ddweud y gwir – (dwi ddim wedi sôn am y Trevor Dines yn siarad a flodau a “Plantlife“, a Mike Parker yn sôn am agweddau tuag at y Gymraeg, ac am luniau Pierino Algieri).  Rhaglen ardderchog - a mi es adra gyda lwyth o lyfrau, fel arfer.
.



Monday 3 March 2014

Gŵyl Ddewi Arall - rhan un




Penwythnos GWYCH yng Nghaernarfon yn ymuno a’r ŵyl.  Gymaint o bethau diddorol a mwy na digon o adloniant.  Ar ol clywed Georgia Ruth a Saron nos Wener (mi wnes i golli Kizzy Crawford yn anffodus), a’r ddau yn ardderchog - ond gwahanol iawn, dechrau bore Sadwrn, dydd Gŵwul Dewi, gyda orymdaith i’r castell.  



Fel dwi’n dallt, rhywbeth newydd ydy hwn. Swn i’n meddwl ei fydd yn tyfu, hefyd.  O’r safle lle bu yr orsef i’r dref ac i fewn i’r castell, lle roedd digon o adloniant am ddod - ond gan fy mod wedi prynu tocyn penwythno i’r Gŵyl Ddewi Arall, mi adawais y castell i fynd i glywed Angharad Price yn siarad am fywyd a theithiau cynnar T H Parry Williams.  





A mi r’oedd yn ardderchog - r’oedd hi’n dangos i ni sut roedd bywyd dyddiol y bardd yn yr Almaen (yn gwneud PhD) ac ym Mharis, wedyn, yn newid o ac yn ddylanwadu ar ei waith.  Mae hi’n ddarlithwr ardderchog - mi wnes i bron brynu’r llyfr - ond i mi gofio fy mod yn teithio ar y tren, a bydd rhaid bodyn ofalus am faint r’on i’n mynd yn ol gyda fi.

R’oedd disgwyddiadau yn y Clwb Canol Dre ymlaen trwy’r dydd, ond i gael hoe bach a dipyn o awyr iach (a glaw) - a mi roedd yn swnio’n ddiddorol - mi es ar daith cerdded gyda Rhys Mwyn yr archeolegydd, i fynny i Segontiwm.  


Dydi segontiwm ddim yn bell o gwbl o ble roeddwn yn byw - ond mae pethau wedi newid, gyda gwaith archeolegol newydd, cyn adeiladu ysgol newydd, a hefyd, mae’r amgueddfa (a oedd yn dda o’r blaen...) wedi ail agor fel mwy o ganolfan gymunedol sydd yn edrych yn wych (doedden ni yna ond am spel bach) ac yn sicr mi fyddaf yn mynd yn ol.  



A bob tro dach chi yn Segontiwm mae fantais y lle mor glir - medru gweld dros y Fenai ac ynys Mon, felly dafle delfrydol i weld y gelyn yn dwad ac i amddiffyn y Caer.  Ar yr amser, mi fyddai’r “dre“ i gyd o gwmpas Segontiwm - doedd dre Normanaid, i lawr wrth ymyl y Fenai dim yn bodoli pryd hynny, wrth gwrs.