Ailddysgu

Wednesday 20 December 2023

Edrych yn ol a mwydro am farcutiaid

Rhywbeth rhyfedd wedi digwydd yn fama a mae'r dyddiad ar y post yn dweud 20 Rhagfyr ond y 21 oedd hi!  Beth bynnag, o’r diwedd dwi wedi dod yn ol at y “Blog”.    Bore y diwrnod byrra’, sef yr 21fed o Ragfyr. a dan ni’n nesau at Nadolig yn gyflym, a hefyd o hyn ymlaen bydd y dydd (neu’r golau) yn ymestyn dipyn.  Ar ol methu mynd yn ol i gysgu bore ma dwi wedi dechrau sortio allan fy lluniau o’r flwyddyn, ac edrych yn ol ar y flwyddyn a fu.  


O be welaf yn y lluniau, digon mwyn oedd dechrau’r flwyddyn.  Ac ar y gyntaf o’r fis, gwelais un o’n barcutiaid.  Adar digon cyffredin erbyn heddiw, a mae o’n anhygoel meddwl sut roedden nhw pan oeddwn i’n blentyn.    Yn fy arddegau hwyr, ro’n yn dwli ar llyfr adar gan Reader’s Digest a’r AA.  Yn y tudalen sydd yn disgrifio’r aderyn, mae o’n dweud bod o gwmpas 20 par yn nythu yng Nghymru.  Erbyn heddiw mae na fwy na 10,000 par ym Mhrydain.  Mae’r peth yn anhygoel.

 

Ac yn gynharach yn y flwyddyn, cefais y fraint o wylio nyth un par a oedd yn nythu yn eitha agos, ar y comin.  Taith ryw 30 munud ar droed.  Doedd o ddim yn hawdd cael lluniau o’r nyth - braidd yn bell o lle roeddech yn medru sefyll, ac wrth gwrs, unwaith mae’r dail yn dod, mae’n anodd iawn, ond dyma’r nyth.





 

A dyma barcud - yn hwyrach yn y flwyddyn, ym mis Gorffenaf.  Mae nhw yn defynddio’r un nyth, flwyddyn ar ol flwyddyn, felly bydd siawns eiu gwylio eleni hefyd.