Ailddysgu

Tuesday 25 February 2020

Cerdded yn lleol

Dwi wedi bod yn gwylio’r gyfres Am Dr ar S4C.  Reality TV eitha ysgafn lle mae 4 cystadlwyr yn cynllunio taith cerdded ac yn paratoi picnic – ac ar ol mynd ar y taith mae’r cystadlwyr yn rhoi marciau am y ‘dro’. Dau gystadlwyr o’r de a dau o’r gogledd – a syniadau da am lle i fynd am dro.

Mae cerdded wastad wedi bod yn bwysig i fi.  Pan oeddwn yn fach roeddwn yn mynd am dro gyda Nain o’i tŷ hi a dros y cae gyferbyn a wedyn ar lonydd bach tuag at Llandwrog lle bu Nain yn byw cyn symyd i Ffrwdcaedu, dim rhy bell o Bontnewydd.  Hefyd roedd cerdded yn ffordd hawdd o deithio: cerdded o fy nhŷ i weld Nain, neu cerdded i fferm fy ewythr, Caemabynir, ar y lôn fawr o Gaernarfon.  Roedd y ddau siwrnau bron yn dair filltir a felly yn cymryd dipyn o amser.  Ac ar fore dydd Sul, roeddwn yn mynd am dro dros y Foryd…

Pan es i’r prifysgol, dysgais bod ‘na ffordd arall o gerdded, ar llwybrau a oedd yn dringo i’r bryniau yn y Peak District.  Ac ar ol gadael, dyna dechrau teithiau cerdded dipyn hirach.  Ac am flynyddoedd roeddwn yn mynd ar daith cerdded bron bob blwyddyn am wythnos neu 5 diwrnod. Ac efallai dof yn ol i hyn mewn post yn y dyfodol. Y dyddiau yma, dydy’r teithiau cerdded hir ddim yn digwydd mor aml, ond dwi’n cerdded bob dydd yn lleol.  

Y trefn ydy fy mod yn mynd am dro ar draws y comin bob dydd, bron.  Y dro gynta cyn brecwast, a wedyn fel arfer, rywbryd yn y prynhawn neu dipyn yn hwyrach.  A. ia, weithiau dan ni’n mynd rywle gwahanol.  Dwi’n mwynhau gweld y comin yn newid trwy’r tymhorau a gweld pa adar ac annifeiliaid sydd o gwmpas.....ond yn ddiweddar dwi wedi cael digon o’r tywydd gwlyb gwyntog.  Ddoe, roedd hyn yn oed y ci yn gwrthod mynd ry bell yn y glaw.

Ond mae bore ’ma wedi bod yn haelog, a mi fues yn chwarae mîg gyda cnocell y coed, doedd yn amlwg ddim isio i fi dynnu ei lun.  Dyma fo yn hedfan i ffwrdd.


A hefyd es i chwilio i weld os oedd y dylluan fach o gwmpas o hyd: maent yn tueddu i aros yn yr un lle, neu yn agos, ac oedd, mi oedd o (neu hi) yn ei goeden arferol - ond dim digon agos i gael llun da.


Saturday 15 February 2020

Tŷ allan ac yn yr ardd

Mae storm ‘Denis” wedi bod yn rhuo tŷ allan, ond yn gwanhau rŵan, a dan ni yn fama wedi bod yn lwcus ofnadwy hyd at hyn;  mae llygad y storm wedi bod yn yr Alban a dydy hi ddim mor ddrwg yn fama, yn bell i ffwrdd o’r môr.  Ond mae rhagolygon y tywydd digon drwg yn enwedig yn yr Alban, Cymru a gogledd Lloegr lle disgwylir llifogydd. O ran llifogydd, dan ni’n ffodus fel arfer yn fama hefyd: bydd rhan o’r comin yn siŵr o fod dan dŵr, ond fel arfer dydy'r dref ddim yn cael niwed.

Felly, falle ei bod hi wedi bod braidd yn optimistaidd i blannu’r ffa llydan dydd Gwener: falle byddant yn boddi, ond gawn weld.  Fel arfer, dyma’r llysiau gyntaf yn yr ardd, wedi cael eu blannu yn yr Hydref hwyr, ond eleni, rywsut gwnaeth hynny ddim digwydd, felly gobeithiaf byddant yn iawn.




Dwi newydd defnyddio’r panas olaf.  Gwnes cawl panas ac afal, dydd Gwener.  Ond yn y tŷ gwydr mae dipyn bach o blanhigion salad ar ol.



Digon am salad bach o bryd i’w gilydd.  A mae planhigion bach bach o letys a spigoglys yn dechrau tyfu ar gyfer y Gwanwyn.

Saturday 8 February 2020

Y drew, screch y coed, a "rewinding"

Dwi newydd gorffen darllen Wilding gan Isabella Tree.  Mae’r llyfr wedi cael sylw ar Galwad Cynnar a mae Isabella Tree wedi bod ar Desert Island Discs yn eitha ddiweddar hefyd yn son am y prosiect.  Mae gymaint yn y llyfr (dwi’n dechrau ei ddarllen eto!)  a mae profiad yr awdures yn dangos yn glir sut dan ni wedi cam-drin y ddaear, a’r pridd, dros gymaint o flynyddoedd, heb wybod am y niwed ein bod yn gwneud.  Un engraifft bach – neu fawr – ydy’r coeden derw.  Ar ol i arbennigwr ymweld a’r tir lle fuodd Isabella a’i gŵr yn ffermio, esboniodd bod rhai o’r coed derw yn marw.  Maent eisio gymaint o le ac yn dioddef os ydy’r tir agos wedi cael ei aredu, a mae cwrtaith hefyd yn gwneud niwed.  Hefyd, mae’r gwreiddiau yn ymestyn yn bell, bell a felly yn medru cael eu effeithio gan tir sydd ddim i’w weld yn agos.  Ac eto mae’r dderwen mor bwysig i greaduriad gwyllt.  Yn ol Garden Organic
mae derwen aeddfed yn cynnal dros 280 rywogaethau o drychfilod.  Ond dan ni’n colli gymaint ohonyn nhw ( y derw A’R drychfilod).  Ac wrth gwrs (doeddwn ddim wedi meddwl am hyn ond mae o’n gwneud synnwyr) cafodd llawer iawn o dderw ei ddinistrio yn ystod yr ail-ryfel i wneud lle i dyfu bwyd - ac ers hynny mae gwrychoedd a coed wedi cael ei ddinistrio er mwyn gnweud lle i beirianau enfawr trin y ddaear.

Doeddwn ni ddim yn gwybod, chwaith, bod y sgrech y coed yn chwarae rhan mor sylweddol.  Roedd erthygl yn Y Guardian ym mis Medi, yn esbonio’r perthynas rhwng yr aderyn a’r coeden: mae’r aderyn yn bwyta’r mes, a felly yn cuddio nhw yn y ddaear, ac yn eu plannu.  Ond mae’r perthynas mwy gymleth na hynny, fel mae'r erthygl yn dweud.

Felly dwi wedi bod yn rhoi mwy o sylw ar y dderw sydd o’r gwmpas ni.  Does dim gymaint a hynny chwaith.  Ond fel mae hi’n digwydd, yn ymyl (ac yn ) coed derwen gwelais screch y coed ryw fis yn ol.  Dwi wedi bod yn trio cael llun da o’r aderyn hardd yma, ond maent yn ofnadwy o swil.  Llwyddais i gael ryw fath o lun, dyma fo.



A dyma’r coeden.  



Mae stâd o dai rŵan yn eitha agos, a mae o’n edrych fel bod y goeden unwaith yn rhan o wrych.  Ond pan adeiladwyd Milton Keynes, yn ffodus, diogelwyd y gwrychod, pan oedd yn bosib. Ac ar ochr arall y dderwen mae lôn bach, a mae’r gwrychoedd bob ochr yn eitha trwchus.  Ac yn ddiddorol, mae’r fan yma yn denu llawer o adar bach fel y titw gynffon hir a'r llinos werdd.





Tybed ydy’r derw gyda’r trychfilod i gyd yn cael effaith yn ogystal a’r gwrychoedd?  

Sunday 2 February 2020

Darn bach o Gymru yn MK

Dwi wedi laru ar y glaw a’r gwlybaniaeth.  Mae’r comin mor wlyb dan droed, ond un fantais (sylweddol) o Milton Keynes ydy’r rhwydwaith o lwybrau trwy’r ddinas.  Mae llawer o’r rhain yn dilyn yr afon neu’r camlas neu yn mynd trwy un o’r parciau.  Fe’u hadeiladwyd ar gyfer beicwyr yn y dinas (a cherdded wrth gwrs), felly mae gan y llwybrau  wyneb caled.

Dydd Gwener, es am ginio gyda fy ngŵr i café Camphill.  Yn anffodus dydy o ddim  yn medru cerdded  yn bell o gwbl y dyddiau yma oherwydd problemau gyda’r pengliniau, felly ar ol cinio, aeth Jim yn ol gartref a fi a’r ci, Teo, ymlaen am dro ar hyd y gamlas a wedyn i’r Parc yn nghanol y ddinas – Parc Campbell.

Dwi’n hoff iawn o’r parc yma – coed hyfryd a golygfeydd dros a ty hwnt I’r ddinas.  Yn aml mae defaid yn pori yn y parc – a felly bydd rhaid i Teo fod ar denyn, ond dim y tro yma.  Un peth arall am y parc yw’r gwaith celf (sydd i’w ddarganfod trwy’r ddinas).  Mae’r llechi yn un o’r rhain yn dod o Ffestiniog

A wedi cerdded trwy’r parc roedden yn ffodus a medru dal bws yn ol i Newpiort Pagnell yn y glaw.