Ailddysgu

Tuesday 31 July 2012

Cynnyrch o'r ardd, bwyta'n lleol a'r tylluan wen

Mae gymaint i gasglu yn yr ardd ar y funud: ffa,  tatws, betys,  ffa  Ffrengig yn dechrau dwad, courgettes ( o'r diwedd), ciwcymbr yn y tŷ gwydr, hyd yn oed tomatos yn dechrau aeddfedu a digonedd o ffrwythau meddal, yn cynnwys cyrens coch.  Felly, dydd Sul, mi baratois  crumble gyda afalau a'r cyrens a mi oedd o yn flasus iawn.  Dyma llun ohonno fo cyn rhoi y crumble  arna fo ac ar ol cogninio fo.  





Dwi ddim wedi coginio gyda cyrens coch o'r blaen, na bwyta llawer ohonnyn nhw, ond mae nhw'n dda hefyd i gymysglu gyda mafon a rhoi ar ben eich miwsli yn y bore gyda yogwrt.

Mae'r cawodydd yn ol, ond llwyddiais i feicio i caffi bach gerllaw, ddoe, am ginio gyda ffrind: rhan o gymuned "Camphill" sydd mewn rhai ffyrddiau yn debyg i Antur Waunfawr.  Lle i bobl gyda anablau dysgu i fyw a gweithio.  Mae caffi da wedi bod yna eisoes, yn coginio bwyd siml ond blasus, yn defnyddio eu cynyrch sydd yn cael ei tyfu gan y gymuned mewn dyll organic.  Yn ddiweddar, mae siop bach wedi agor, yn gwerthu eu bara, ffrwythau a llysiau a dipyn o bethau eraill "gwyrdd" fel products “Ecover“.  (Mwy am y siôp a’r cymuned mewn post arall efallai).

A gyda'r nos, a'r cawodydd wedi cilio, mi es am dro ar y comin gyda'r ci a chael  y pleser o weld tylluan wen yn hela.  Mae rhain braidd yn brin rwan,  ond dyn ni'n lwcus bod  'na rhai yn nythu ar y comin weithiau a hefyd yn y gwarchodfa Natur sydd ddim yn  bell i ffwrdd.  Mae nhw angen gwair sydd ddim wedi cael ei phori.  Aderyn hardd  iawn.  (Mae na fidio bach dda o’r dylluan yma yng Nghymru, gyda Iolo Williams yma).


Ac os dach chi’n hoffi lluniau bywyd gwyllt, mae lluniau y mis ar y blog Ar Asgwrn y Graig  yn werth gwylio, a’r blog yn ddiddorol hefyd, os gennych chi ddiddordeb mewn garddio.....

Saturday 21 July 2012

Pigion o'r ardd ac o'r gegin

O’r diwedd, rydym wedi cael bron diwrnod cyfan o haul heddiw, a dwi wedi bod yn yr ardd yn cynaeafu, yn dyfrio yn y tŷ gwydr ac yn trio cael rywfaint o drefn ar ardd sydd wedi mynd braidd yn fler, gyda llawer o chwyn a byddinoedd o falwod a gwlithenni.  Ond wedi dweud hyn, ac er bod rhai o’r llysiau a’r ffrwythau wedi bod yn siomedig eleni, mae rhai pethau wedi gwneud yn ddigon da, fel y betys - a gafodd ei goginio mewn Borscht  fel gwelir yn y llun.  


Mae’r tatws hefyd yn gwneud yn iawn, a’r ffa llydan, ac wrth gwrs y mafon.  Mae o wedi bod yn anodd casglu’r mafon gyda gymaint o law.  R’oeddwn am ei gasglu ddoe ond erbyn y prynhawn, roedd hin stidio bwrw eto. Mae’r ciwcymber un gwneud yn iawn yn y tŷ gwydr hefyd, a’r tomatos yn tyfu ac yn ffrwytho, ond pwy a ŵyr os bydden nhw yn aeddfedu?
A dyma ychydig o luniau o flodau o gwmpas yr ardd: rhai yn denu'r gwenyn fel gwelwch!  


Er bod llawer o waith i'w gwneud yn yr ardd, y peth gorau ydy canolpwyntio ar y pethau sydd yn llwyddo ac yn edrych yn dda, ac anwybyddu'r llefydd sydd angen gwaith am y tro.

Wednesday 18 July 2012

Gwenyn, gwair a glaw


Dwi wedi bod yn darllen y llyfr “ The Bee Garden” gan Maureen Little am sut i ddenu gwenyn I’r ardd.  Mae gen i lawer o flodau a phlanigion yn barod sydd yn dda i gwenyn: e.e. perlysiau fel comfrey, a borage; ffrwythau fel mafon (mae blodau’r mafon yn ffefryn) a blodau fel bysedd y cŵn, lafant a llawer eraill.  Ac wrth gwrs, mae blodau gwyllt yn dda iawn - yn ôl Gwilym ar Byw yn yr Ardd wythnos yma, dant y llew ydy’r gorau.  Fel arfer dwi’n tynnu dant y llew allan - ond efallai wnai trio adael o yn llonydd.  Yn ôl y llyfr, mae’n bosib cadw fo dan reolaeth.


Mae’n amlwg bod gwair yn bwysig i bryfed gwahanol hefyd. Ac ar ôl darllen y llyfr (wel, dwi ddim wedi gorffen eto...) dwi wedu sylwi bod y comin lleol yn llawn o weiriau a blodau gwahanol.  A mae’r glaw i gyd wedi gwneud y gwair tyfu’n uchel, gyda lliwiau gwahanol hyfryd.  Ond mae’r tywydd oer a gwlyb wedi cael effaith ar y planhigion ac yr annifeiliaid yn yr ardd hefyd.  Mae o’n un ffordd o ddarganfod beth sydd wir angen yr haul - a be sydd yn ymdopi (neu yn hoffi) tywydd sydd braidd y oer ac yn wlyb.  Felly, er enghraifft, mae’r mafon a’r ffa yn gwneud yn iawn, a hefyd y ffrwythau fel y cyrens coch a du, a’r gwsberen.  Ond dydi’r courgettes ddim yn hapus o gwbwl.  A mae rhai o’r adar wedi drysu hefyd.  Dyma llun o’r fywalchen sydd ar ei nyth ar y funud - er bod y fwyalchen yn nythu yn gynnar yn y flwyddyn fel arfer.

Tuesday 10 July 2012

Yn Ôl i Leifior: ailddarllen a mwynhau


Dwi wedi gorffen darllen hwn yn ddiweddar, a dwi mor falch fy mod i wedi ei ddarllen - ailddarllen - ddylwn i ddweud, oherwydd dwi wedi ei ddarllen o o’r blaen - ond doeddwn i ddim yn cofio llawer ohonno fo.  Mae’r llyfr yn dilyn Cysgod y Cryman, wrth gwrs, ond yn fy marn i, mae o’n llyfr gwell.  Efallai bod ysgrifennu yr awdur wedi aeddfedu dipyn - cafodd y lyfr ei gyhoeddi yn 1956, tri mlynedd (dwi’n meddwl!) ar ôl Cysgod y Cryman.  Mae’r stori yr un mor gyffrous, ond mae’r cymeriadau yn llai du a gwyn yn y llyfr yma.  A ’falla bod Islwyn Ffowc Elis yn cydnabod hwn, achos, ynglyn Karl, mae sgwrs diddorol (tudalen 258 yn fy nghopi i) lle mae Harri yn siarad â Karl:
“Ffyt!“ ebe Harri. “Mae’n dda genny weld arwydd o hunan ydoch chi o’r diwedd.  ’Rydech chi’n rhy felltigedig o dda.  Petai rhywun yn eich rhoi chi mewn nofel fe ddwedai’r adolygwr eich bod chi’n anghredadwy.  Fe fydde’n rhaid i’r nofelydd druan eich pupuro chi â thipyn o ffaeledde i’ch gwneud chi’n debyg i gig a gwaed.“

Mae llawer o ddadla ynglyn ffydd, a mewn un ffordd, roedd y rhain ddim mor ddiddorol i fi, ond, r’oedd y ffordd roedd IFE wedi sgwennu nhw yn gwneud argraff mawr aran i.  ’R oedd yn weinidog, yn ddyn grefyddol, ac eto mae ymresymiad Harri, sydd wedi colli ei ffydd, yn gredadwy iawn.  Elfen arall â sylwais arno, ydi bod rhai o’r merched yn wleidyddol.  Yn y llyfr cyntaf, merch sydd yn cyflwyno Harri i gomwynyddiaeth, ac y yn y llyfr hwn, mae Greta yn ymuno a Plaid Cymru.  Mi fawn i’n meddwl bod hwn yn beth anghyffredin i sgwennu mewn nofel Gymraeg a chafodd ei gyhoeddi yn 1956?

Dydi o ddim yn bosib roi flas go iawn ar y llyfr yma, ond yn wir, mae o’n haeddu cael ei ddarllen.  Y peth mwyaf drawiadol, i fi, ydi bod y sgwenu ddim yn teimlo fel ei bod yn  hen o gwbl.  Wrth gwrs, mae’r cymeriadau yn defnyddio “chi“ - hyd yn oed pan mae nhwn’n ffrindiau mawr, mae’r llyfr yn cynnwys geiriau sydd bron wedi diflannu o’r iaith (fel “ebe“), a geiriau eraill doeddwn i ddim yn deall, ond mae o’n fywiog, a’r deialogau yn gredadwy iawn.

Saturday 7 July 2012

Richmond a'r tafarn cymunedol

Aethon i Richmond, yn swydd Efrog, yn ddiweddar.  Tre fach hanesyddol, hardd.  Y trô cyntaf es i i Richmond rô’n i’n cerdded y llwybr “Coast to Coast“ sy’n mynd trwy’r dref, ond doedd dim digon o amser i weld y dre yn iawn. Felly aethon yn ôl y flwyddyn canlynnol a cael amswer da, ond ers hynny dwi ddim wedi bod yna am ryw bym mlynedd.  Ond d’oedd hi ddim yn siomi.  Y tro diwethaf aethon i’r theatr Sioraidd, (a adeiladwyd yn 1798) sydd yn ddiddorol iawn  ond doedd o ddim yn bosib y tro yma oherwydd ’roedd y ci gyda ni.  Ond mi es i ardd ardderchog sy yna,  Millgate House, sydd yn llawn dop o blanhigion gwych, a hefyd yn westy. 
Mae'r ardd wedi ennill llawer gwobr, ac yn werth gweld - ond yn anodd dangos mewn llyniau!  Mae ganddi hi olygfa ardderchog hefyd dros y dyffryn.



Lle arall efo olygfa hyfryd ydw'r  tafarn cymunedol cyntaf yn swydd Efrog - Y George and Dragon sydd rwy dri filltir tua allan i Richmond mewn pentre o'r enw Hudswell.  Roedd y tafarn wedi cau am dipyn tri flynedd yn ol, ond llwyddodd y pentre i godi digon o arian i brynu’r tafarn sydd hefyd yn cynnwys llyfrgell bach, siop a rhandiroedd tu ol i’r tafarn.  Felly enghraifft ardderchog o ffordd i gadw tafarn yn mynd, yn llwyddianus ac yn rhan canolog o’r cymuned, yn enwedig yn y dyddiau yma, pan mae llawer o dafarnau yn cae ac yn gadael cymuned heb le i gyfarfod a chymdeithasu.  Mi oedd y tafarn yn hapus i’r ci fynd yna, a r’oedd y bwyd a’r cwrw yn dda iawn!

Wednesday 4 July 2012

Clwb Darllen Llundain - cyfarfod nesaf

Dwi'n mwynhau ailddarllen Yn Ol i Leifior yn arw.   Mwy am hynnny yn y man.  Ond dwi'n  falch iawn fy mod i wedi ailddarllen Cysgod Y Cryman ar gyfer y clwb ddarllen yn Llundain.  Bydd y gyrfarfod nesaf o'r clwb ar y 3ydd Fedi am 7.30 pan fyddan ni yn trafod llyfr Nigel Owens - Hanner Amser.  Mae croeso mawr i bawb - a manylion i'w gael gan Hacob Riley ar rileyriley@btinternet.com
Gobeithio gweld rhai ohonoch i yna!