Ailddysgu

Monday 28 January 2013

Aderyn yn yr ardd: Big Garden Birdwatch



Nodyn bur roedden i'n bwriadu gwneud neithiwr - ond rhedais allan o amser.  Ddoe, roedd yr haul yn gwenu, a gan fod yr arolygion am y tywydd wythnos yma ddim rhy dda, aethom am dro ar hyd y gamlas.

Ond cyn hynny, roeddwn i eisio cymryd rhan mewn "the Big Garden Bird Watch".  Fel bod y rhai sydd wedi darllen y blog yma llynedd - a'r blwyddyn cynt  - yn gwybod, dwi wedi cymryd rhan am rhai flynyddoedd rwan.  A heb llawer o lwc, i ddweud y gwir.  A ddoe, r'on wedi rhoi llawer o fwyd wahannol  allan.  Doeddwn i ond yn medru gwylio am hanner awr (yn lle yr awr gyfan) a dyma be welais.  Ia, dim ond un!!  Un aderyn.  Titw Tomos Las.

Monday 21 January 2013

Eira yn Newport Pagnell

Wel mi ddoth yr eira - ond dim gymaint a roedden ni’n ofni. Dan ni’n ffodus yn fama - dan ni ddim yn cael llawer o eira fel arfer i ddweud y gwir.  Y tro yma, mi roedd yn bwrw eira trwy dydd Sul : eira mân, ac er roedd yn edrych fel eirlaw weithiau,  roedd dipyn ohono fo erbyn diwedd y dydd.  Felly dyma llun o’r teulu yn mynd am dro gyda’r ci yn yr eira...(er mae'n anodd gweld y ci...)


A’r rhandiroedd ar y ffordd....



Yr ardd ffrynt


A rhan o’r ardd gefn


Thursday 17 January 2013

Darllen a'r cylch siarad Cymraeg Milton Keynes



Dwi newydd gorffen darllen “Y Groes Naidd“: llyfr dan ni'n darllen ar gyfer ein clwb darllen Llundain.  Mae 'na ddau awdur: Lyn Jones a Mel Hopkins a dwi'n credu mae hwn  ydy eu llyfr cyntaf.  Beth bynnag mae nhw wewdi llwyddo i greu llyfr cyffrous, gyda'r stori yn symyd y n gyflym.  A mae'r llyfr yma yn y genre ditectif (mi wnes i flogio am hwn dipyn bach  yn ôl).  Efalla bydd blog arall ar ôl i ni drafod y llyfr yn ein clwb.  Dwi wedi darllen llyfr arall ditectif yn ddiweddar: pan roeddwn ym Mangor prynais “Lara“ gan y ddiweddar Eurug Wyn a ches fy siomi ar yr ochr gorau.  Dwi ddim wedi dod ymlaen yn dda iawn efo llyfrau eraill Eurug Eyn fel “Blodau Tatws“, ond mwynhais hwn.

Neithiwr cynhaliwyd yr ail cyfarfod o'r cylch siqrad Cymraeg MK.  Chwech ohonon ni y tro yma: dau siarqdwr rugl (neu bron yn rugl yn fy acos fi, efalla) a pedwar dysgwyr. Aeth yr awr a hanner heibio digon gyflym a dan ni am barhau i gyfarfod bob mis.

A mae o'n amser dda i ddarllen neu sgwrsio o flaen tan coed cynnes.  Mae o'n rhewllyd yn fama fel y rhan fwyaf o'r wlad a mae nhw'n gaddo crin dipyn o eira erbyn fory.  

Thursday 10 January 2013

Cyfyng-gyngor



Wel mae fy ngwaith ar gyfer yr arholiad wedi dechrau o ddifri rŵan - a dwi’n gweld ei fod am gymryd dipyn o amser.  Gobeithio fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir!  Dwi wedi ymarfer dipyn a’r sgwennu ffurfiol gan ddefnyddio hen bapur.  A dwi wedi gwneud amserlen i fy hun.  Felly popeth yn iawn - ond - mae rhaid dewis y ddau lyfr i’w drafod, a dwi ddim wedi penderfnnu be ddylwn i gynnig eto.  Fel sgrifennais ar ddiwedd yr ail ddiwrnod o’r cwrs ym Mangor (isod), does dim rhaid darllen llyfrau o’r rhestr - sy’n cynnwys:

Dirgel Ddyn; Noson yr Heliwr, Dyddiadur Gbara, Sara Arall, Wythnos yng Nghymru Fydd, Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr, Blodyn Tatws neu unhyw un o lyfrau Cyfres y Cewri.  Mae’n amlwg bod y rhestr yn hen a bod o’n bosib darllen bron unryw lyfr arall wedi ei sgwennu ar gyfer oedolion - ond pa lyfrau i ddewis?  Ron i’n meddwl efallai Dyddiadur Gbara (dwi wedi darllen hwn ddwywaith ac er ei fod yn hen rŵan, mae’n ddiddorol, ond efalla bydd yn well cynnig Hanas Gwanas...) a falle Yn ol i Leifior? Os oes gennych chi awgrymiadau gadewch i fi wybod!!  Dwi newydd gorffen darllen Lara gan Eurug Wyn - llyfr ditectif sy’n gyffrous ac yn hawdd i ddarllen.  Yn wahanol iawn i Blodyn Tatws - sydd ar y rhestr

Diwrnod 2

Sesiwn defnyddiol neithiwr yn Llanfair PG  yn trafod be dan ni am wneud ar gyfer yr  arholiad, a cael ymarfer a'r gwrando a'r deall, a oedd yn iawn.  Hefyd mynd trwy'r  “darllen a deall“ - hefyd yn iawn.  Rhaid i fi benderfynu am y ddau lyfr i ddarllen yn fuan er mwyn cofrestru.  Mae'r rhestr o engreifftiau yn hen, a falle wnai ddewis rywbeth wahannol.  Gwnaeth Elwyn bwynt dda gan ddweud bod o'n bwysic cael llyfr gyda digon i'w drafod - dim jyst llyfr dan ni'n h offi.  Fy mhrofiad yn y clwb darllen, ydy bod llyfr dan ni i gyd yn hoffi ddim yn anghenreidiol yn  un sydd yn dilyn at y sgwrs gorau.

Ond mae'n amlwg i fi mae'r sgwennu (mwy ffurfiol) sydd angen ymarfer, felly mae gen i ddau bapur hen o'r arholidad i ddechrau arnyn nhw, a wedyn mi fyddaf yn archeb neu lawrlwythio mwy o'r wê.

A bore 'ma dan ni wedi siarad am y chwildro tecnolegol a hefyd wedi trafod  y ffyrdd gwahannol o cyfleu yr amser amodol neu arferol fel  “bywddwn ni, mi faswn ni, ron ni“ a oedd y n codi mewn erthygl can Bethan Gwanas.  Diddorol. Hwn roedd un peth a oedd y n fy chymysgu fi'n hollol pan ddes i'n ôl i’r Gymraeg.

Sunday 6 January 2013

Yr Ysgol Galan ym Mangor – rhan un (Ionawr y trydydd)



Roeddwn ym Mangor wythnos diwethaf yn yr Ysgol Galan dydd Iau a dydd Gwener - dyma be sgwennais ar ddiwedd dydd Iau......

Wel, dyma fi ar ddiwedd y diwrnod gyntaf o'r Ysgol Galan, a waeth i fi gyfaddef  - wn i ddim os ddylwn i sgwennu diwrnod gyntaf neu diwrnod cyntaf... A dyna sut mae  hi trwy'r amser.  Ond dwi'n meddwl fy mod i'n gwella.  Ysgrifennu ydy'r peth anodda (dwy ’n’ neu un yn anodda tybed? Mi wn, o'r diwedd, bod dwy ‘n’ yn ysgrifennu a hefyd mi wn mai dwy ‘n’ ydy o a dim dau ‘n’ felly mae rhaid fy mod i'n dysgu rywfaint!!)

Roedd heddiw yn ddiddorol.  Dyma'r trydydd amser i mi ddod i'r cwrs.  Llynedd a'r blwyddyn cynt Eleri oedd y tiwtor, a mae hi'n dda iawn.  Eleni, Nia ydy'r tiwtor.  Dwi ddim wedi cyfarfod â Nia o'r blaen ond hi ydy fy nhiwtor ar y cwrs Maestroli, felly mae’n ddiddorol cael cyfarfod â hi o'r diwedd, a dwi'n siwr ei bod hi yn gwybod digon am fy ngwendidau.  Beth bynnag, dechreuodd y dydd gyda digon o gyfle i siarad, sydd yn beth ardderchog, gyda gofyn i ni drafod, mewn parau, am pethau yn y newyddion llynedd.  Rhywbeth digon syml ond effeithiol iawn.  Wedyn ymlaen i ymarfer geiriau benywaidd a gwrywaidd, hynny yw, penderfynu os oedd geiriau arbennig yn benywaidd neu gwrywaidd, ac yna trafod ffyrdd o gofio.  Eto, rhywbeth syml, ond effeithiol iawn.  Dydy hyn ddim yn meddwl na fyddwn yn gwneud camgymeriadau yn y dyfodol, ond dwi'n cael mwy yn gywir nac oeddwn i!  

Dwi ddim am sôn mwy am y cwrs ar y funud.  Roedd yr holl ddydd yn dda iawn. A heno mae tiwtorial adolygu ar gyfer yr arholiad lefel A dwi am sefyll yn yr haf.  Felly, mae angen cael y bws i Lanfair PG yn Sir Fôn. Dwi'n gobeithio efallai bydd rhywyn yn medru dod a fi yn ol i Fangor neu Gaernarfon.  Os ddim bydd rhaid i fi adael yn gynnar.  A lle tywyll iawn ydy Llanfair PG gyda'r nos.

Ond yn y cyfamser dw wedi bod yn crwydro ym Mangor, yn prynu ambell i lyfr Gymraeg; yn mynd a ambell i lyfr Cymraeg i Oxfam ac yn yfed coffi.  A dyna ffordd dda i ymarfer siarad Cymraeg os oes angen.  Mi gefais sgwrs hir a difyr efo dynas yn y caffi nad oeddwn erioed wed gweld o'r blaen - a'r un peth ar y bws bore ma.  Felly os ydych i angen ymarfer eich siarad, peidiwch a cymryd y car, ond ewch ar y tren neu y bws, ewch i gael coffi neu te - a byddwch yn barod i siarad gyda pwy bynnag sy'n fodlon!