Ailddysgu

Monday 24 January 2022

Cynllunio ar gyfer bywyd gwyllt yn yr ardd

 “Wyt Ionawr yn oer

A'th farrug yn wyn………..”

 

Wrth edrych yn ol, gwelaf fy mod heb sgwennu post blog ers mis Tachwedd, a rŵan dyma ni ym mis Ionawr.  A fel mae’r hen gerdd yn adrodd, mae hi wedi bod yn oer iawn; sydd yn beth da, dwi’n meddwl!  (Er nac ydy yn oer pellach).  Ddyle’r gaeaf fod yn oer, ond gyda newid hinsawdd, yn aml mae hi rhy gynnes.  Ac i’r mwyafrif, dwi’n tybed, mis i oroesi ydy Ionawr, gydau dyddiau byr a Nadolig wedi cael ei anghofio. Ond dwi’n eitha hoff o fis Ionawr.  Er ein bod yn cael dyddiau llwyd a gwlyb, ar ddiwrnod heulog, mae’r golau yn fendigedig, a mynd am dro yn bleser pur.

A gyda’r nosweithiau hir (neu diwrnodau gwlyb) mae cyfle i gynllunio.  Y cynlluniau dwi’n gwneud mwyaf aml ydy ynglyn a’r ardd.  Yn raddol, dwi’n gnweud newidiadau yn yr ardd i’w gwella ar gyfer bywyd gwyllt.  Mae bywyd gwyllt wastad wedi bod yn bwysig yn yr ardd, a dwi wedi trio cynnwys planhigion sydd o fudd i fywyd gwyllt.  Ond yn y blynyddoedd ddiweddar, wrth dallt pa mor bwysig ydy peillwyr, a’r problemau sydd ganddyn nhw, dwi wedi bod yn plannu ar eu cyfer nhw.   Llynedd, gyda’r wyrion, plannais flodau ar gyfer gwenyn mewn darn bach o’r ardd llysiau.  A hefyd tyfais lawer o flodau sydd yn dda iawn i wenyn yn gyffredinol.

Dros y Nadolig dwi wedi bod yn darllen mwy am anghenion gwenyn.  Mae’r llyfr gan Dave Goulson, “Gardening for Bumblebees: A Practical Guide to Creating a Paradise for Pollinators” yn wych.  Gymaint o wybodaeth am beillwyr yn gyffredinol - ac am y cachgi bwm hefyd wrth gwrs.   Llynedd prynais goeden “Cotoneaster” sydd wedi bod mor cystal, prynais un arall!  




Mae’r peillwyr yn hoff iawn o’r blodau bach, ac yn yr hydref a’r gaeaf mae’r adar (yn enwedig yr aderyn du) yn hoff iawn o’r aeron.  Eleni dwi am blannu mwy o goed helyg; eiddew; rhosyn gwyllt; miaren ac “amelanchier”. Ond efallai’r goeden gorau tasech chi’n gorfod cael ond un, ydy’r goeden ceirios hydref sydd gen i yn yr ardd ffrynt. Mae hon yn dechrau blodeuo yn yr hydref hwyr, neu’r gaeaf. ac yn parhau tan fis Mawrth.  Mae adar wrth eu bodd gyda’r blodau, a hefyd y peillwyr. Dyma’r titw tomos las yn mwynhau’r blodau.