Ailddysgu

Monday 30 September 2019

Diwedd mis Medi


Dwi ddim yn siŵr sut dan ni wedi cyrraedd fama mor gyflym.  Ond bythefnos yn ol roedd yn teimlo fel ei fod am fod yn haf am byth - poeth, sych....beth bynnag, ar ol haf eitha da ond rhy sych o lawer i arddwyr, mae o’n teimlo’n wir hydrefol rŵan.

Yn gynharach yn y mis aethon i Portland yn Dorset.  Lle diddorol, er nac ond tair diwrnod oedden ni yna yn y diwedd.  Gymaint o lwybrau gyhoeddus: sefyllfa ardderchog i ni gan ein bod wedi teithio yna ar trên, felly doedd dim car gyda ni.  A cludiant cyhoeddus ardderchog.  Mae Portland i weld fel ynys, ond penrhyn a traeth Chesil yn cysylltu a’r tir mawr.  


Ac am ddwy diwrnod roedd y tywydd fel canol haf braf - ond dim rhy poeth.

Ond glaw mawr ar y dydd arall.  A dyna beth sydd gennyn ni rŵan, ar ol haf mor sych roedd angen dyfrio yn aml.  Ond mae rhad dweud bod angen glaw arnon ni.  A dwi’n eitha hoff o’r hydref.

O ran y Gymraeg, es i ymweld ac Elizaneth a’i ffrind Enid yn ddiweddar - dwy ferch eitha lleol sydd yn dod o Gymru yn wreiddiol, a mae Elizabeth yn byw ond ryw bum munud i ffwrdd ar droed.  Rhyfedd gymaint o bobl Gymraeg sydd o gwmpas - yn lleol iawn.

A nos Iau byddaf i lawr yn Llundain yn y Ganolfan yn y clwb darllen, yn trafod Ar Trywydd LLofrydd - llyfr dwi wedi mwynhau.