Ailddysgu

Sunday 31 May 2020

Mis Mai eleni

A dyna mis Mai wedi darfod.  Ac am fis hyfryd - dwi’n meddwl bod bron bob dydd wedi bod yn heulog a’r rhan fwyaf yn gynnes neu boeth.  Mae’r ardd wedi edrych yn hyfryd, trwy’r mis, gyda blodau gwahanol yn dod allan yn ei tro.  










Ond mae’r dyfrio wedi cymryd llawer o amser.  Fel arfer dwi ddim yn dyfrio’r bordors lle mae’r blodau yn tyfu, ond y llysiau (a byth yn dyfrio’r lawnt).  Ond eleni ar ol clirio allan yr alliums roedd rhaid rhoi phlanhigion eraill i fewn, a felly roedd rhaid dyfrio - er bod un bordor sydd ddim wedi cael dŵr bron wedi marw.  

Ond y frwydyr fwyaf ydy gyda’r adar - adar y tô.  Roedd niferod adar y tô wedi gostwng yn sylweddol dros y flynyddoedd er bod y nifer  wedi dechrau codi eto, felly r’on i’n falch gweld teulu mawr (neu ddau) o’r adar yn yr ardd, yn bwydo ac yn nythu.  Dyma un o'r cywion..


Tan i’r moron a’r betys methu. Dim o’r planhigion yn dangos ar ol rhoi’r hadau yn y pridd.  Neu, planhigion bach bach yn dangos a wedyn diflanu.  Mae ’r adar yma yn tynnu’r planhigion allan.  Dwi erioed wedi cael gymaint o drafferth a niwed, hyd yn oed gyda’r sguthanod.  Felly mae’r brwydr ymlaen a rŵan mae rhan sylweddol o’r ardd yn edrych yn hyll gyda CDs, darnau o bapur, beth bynnag! i ddychryn yr adar i ffwrdd.  Am aniolchgar!  Maent yn bwyta’r hadau, a’r mealworms, yfed yn y pwll a wedyn yn chwilio am salad fach i orffen y wledd.  Ond gawn weld os ydynt yn llwyddianus yn y diwedd.  Dydy’r brwydr dim drosodd eto!



Yn ddiweddar, dwi ddim wedi medru cerdded yn bell - mae fy nghlun (weithiau’r ddau) yn brifo - d'wn i'm pam.  Mae o wedi digwydd yn raddol, a dwi rŵan yn disgwyl cael pelydr-x.  Felly mae rhaid cadw pwysau i ffwrdd, cyn gymaint a medraf - dim yn hawdd gan fy mod yn hoffi cerdded a garddio - ond felly dwi’n sylwi mwy ar be sydd yn yr ardd, ac yn darllen mwy.  Mae un ymwelwyr i’r ardd i’w weld yn gyson: y gwyfyn fach y soniais amdano gynt, scarlet tiger moth.  
Maent mor hardd ac yn byw ar blanhigion cyfardwf (comfrey) sydd yn yr ardd er mwyn gwneud bwyd i’r planhigion - a denu gwenyn.  Dyma’r lindysyn (dwi’n meddwl!)

Wednesday 20 May 2020

Bore gynnar yn y tŷ gwydr,

Bore ddoe penderfynais mynd ati yn y tŷ gwydr, i symud y tomatos a oedd wir eisiau cael mwy o le.  Ers ychydig of flynyddoedd rŵan, dwi’n defnyddio system hydroponics a phrynias o Greenhouse Sensation, cwmni Brydeinig sydd yn dda iawn. Beth bynnag, am fod y dydd am fod more boeth, rhaid gwneud hyn yn eitha gynnar, neu yn hwyr.  Gan fy mod yn deffro’n gynnar, a wedi blino gyda’r nos, dyna lle ’roeddwn 6 o’r gloch yn bore. A dym nhw.



Ond mae’na fanteision i’w gael am fod allan yn gynnar.  Dyma gwyfun a oedd yn y tŷ gwydr dros nos. Scarlet tiger moth.  


(Teigr yr ardd ysgarlad?) 
Gwelais yr un gyntaf dwi erioed wedi gweld, llynedd, yn yr ardd.  Dydy’r llun ddim yn dda - oherwydd ei fod yr ochr arall o’r gwydr, ond maent yn hardd ofnadwy. Mae’r llun yma (llynedd) yn well.

 
 

A felly cefais awrun hapus - mwy nac awr - yn y tŷ gwydr yn gosod y tomatos a phupurau yn y quadgrow.  Ac wrth gnweud hynny, gwrando ar rifyn o Galwad Cynnar ddiweddar nad oeddwn wedi clywed ar BBC Sounds.  Galwad Cynnar ydy un o fy hoff raglenni - fy ffefren, dwi’n meddwl.  Ar y rhaglen yma, ymysg pethau eraill, dysgais bod eos yn medru canu mil nodyn, a chlywais yr enwau Gymraeg am lawer o flodau gwyllt. 

A fel gyda’r nos, mae’r golau yn wych yn gynnar yn y bore.  Mae’r ardd wedi bod yn hyfryd ym mis Mai  Mae’r iris (gellysg?) wedi bod yn wych, a’r peony, a mae bysedd y cŵn allan rŵan. 


Mae na ddigon o chwyn, hefyd, yn enwedig yn y rhan o’r ardd lle mae’r tatws a’r ffa llydan yn tyfu. Ty hwnt i’r gwely mae llwyth o las y gors a chwyn ond wrth gwylio gymaint o wenyn o gwmpas, dwi am ei adael am dipyn.




A wedyn am dro ar y comin.  Hapus i gael lun o fras y cyrs. Digon ohonyn nhw ar y comin, ond bob tro dwi’n hoffi eu gweld.  Am aderyn smart!


Wednesday 6 May 2020

Chwilio am gywion


Eleni mae cornchwiiglod wedi nythu ar y comin a chlywais bod na dair gyw fach – ond d’on i heb eu gweld nhw.  Felly dwi wedi bod yn chwilio – mi ŵn lle mae’r adar wedi nythu, ar cae I’r chwith o’r ddôl isa ar y comin.  Ed bod y tyfiant ddim mor uchel a hynny roedd rhaid gywlio a chwilio – a bore Mawrth, dyna lle ‘roedd ddwy gyw.  Mae’n debyg bod y trydydd wedi cael ei larpio….  Yn anffodus, dim ry bell oddiwrth y gornchwiglod mae nythfa brain – a mae digon o adar eraill fase’n hapus bwyta cyw bach.  Gobeithio bydd y ddwy gyw yn mediru tyfu i fod yn oedlolion.    Rhy bell i ffwrdd i gael llun da - a dim isio eu aflonyddu.




Mae’r comin yn hudolus ar y funud.  


Mae’r gog yn galw a’r ehedyddion yn canu a’r adar mudol wedi cyrraedd.  Ond hefyd mae'r adarwr a'r ffotograffwyr wedi cynyddu.  Wn i ddim os oedd y ddau yma yn llwyddianus.  Trio cael llun o’r gog, a oedd yn cuddio mewn coeden yr ochor arall o’r afon.  A tybed pa nyth fydd y gog yn dewis?  Pibydd y gwaun efalle?  


Mae digon ohonyn nhw o gwmpas.  Trist meddwl am yr adar bach yn brysur bwydo’r hen cyw gog fawr reibus.  Ond wedi dweud hynna - fasen ni ddim yn hoffi colli’r gog - a maent yn mynd yn brin.  Darllenais bod y cogydd Cymreig (a o’r Alban) yn dod yn ol o Affrica trwy’r Eidal a mae hynna yn mwy llwyddianus na siwrna’r gogydd o Loegr sydd yn dod trwy Spaen, lle mae’r tywydd boeth boeth yn gwneud y siwrna yn anoddach.  A maent yn hedfan am ryw 50 awr heb cael hoe.  Mae hwnna’n sownio bron yn amhosib ond ydy? Bydd rhaid tsecio eto!