Ailddysgu

Sunday 27 October 2019

Adar mudol


Ddoe, gyda’r clociau wedi newid, es i’r warchodfa i wylio’r tîm BTO yn modrwyo adar.  Mae rhwyd yn cael ei roi i fyny a wedyn mae’r adar sydd wedi ei dal yn cael ei bwyso a mesuro a modrwyo cyn iddynt hedfan i ffwrdd.

Yr amser yma o’r flwyddyn mae gymaint o adar yn symud o’r cyfandir i fama i dreulio’r gaeaf rhywle mwy gynnes.  Maent yn cynnwys adar fel y coch dan-aden sydd ond yn dod yn y gaeaf a mae yn ffordd mor dda i weld adar yn agos a dysgu mwy amdanant.  Dyma coch dan-aden yn y llaw, e.e:


Ond hefyd, mae niferoedd llawer o adar cyffredin yn codi yn y gaeaf, gan bod adar fel yr aderyn du yn dod o’r gyfandir hefyd, ac adar fel brych y coed yn dod hefyd.



Dwi wastad yn straffaglu i wahanu’r rhain (mistlethrush) a’r fronfraith.  Ond wrth weld y brych y coed yn agos, mae’n bosib gweld bod y lliw ar y cefn ac y pen mwy llwyd.  Wrth gwrs mae’m mwy na’r fronfraith hefyd - ond dydy hynny ddim yn help mawr os dydy nhw ddim efo’i gilydd.

Roedd o’n diwrnod hyfryd ddoe, ar ol glaw di-baid dydd Sadwrn, digon o law dydd Gwener, o a ia, glaw dydd Iau hefyd.  Mae’r afon yn llawn a does dim angen fwy o law, diolch.

Mae ’na aderyn arall bach bach sydd hefyd, rywsut, yn llwyddo i hedfan o’r cyfandir, ond, fel y robin goch a’r fwyalchen hefyd yn byw yma trwy’r amser.  Dwi bron byth yn ei gweld nhw.  Ond ddoe roedd llawer wedi ei dal yn y rhwydi.  Y dryw eurben.  ’Goldcrest’ yn Saesneg.  Ac yn ogystal a chael cyfle i ddod i adnabod yr adar yn well, mae sgwenu amdanynt yn gyfle i trio dysgu  chofio’r enwau Cymraeg.  Felly dyma’r rhestr o’r adar a chafwyd ei fodrwyo - yn Saesneg a Chymraeg:

Wen Dryw
Redwing Coch dan-aden 
Blackbird  Mwyalchen 
Thrush Bronfraith
Great tit Titw mawr
Goldcrest Dryw eurben
Cetti’s warble telor cetti
Robin robin goch
Blackcap telor penddu
Long tailed tit titw cynffon-hir
Dunnock Llwyd y gwrych
Reedbunting Bras y cyrs
Kingfisher Glas y dorlan
Bullfinch Coch y berllan
Blue tit Titw tomos las
Chiffchaff Siffsaff
Mistlethrush Brych y coed

Saturday 19 October 2019

Diffyg blogio a ffwng Hydref

Dwi ddim yn coelio bron fy mod heb gyfrannu i'r blog yma ers mis Medi!  Ond mae'r tystiolaeth ar y cyfrifiadur.  Beth bynnag, mae'r tywydd wedi newid yn llwyr ers rywbryd ar ddechrau mis Hydref, gyda'r glaw a odd wir angen yn dod o'r diwedd a wedi dechrau, doedd y glaw ddim eisiau peidio.  Ond mae hi'n eitha gynnes o had - felly mae'r cyfuniad o pres a gwlypter wedi dod a gwledd o ffwng allan.

Erioed wedi gweld gymaint o fadarch a sydd o gwmpas eleni.  Dwi ddim yn hollol sir be ydy'r un yma er ei fod yn edrych yn iwan.  Felly wnes i ddim ei fwyta.




Ac er bod hon


yn edrych fel y fath o fadarch dach chi’n cael o’r siop ac yn bwyta, ’yellow ’stainer’ ydy ei henw yn Saesneg, ac yn ol y sôn mae hi’n wenwynig.  Mae llawer o bobl yn sal ar ol ei fwyta ond dim pawb.  (A dydy o ddim yn eich lladd chi yn bendant).  Dwi’n eitha sicr fy mod i’n un o’r rheina sydd yn medru bwyta hon a wedi bwyta fo yn y gorffenol.  Ond wrth mynd yn hŷn, dwi’n dod yn fwy wyliadwrus.


Mae hon, y parasol
yn fwytadwy ac yn dda.  Wedi mynd i fewn i risotto wythnos diwethaf.  A rywsut, wnaeth fy nghymydog dod ar draws fadarch cyffredin (field mushrooms) ar y comin, a roi rhai i ni - roeddent yn hyfryd! Ond wnes i ddim aros i dynu llun - roedd fy ngŵr wedi gwneud saws gyda nhw mewn chwinciad.  Rŵan bydd rhaid i fi ddysgu’r enwa Cymraeg am ffwng.