Ailddysgu

Saturday 29 November 2014

Gwenyn neu cacwn: 'A sting in the tale"

Dwi newydd orffen ddarllen llyfr gan Dave Goulson: A Sting in the Tale.  Dyma adolygiad o'r llyfr gan y Guardian.  A dwi wedi mwynhau o gymaint a wedi dysgu gymaint am y gwenyn neu cacwn yma (yn ol Llyfr Natur Iolo, cacynen dingoch ydy'r red-tailed bumble bee, er engraifft, a gwnenynen (neu picwnen feirch gyffredin) ydy'r common wasp.  Dwi'n meddwl bod pobl yn defnyddio gwahanol geiriau - ond i mi, cacwn ydy wasp)  Beth bynnag, mae'r llyfr yn son am bumble bees.  Felly, y creaduriaid bach sydd ddim yn gwneud mel.  Ond, fel mae'r awdur yn esbonio, mae nhw yn bwysig ofnadwy ac yn peillio llawer o'n llysiau a ffrwythau, yn ogystal a blodau.  Mae o'n esbonio sut mae ffermwyr tomatos yn prynu nythau o'r gwenyn yma ar gyfer peillio y planhigion. Ond er bod y llyfr ddim yn ddigalonog, mae sefyllfa y gwenyn yma wedi diriwio yn ofnadwy dros y blynyddoedd.

Mae un wenynen a oedd yn gyffredin pan oedd yr awdur yn blentyn, bron wedi diflannu.  Mae'r ffordd mae ffermio yn gweithio heddiw, a'r ffaith bod dolau blodau wedi diflannu hefyd, yn ogystal a'r cemegau sydd yn cael eu ddefnyddio rhy aml yn cael effaith mawr.  Trist i ddarllen faint o rywiogaethau o bob fath sydd wedi gostwng neu ddiflanu yn ystod y gnarif diwethaf.

Dyma lluniau o wahanol gwenyn fy ngardd i….





Saturday 15 November 2014

Pwt o hanes o gwmpas Ludlow

Roedden ni yn Ludlow dros y benwythnos diwethaf, i ymweld ffrind sydd yn sal, a gan fod y ci gyda ni (mae o rhy hen i adael rŵan) a dydy o ddim yn medru cerdded i fynny grisiau, roedd rhaid cael rhywle i aros lle roedd croeso i’r ci, a dim grisiau.  Felly, wnaethon ni aros yn “Y Feathers“.  A mae rhai o’r ystafellau yn anhygoel.  Dyma lluniau o ddwy ohonnyn nhw.








Roedd o’n lle hyfryd i aros i grwydro’r dre pan nad oedden yn ymweld a’n ffrind, hefyd.  Dwi wastad wedi bod yn hoff o Ludlow, ond dwi’n amau nad oedd y pobl a oedd yn byw mewn llefydd fel Y Feathers yn gefnogol i’r Cymry ar y pryd.


Ac o Ludlow mae taith cerdded hyfryd yn dechrau - taith o’r enw The Mortimer Trail.  Dwi wedi cerdded y taith yma dwy waith, ond dim yn ddiweddar.  A dyma ychydig o luniau o’r taith: 


Monday 3 November 2014

Dan yr wyneb: dysgu Cymraeg

Fel soniais i mewn post cynt, mi wnes i ryw fath o gyfweliad dros y ffon ar gyfer y rhanglen Dan yr Wyneb sydd newydd ailddechrau ar ol dipyn bach o hoe.  A’r rheswm fy mod i’n siarad ar y rhaglen ydy bod y rhaglen yn trin dysgu Cymraeg.  Mae podcast o’r rhaglen i’w gael yn fama (mae rhan bach fi yn digwydd ar ol ryw hanner awr).  Yn y rhaglen mae Helen Prosser a Ioan Talfryn yn siarad gyda Dylan Iorweth, a fel mae o’n esbonio, mae newidiau mawr ar y gweill, a bydd un corff yn unig yn gyfrifol am ddysgu Cymraeg i Oedolion yn hytrach na’r 6 canolfan sydd yn bodoli ar y funud.

Mae sut i wella sefyllfa’r Cymraeg yn gwestiwn anodd sydd wedi cael ei drafod gymaint ar wahanol amseroedd - a dydy’r gweithredoedd sydd wedi cael eu sefydlu dim wedi gwneud digon o wahaniaeth hyd at hyn - a rŵan mae llawer llai o arian ar gael.

Dydy o ddim yn sefyllfa hawdd i’w newid.  Ond roedd dau beth yn drawiadol (i fi, beth bynnag): yn gyntaf, Ioan Talfryn yn dweud bod y rhai sydd yn llwyddianus yn dysgu Cymraeg yn medru/neu yn barod i roi’r amser i mewn.  Mae’n amlwg bod dysgu iaith yn cymryd llawer o amser os dan ni’n meddwl am y peth - ond weithiau dydy hyn ddim yn cael ei gydnabod.  A’r ail ydy’r ffordd mae is-ganghellor Bangor, John Hughes, wedi dysgu’r iaith mewn amser digon byr.  
A medra i ddim gweld bod gan is-ganghellor llawer o amser.

Beth bynnag - digon o bethau i feddwl amdanynt yn ystod y rhaglen.  Bydd rhaid i fi wrando arno hi eto.  Os gennych chi syniadau am sut i wella sefyllfa’r Cymraeg, rhowch wybod.

Sunday 2 November 2014

Ysgol undydd yn Llundain

Fel dwi wedi dweud yma o’r blaen, dwi’n mynd i’r cyrsiau undydd yn Llundain pan yn bosib.  Mae o fel petai yn rhoi ryw ynys fach o Gymraeg o’m gwmpas am diwrnod – heb teithio rhy bell.  Felly ddoe roedd y cwrs ddiweddar, a mi es gyda fy ffrind Jan sydd hefyd yn gweithio yn y Prifysgol Agored ac yn dysgu Cymraeg.  Mae hi wedi bod ati am ryw ddwy flynedd bellach – ac yn gwneud yn dda iawn.  Gyda merch yn byw wrth yml Llandeilo sydd wedi priodi i fewn i deulu Cymraeg, mae hi eisiau medru siarad Cymraeg gyda ei fab-yng-nghyfraith, ond yn enwedig gyda ei ŵyr bach, sydd yn dechrau siarad rŵan.

Bob tro dwi’n mynd i’r cwrs Llundain, dwi’n meddwl dipyn am beth dwi eisiau allan o’r diwrnod – wedy’r cyfan, dydy un dydd ddim yn hir iawn a mae o’n mynd yn gyflym.  Gwen Rice sydd yn dysgu y grwp uwch fel arfer, a dwi wedi mwynhau y gwaith dan ni’n gwneud gyda hi: yn aml ryw gymysgedd o bethau gramadegol digon heriol (i fi), a hefyd cyfle i siarad a trafod gwahannol pynciau mewn parau neu grwpiau bach.  Fel wyddoch chi, mae wastad angen i fi wneud dipyn o ramadeg.

Ddoe, Siôn Aled oedd y tiwtor. Roedd Siôn wedi gosod ryw darn fach o waith i ni ei drafod: paratoi i siarad am y canlynol: “pa gymeriad mewn hanes hoffwch chi ei gyfarfod/chyfarfod? Pam? Pa fath o gwestiynau fyddech chi’n eu gofyn i’r person?”  Gyda Nantgwrtheyrn yn fy meddwl, mae’n siwr, fy syniad i oedd siarad gydag un o drigolion Tre’r Ceiri, yn ystod y cyfnod pan oedd y Rhufeiniaid yn Segontiwm.  O be dwi’n dallt, mae tystiolaeth bod trigolion Tre’r Ceiri yna yn y cyfnod hwn.  Tybed roedden nhw’n masnachu gyda’r Rhufeiniaid?  Tybed sut bywydau oeddent yn byw?  (Dan ni ddim yn gwybod os oedd y pentrefwyr yno trwy’r flwyddyn, hyd yn oed).

Yn ystod gweddill y diwrnod, mi wnaethon ni drafod dipyn o hanes Cymraeg a diwylliant Cymraeg (traddodiadau Nadolig) a cyn hynny dipyn o adolygu treigliadau trwy gwneud ymarferion – darganfod y gwallau a wedyn chwilio am treigliadau mewn darnau eraill a esbonio be oedd yn achosi’r treigliadau.  Dipyn o her i fi.  Mi wnes i erioed dysgu rheolau treigliadau.  Erbyn hyn, dwi wedi trio dysgu rhai o’r rheolau, ond mae’n rhaid dweud dwi ddim yn ei cael o’n hawdd o gwbl.  Ac i wneud o’n waeth, gyda llawer o eiriau (y rhan fwyaf, dwi’n meddwl) dwi ddim yn gwybod os ydy’r gair yn fenywaidd neu yn wrywaidd – felly mae hynny’r broblem mawr.  Beth bynnag, mi roeddwn yn medru gweld y cangymeriadau (y rhan fwyaf) yn yr ymarfer gyntaf, ond roedd esbonio pam roedd treigliad yn digwydd yn y trydydd ymarfer yn anoddach o lawer.  Dyna sut beth ydy dysgu iaith, am wn i.  Er eich bod chi’n gwella, mae rhai pethau yn heriol o hyd a phroblemau newydd yn codi.