Ailddysgu

Monday 26 August 2019

Mae'r cynhaeaf yn parhau

Mae o mor boeth yma. Roedden yn meddwl bod yr haf drosodd a dyma’r tywydd poeth yn dod yn ol. Beth bynnag - does dim modd mynd allan yn ystod y dydd (yn fy marn i) - felly allan ar y comin yn gynnar gyda Teo, ac yn ol yn erbyn ryw 9.15 mewn pryd i gael frecwast sydyn a gweithio yn yr ardd tuag at o gwmpas 11. Ac aros i fewn wedyn tan o leia 6!  Ar ol heddiw bydd y gwres dipyn bach yn llai, diolch byth.

Ond mae’r llysiau yn gwneud yn iawn, er gwaethaf y tywydd, gyda digon o ddyfrio.  Dwi’n trio peidio dyfrio gormod, felly dim ar y lawnt o gwbl a dim ar y blodau ar wahan i’r rhai sydd newydd fynd i fewn.
A dyma beth sydd yn digwydd.
Rhoais y scwash i mewn un o’r biniau compost a mae o’n hapus iawn (ond nid ar y funud yn yr haul poeth - a fel gwelir mae’r dail yn edrych yn anhapus ond ddaw o’n ôl unwaith iddi oeri dipyn bach.  A mae’r planhigyn wedi dringo i fewn i’r coeden gellygen - dipyn o arbrawf a gobeithio bydd dim niwed i’r gellyg.



Bydd y gellyg yn barod diwedd mis Medi, dwi’n meddwl.

Yn y cyfamser mae digon o afalau o hyd.  Afalau ’Discovery’ ydy’r rhain, a mae gymaint ohonyn nhw - dan ni’n bwyta llwyth, mae’r wyrion yn hoff ohonyn nhw a mae rhai yn mynd i’r cymydogion hefyd. Dydyn nhw ddim yn cadw. Ond mae ’na hefyd digon o berllanau cymdeithasol yn yr ardal - yn cael ei sefydlu a chynnal gan y ’Parks Trust’  https://www.theparkstrust.com - a mi es i un newydd wythnos diwethaf - ryw 3 filltir i ffwrdd.

Yn y tŷ gwydr mae pethau un dod ymlaen yn eitha dda, yn cynnwys tomatos a basil.  Gobeithiaf cael digon o efni, unwaith dydy hi ddim mor boet, i wneud pesto fel dwi'n gwneud bob blwyddyn.



Ac yn sicr mae'r tywydd poeth yn helpu gwneud compost da.  Anodd i goelio bydd y cymysgiad yma yn troi i fewn i gompost gwych mewn ruw ddwy fis.


Ac yn ffodus wnes i hau hadau letys cyn iddi fynd mor poeth - a bydd yr rhain yn baron yn  yr Hydref.

Sunday 11 August 2019

Y cynhaeaf


Mae o’n amser eithaf brysur yn yr ardd - dwi wedi gorfod dal ymlaen gyda’r dyfrio, a does na ddim llawer o law wedi bod o gwbl.  

Ond serch hynny, gyda dyfrio ofalus ( a byth lle does dim angen) mae’r rhan fwyaf o’r llysiau a’r ffrwythau yn gwneud yn dda.  Mae na dair fath o eirin (dwi’n meddwl!): czar; jubilee a victoria - o ia, ac un hwyr, majorie’s seedling - ond does llawer ddim o ffrwythat ar honna eleni.  Roedd o mor boeth pan oedd y czar yn aeddfedu, a felly roedd yr eirin yn mynd drosodd yn hawdd ac yn cael eu meddianu gan y cacwn.  Serch hynny, llwyddiais i gasglu dipyn, bwyta rhai, rhoi rhai i’r wyrion ac i gymdogion - a rhai i’r rhewgell.  Wedyn y ’jubilee’.  Ddim cweit mor flasus, ag o maint llai, ond yr un peth.  Mae’r basged yn y llun yn dangos rhai o’r ’jubilee’ a hefyd rhai Fictoria gynnar.



Ond yr afalau sydd yn cymryd gwaith.  mae gennyn ni goeden Discovery sydd yn aeddfedu yn gynnar iawn.  Mae’r afalau digon melys, unwaith maent wedi cael digon o haul, ond mae llawer yn disgyn ac wedyn os oes yna clais neu torriad maent yn dirywio ac yn pydru yn gyflym - a mae’r cacwn yna hefyd.  Gyda’r rhain eto, mae rhai o’r cymdogion wedi cymryd llawer, dan ni’n bwyta nhw a mae’r wyrion wrth eu boddau.

Ar wahan i’r ffrwythau, mae’r moron wedi gwneud yn eitha dda, a cawsom lwyth o ffa llydan.  Rŵan mae’r ffa ffrengig yn dechrau aeddfedu.  Dan ni wedi cael dipyn o waith yn dyfrio’r ffa yma - sydd bendant ddim yn hoffi gymaint o sychder.   Ac yn y tŷ gwydr, mae tomatos, ciwcymbyr, pupurau, letys a moron yn ffynu. R'on yn meddwl mae pupurau coch oedd yn tofu - ond fel gwelir yn y llun, pupurau melyn sydd yna.  O ia, ac aubergines, ond dydy'r rheina ddim yn gwneud hanner mor dda a llynedd.  Rhyfedd.

Ond heddiw, er bod yr arolygion tywydd yn gaddo diwrnod sych, dan ni wedi cael cawodydd eitha trwm a glawn prynhawn yma, felly, goebithio ar ol y dyfrio wnes i bore ma, bydd yr ardd yn hapus.  A falle bydd rhaid i fi dorri’r lawnt o’r diwedd.