Ailddysgu

Sunday 25 February 2024

Mwy am lyffantod

Wel, eleni daeth y grifft yn fis gynharach na’r llynedd eleni.  A wythnos yn ol, roedd y pwll yn berwi o lyffantod yn paru ac yn neidio o gwmpas.  Dyma rhai ohonyn nhw





 er na lwyddais i gael lun fel yr un cefais ryw flynyddoedd yn ol.  

Ond roeddwn i'n gobeithio na fydden ni'n cael rhew caled wedyn.  Ond na.  Pan ddeffroais ddoe, roedd y car dan haenen go  drwchus o rew.  A’r comin yn rhewllyd iawn hefyd ond yn hardd yn yr haul.  



Erbyn hanner dydd roedd y rhew wedi toddi, ond dwi ddim yn sicr os ydy’r grifft wedi goroesi’n iach.  Yn ol google, os ydy’r grifft ond hanner yn y dŵr mae’r rhew yn gallu lladd yr ŵyau sydd hanner allan.  Felly symudais rhai o’r grifft i’r tŷ gwydr rhag ofn i’r rhew ddychwelyd.  Gobeithiaf byddan nhw yn iawn - a beth bynnag roedd digon o rifft yn y pwll: stategaeth i sicrhau bod o leia rhai yn goroesi i ddod yn llyffantod. 

Saturday 17 February 2024

Glaw, cynffonau sidan a llyffantod


Darllenais y post diwethaf a gweld ei bod yn glawio pryd hynny, a mae hi'n glawio yn ddifrifol eto bore 'ma ar ol glaw trwm yn ystod y nos.  Does na ddim llawer o ddyddiau haelog wedi bod.  Serch hynny daeth y cynffonau sidan i MK o’r diwedd a roedd mor bleserus cael eu gweld nhw.  Haid digon mawr ond yn bwydo wrth ymyl cylchfan brysur iawn ac wrth i’r loriau fynd heibio roedd yr adar yn hedfan i ffwrdd - am dipyn, beth bynnag.  Doeddwn ddim yn medru mynd i’w gweld pa oedd yr haul allan a’r golau yn dda.  Er hynny, ro’n yn eitha hapus gyda’r lluniau.  Dyma dau dwi'n hoffi.






Ac er mai ond mis Chwefror mae hi, a'r tywydd yn wlyb, mae Gwanwyn yn brysur yn nesau.  Mae' o fel petai bod y pwll wedi bod yn symud gyda'r llyffantod yn neidio o gwmpas ac yn dechrau paru.  Ond y cam gyntaf ydy hwn pryd mae’r llyffantod bach yn paru.  Mae grifft wedi dangos yn barod, ond dwi’n disgwyl mwy o gyffro a mwy o rifft yn y cam nesa pan fydd y llyffantod mwy yn paru hefyd, a gobeithio’n wir na ddaw tywydd rhewllyd, oherwydd mae’r paru yn gynnar iawn eleni.  Yn anhebyg i adar, os daw tywydd rhewllyd ar ol i’r grifft dod, does na ddim modd i’r llyffantod dodwy mwy.  Felly byddan yn cadw llygad barcud ar y grifft ac os daw rhew - bydd y grifft yn mynd i fewn i’r tŷ gwydr mewn bwced.

Thursday 8 February 2024

 Mae hi wedi bod yn glawio’n drwm heddiw, felly dwi wedi bod yn gwneud pethau yn y tŷ - ac yn y tŷ gwydr.  Ar ol mynd am dro ond am ryw hanner awr ar y comin, 


dechreuais gweithio yn y tŷ gwydr- ond am ryw dri chwarter awr.  Dros cyfnod dwi wedi bod yn tacluso yn y tŷ gwydr, yn paratoi am pan mae o’n amser i hau.  Ond mae hi braidd yn gynnar eto.  Er hynny dechreuais letys ym mis Ionawr mewn dipyn o wres.  A mae’r planhigion bach yn gwneud yn dda.  Dyma nhw.



Hefyd dwi wedi hau persli - sydd yn cymryd amser hir i ddod i fyny, felly pwyll bia hi, a sbigoglys, (gwelir y llun) sydd wedi ymddangos yn barod (ar ol ond ryw 3 diwrnod).  Heddiw rhois hadau 
aubergine a pupur coch hir i fewn.  Y cyngor ydy i ddechrau nhw’n gynnar oherwydd mae o’n cymryd amser hir iddyn nhw aeddfedu.


Gan fy mod yn dilyn dull dim palu, byddaf yn rhoi compost newydd dros y pridd yn y tŷ gwydr ar ol rhoi dipyn o’r hen bridd yn y bin compost.  Prynhawn yma, a'r glaw wedi cilio i fod yn law mân, roedd un ehedydd yn canu'n wych pan es i allan eto.  Mi wyt ti'n lawn,Wilias, mae o yn sicr yn codi calon.  (Mi faswn wedi ymateb i dy sylw ond yn anffodus, rywsut, y dyddiau yma fedra i ddim ddarganfod ffordd o wneud hynny!)

Friday 2 February 2024

Ehedyddion ac arwyddion o'r Gwanwyn i ddod

Mae’r ehedyddion wedi dychwelyd.  Bore dydd Llun, ar y comin, clywais ehedydd yn canu; arwydd o wanwyn ar ei ffordd er nid oedd mis Chwefror wedi cyrraedd eto.  Mae’r ehedyddion yn diflanu yn ystod y gaeaf.  I ble tybed?  Mae rhai rhywogaethau (fel y gylfinir) yn symud i lan y mor dros y gaeaf a mae digon o ehedyddion mewn llefydd arfordirol yn ystod y gaeaf hefyd felly tybiaf mai dyna be sy’n digwydd.

 



Ond mae clywed y gâyn rhoi’r teimlad bod y gwanwyn wir ar ei ffordd. Dwi ddim wedi llwyddo i dynnu llun eto eleni ond dyma lun neu ddau dwi wedi tynnu llynedd neu gynt.  

Mae’r wythnos diwethaf wedi bod yn fwyn a wir yn teimlo fel dechrau Gwanwyn, er mai gynnar yn y flwyddyn ydy hi.  Yn ogystal a’r ehedydd gwelais gwenynen yn ystod yr wythnos hefyd a mae’n dda gwybod bod blodau i roi neithdar a phaill i’r gwenyn.



Blodyn bach hardd sydd yn dechrau blodeuo ym mis Ionawr yn ein gardd ni ydy’r “squill”: blodyn bach glas a mae hi’n dod cyn hyd yn oed yr eirlysiau.