Ailddysgu

Monday 31 August 2015

Diwrnod gwlyb




Sydd ddim mor arferol yn fama, ond gan ei fod hi wedi bod yn bwrw’n drwm trwy’r dydd, a finnau ddim yn y gwaith, penderfynnais trio gnweud cacennau bach.  Dwi ddim yn siwr be ddaeth drostof fi, ond dyma nhw - dim rhy ddrwg (dyma nhw wedi dod allan o'r popty) ond yn felys iawn - a dwi ddim y hoffi pethau rhy felys.



Yn yr ardd mae hi’n amser cynllunio erbyn y gaeaf, yn anffodus; felly mi rhois hadau salad i fewn, yn y tŷ gwydr.   Gobeithio bydd y rhain yn gwneud salad i ni dros y gaeaf.


Friday 28 August 2015

Yr ardd a’r cefn gwlad lleol

Penwythnos diwethaf roeddwn yn dweud pa more sych oedd yr ardd - ond wrth gwrs, wedi dweud hynny, daeth digon o law....a dan ni wedi cael cawodydd trwy’r wythnos, ond llai o law, dwi’n credu, na gweddill y wlad.

Beth bynnag, ar ol yr holl law, roedd heddiw digon sych, felly dipyn o waith yn yr ardd, yn cynnwys codi mwy o datws - a mae nhw wedi dod ymlaen yn dda:
 
“pink fir apple“ ydy’r rhain, ac wrth clirio’r pridd, dod ar draws y lindysyn yma: 


dwi’n meddwl mai lindysyn gwalchwyfyn y poplys ydy hwn? (Ond does dim coed poplys yn yr ardd...)

A wedyn mynd am dro.  Dwi ddim wedi bod yn cerdded gymaint yn ddiweddar - ond dwi am gwneud dipyn mwy.  Dyma rhai o’r lluniau, yn cynnwys y defaid Herdwick: rhyfedd gweld nhw yma yn hytrach nag yn ardal y llynnoedd.  Meheryn roedd y rhan fwyaf.  






Ac wrth dod at y cae lle roedd y defaid, cael hyd i’r puffballs yma - gair Cymraeg?

A felly y ol i goginio gyda ’r tatws, aubergines o’r tŷ gwydr, tomatos, a caws - a’r puffballs wedi ffrio.  Bendigedig!


Sunday 23 August 2015

Twtio

Dwi wedi bod yn treulio llawer o amswer yn dyfrio yn yr ardd.  Dwi’n gwybod bydd y rhai ohonoch chi sydd yn byw yng Nghymru yn chwerthin, ond wir yr, dan ni mewn ardal  sych ofnadwy a dim wedi cael llawer o law o gwbl dros yr haf.  Yn bendant dim digon.  (Ond mae glaw ar y ffordd.) Felly, mae llawer o amser wedi mynd yn sicrhau bod y planhigion, a’r coed yn enwedig, yn llwyddo.  Dydw i ddim yn dyfrio’r coed sydd wedi bod yno am rhai flynyddoedd, ond y rhai ifanc, ond eleni, roedd rhai o’r coed hyn yn dioddef hefyd, fel y coeden eirin yma:



Gobeithio bydd y coeden yn gwella ar ol dipyn o ofal a llawer o ddŵr! Ond mae angen gwneud pethau eraill yn yr ardd heblaw dyfrio, ac o’r diwedd, dwi wedi gwneud dipyn o waith yn un gwely mafon.  Rhywsut, mae’r mafon haf a’r mafon hydref wedi cymysgu yn y gwely yma - mafon ha sydd i fod yna.  Ond doedden nhw ddim wedi cael llawer o ofal.  Ond ddoe a heddiw, ro’n i’n tynnu’r chwyn i gyd; dyfrio; rhoi dipyn o faeth iddynt, torri’r planhigion a oedd wedi rhoi ffrwythau eleni, a. y.y. b.  Yn anffodus gwnes i ddim cymryd llun cyn ddechrau, ond dyma sut roedd y gwely wedi i fi orffen gyda rhoi compost (cartref) ar y gwely.  



Dydy’r lluniau ddim yn dda ofnadwy ond dwi’n falch gweld trefn ar y lle.  Mae rhyw syniad i’w gael o sut oedd y gwely wrth edrych ar llun y gwely arall.

Mae gormod i’w gwneud, fel arfer.  Mae’r afalau cynnar, “Discovery“ i gyd yn barod a mae gymaint ohonyn nhw. Dyma ychydig.


Dwi’n bwyta nhw; mynd a nhw i’r gwaith i fy nghyd-weithwyr, rhoi nhw i ffrindiau a chymdogion, a choginio gyda nhw, a mae 'na llwyth ar ôl.  Dwi ddim isio rhoi llawer yn y rhewgell - mae o’n eitha llawn o ffrwythau eraill! Mae ddigonedd o bethau da i'w bwyta ar y funud.



Dwi wedi bod yn twtio yn y tŷ gwydr hefyd - a mae’r nionod a’r shallots i gyd mewn bocsus rŵan ar ol bod yn sychu yn y tŷ gwydr. 


A heno mi fyddaf yn gwneud saws tomato i roi yn y rhewgell.  Mae rhywbeth am gwneud pethau gyda cynnwys yr ardd, fel rho nhw i ffwrdd am y gaeaf, neu gwneud jam, sydd yn gwneud i fi deimlo’n dda……...

Tuesday 18 August 2015

Wiwerod coch



Pan oedden yn aros yn Sir Fon, ryw fis yn ol, 'r oedd wiwerod coch yn dod i'r ardd.  Wel. wrth gwrs, efallai mai UN wiwer oedd o neu hi.  Ond mi roedd yn hyfryd gweld wiwerod go-iawn fel petai, yn hytrach na'r wiwer llwyd sydd yn fama.  Dyma rhai o luniau eraill - ac un o sgwarnog yn y cae.  Braf gweld yr holl bywyd gwyllt.




Monday 10 August 2015

Penwythnos brysur

Amser brysur iawn o’r flwyddyn yn yr ardd.  Erbyn mis Awst, mae pethau wedi arafu o safbwynt rhoi hadau i fewn ac yn y blaen, ond mae gymaint i’w wneud o safbwynt cynaeafu a twtio.  Dwi wedi anwybyddu’r cwrens coch (jeli, falle, nes ymlaen?), a rhoi’r gwsberen yn y rhewgell am rŵan, ond casglu’r eirin ydy’r orchwyl diweddar.  Mae’r coeden yn orlawn.  Czar ydy’r rhain, a maent yn aeddfedu yn gynnar, ym mis Gorffenaf, fel arfer.  Eleni, dwi wedi casglu dwn i’m faint, a mynd a rhai i’r gwaith, rhoi nhw i ffrindiau a teulu, rhoi ryw bedwar cilos yn y rhewgell, coginio gyda nhw (a bwyta nhw) a mae digon ar ôl - felly jam, efalla?



Mae’r afalau gyntaf yn barod hefyd.  Afalau gynnar iawn ydy’r rhain.  “Discovery“.  Blasus iawn, ond dim yn cadw rhy hir - felly mae rhaid bwyta nhw, neu prosesu nhw mewn rhyw ffordd neu gilydd.

Meddyliais bod ’blight’ ar rhai o’r tatws - felly torrais y tyfiant i lawr - ond dwi ddim yn siŵr os oedd angen gnweud.  


Braidd yn gynnar, a felly tatws llai nac arfer, ond digon blasus. A dwi wedi troi fy sylw i’r blodau, yn trio tocio a twtio dipyn, ond dydy’r bordor ddim ar ei gorau ym mis Awst, heb glaw am dipyn o sbel.

Ac am unwaith, gadael yr ardd i feicio i’r amgueddfa lleol: .  Dyma i chi amgueddfa hyfryd, anffurfiol mewn llefydd, ar hen safle ffermdy mawr. Cymysgiad o bethau amrywiol: llawer ynglyn a chludiant - roedd gweithdai lleol yn gwneud cerbydau ar gyfer y lôn ac i ’r tren: roedd gweithdŷ mawr yn Wolverton (ryw filltir o’r hen ffarm) yn cynyrchu canoedd o gerbydau tren, ac a ryw reswm gwnaed y cwch yma yn Stony Strafford.  



Rhyfedd, gan ein bod ni mor bell o’r môr!  Dyma ddau lun arall o'r amgueddfa.















Thursday 6 August 2015

arbrofiad arall: llyffantod bach

Dwi'n falch gweld nifer o lyffantod bach yn ac o gwmpas y pwll yn yr ardd






Allech chi weld y llyffantod bach yn y lluniau yma? Mae nhw'n fach, fach, a llawer o chwyn yn y pwll!


Bydd y post nesaf o'r cyfrifiadur go iawn!

Labels:

Monday 3 August 2015

Llyffantod yn yr ardd - ac arbrofias

Dwi'n trio gwneud post gan defnyddio'r iPad, ond dwi ddim wedi darganfod sut i roi mwy nag un llun.  Felly, am rwan, un amdani!
Wrth clirio o dan y teclyn sy'n dal dwr yn yr ardd, daethon o hyd i lyffantod yn mwynhau'r gwlypter.  Dyma un ohonnynt

Labels: