Ailddysgu

Thursday, 23 April 2026

Asparagws



O’r diwedd mae’r gwely asparagws yn barod.  Roeddwn wedi tynnu chwyn a rhoi haen go dda o gompost ar y gwely ddau fis yn ôl a gorchuddio’r gwely â chardbord ond roedd rhaid aros i’r planhigion gyrraedd.  Daethon nhw, trwy’r post, brynhawn Llun.  Felly roeddwn i wrthi trwy’r dydd, bron, dydd Mawrth, yn palu.  Rhaid gwneud ffos ac wedi codi’r planhigyn tipyn fel bod canol y planhigyn yn eistedd ar dwmpath bach o bridd a’r gwreiddiau yn disgyn i’r ffos.  Ac ar ôl rhoi’r pridd yn ôl, rhoi haen arall o gompost ar ben yr holl beth.  Dwi’n dal i orffen y cam olaf hwnnw.  Does dim cweit ddigon o gompost yn barod ac yn hawdd cyrraedd. Ac amynedd piau hi.  Mae rhaid aros dwy flynedd cyn cynhaeafu’r asparagws.

 

Ond diolch byth, mae’r tywydd wedi bod yn fendigedig.  Dim rhy boeth, ond llawer o haul.  Tywydd braf ar gyfer garddio – a’r ardd yn edrych yn hyfryd ac yn bleser gweithio ynddi hi. Ar y comin mae hi wedi bod yn hyfryd hefyd.  Dwi ddim yn cerdded y llwybr arferol oherwydd mae fy nhroed yn gwella o hyd.  Dwi’n gyrru’r car i’r maes parcio ac yn mynd am dro bach o fanno.  Ac nid yn bell o’r maes parcio mae’r gwenoliaid.  Gwelais nhw yn Dorset ac ers dod yn ôl maen nhw yma hefyd, ond mewn nifer llawer llai nac erstalwm.  Hefyd yn y grychau mae’r llinos a’r llwydfron o gwmpas.  Braf.




Saturday, 18 April 2026

Sir Benfro

Gan fod rhaid i mi orffwys fy nhroed, dwi'n gwylio mwy o raglenni ar iplayer y BBC nag arfer. Dwi wedi mwynhau rhai o benodau Inside Britain's National Parks, gan gynnwys yr un ar Sir Benfro. Er nad wyf wedi bod ers rhai blynyddoedd, ac mae'n bellter mawr o le rwy'n byw, dwi wedi bod yn

ddigon ffodus i fod ar sawl ŵyl cerdded ar arfordir Sir Benfro.
    Dyma lun o’r capel sydd yn y
 creigiau – o daith cerdded 13 mlynedd yn ôl gyda grŵp o ffrindiau.  Gwyliau lle roedden ni’n 
cerdded ar hyd yr arfordir, dydd ar ôl dydd – a rhywsut, roedden ni’n ffodus iawn gyda’r 
tywydd.  Cerddon ni’r llwybr dros dair blynedd (wel, rhan o’r llwybr) a ‘r oedd yr haul allan 
dydd ar ôl dydd. Doedd hynny ddim yn wir y tro gyntaf cerddais ar arfordir Sir Benfro yn ôl yn 
y 70au – roedd yn ddydd mor wlyb, aethon ni i’r tafarn lle roedden yn aros yn socian.  Ar ôl 
hynny aethon ni am wyliau traeth gyda’r plant un tro ond cymysg oedd y tywydd y tro yna.  
Y tro diwethaf es i Sir Benfro roeddwn yn ymweld â fy ffrindJansydd yn byw yn Llandeilo ac aethon ni i’r arfordir ar ddydd poeth, hyfryd, ym mis Medi a nofio 
yn y môr.



Y flwyddyn gynt, doeddwn i ddim ar wyliau cerdded chwaith, ond gyda grŵp modrwyo adar.  Dydy hynny ddim yn rhywbeth dwi’n gwneud fy hun, ond mi oedd le i fi fynd gyda nhw i ynys Skokholm.  Doeddwn i ddim wedi clywed am yr ynys o’r blaen.  Dim rhy bell o Skomer, ond ynys lle dydy o ddim yn bosib mynd am ddiwrnod: yn hytrach na hynny, mynd am wythnos.  Sgwennais yr hanes mewn dau flog – dyma’r gyntaf: 

A wyddoch chi beth? ‘roedd yr wythnos yn ystod yr haf arbennig o boeth a chawson ni yn 2022: bob dydd bron yn boeth a’r haul allan.  A’r ynys yn lle braf i dreulio amser oherwydd ei bod hi dipyn yn oerach na’r tir mawr.  Dwi’n edrych yn ôl ar yr wythnos yna fel un o’r profiadau gorau dwi erioed wedi cael ynglŷn â gwylio a thynnu lluniau o adar.


(A sori - dim syniad pam mae'r paragraffau mor fler..wedi trio ond dim wedi llwyddo y tro yma)




Sunday, 12 April 2026

Wythnos yn ôl, roeddwn yn Dorset, dros y Pasg.  Doedd y tywydd ddim yn edrych yn rhy addawol cyn i ni fynd ond roeddwn wedi trefnu mynd i Saesneg gyda fy ffrind o Ganada.  Byddan ni’n trio gwneud rhywbeth ynglŷn â bywyd gwyllt pan mae hi yn y wlad yma.  Y llynedd aethon ni i Aigas yn yr Alban,  lle ‘roedd yn bosib gweld eryrod a llwyth o adar ac anifeiliaid.  Eleni roedden dipyn yn agosach i adref yn Swanage yn Dorset, sydd yn wahanol iawn ond hefyd yn ardal ardderchog ar gyfer natur.  Dan ni wedi bod yn yr ardal o’r blaen, yn aros yn Wareham y tro diwethaf, pryd aethon ni i ynys Brownsea, lle mae ’na wiwerod coch, ac i barc Durleston lle mae adar y môr, ac o le, os ydych yn ffodus, efallai gwelir dolffiniaid hefyd.  Dyma un o’r gwiwerod coch.


Cawson tywydd braf, a fel arfer, bydden wedi bod yn cerdded dipyn.  Ond eleni, rywsut, dwi wedi niweidio fy nhroed chwith - wn i ddim sut, ond mae o’n brifo ac yn ôl yr arbenigwraig yn y Foot Clinic lleol ddylwn i ddim cerdded.   Wel doedd hynny ddim yn bosib heb ganslo’r gwyliau ac roeddwn isio gweld fy ffrind!  Ond yn ffodus, am ryw reswm, yr oedd hi wedi penderfyny llogi car.  Felly doedd dim rhaid cerdded gormod.  Pan aethon i’r warchodfa gyntaf: Arne, roedden nhw’n cynnig Trampers, sef ryw gerbyd bach electrig (mobility scooters) a oedd yn mynd ar y llwybr yn digon handi, ar gyfer pobl nad oeddent yn medru cerdded, neu dim yn medru cerdded yn bell.  Felly dyna beth wnaethon ni: llogi Tramper.   Ac mae’r warchodfa yn lle gwych.   Roedd y rhaglen teledu Springwatch yn dod o Arne ddwy flynedd yn ôl ac yn dangos y gweilch marta yna.  Dwi erioed wedi gweld gwalch marth: aderyn ysglyfaethus prin a phwerus, ac enw Gymraeg newydd i fi - Goshawk yn Saesneg.


Digon prysur ar adegau a hithau’n Sul Pasg.  Roeddwn i’n gobeithio gweld Telor Dartford neu hyd yn oed Eryr y Môr- ond dim lwc!   Efallai eich bod yn gofyn sut mae hi’n bosib gweld eryrod yn yr ardal?  Yr ateb ydy bod sawl eryr y môr, erbyn hyn, yn byw yn yr ardal o gwmpas harbwr Poole; wedi dod Ynys Wyth lle maen nhw wedi cael ei ailgyflwyno.  Dyma un o'r ceirw sydd yna - Sika.