Ailddysgu

Sunday, 22 March 2026

Gwanwyn swyddogol

 Mae’r Gwanwyn wedi cyrraedd yn swyddogol rŵan ac mae’r tywydd yn ddiweddar wedi adlewyrchu hyn.  Dan ni wedi cael bron wythnos o haul disglair, er ei bod hi wedi bod yn eithaf oer ar brydiau, a gyda niwl weithiau yn y bore, fel heddiw.

Yn anffodus dwi wedi brifo fy nhroed - dim cweit yn siŵr beth sydd wedi digwydd: dim damwain ond y troed yn dechrau brifo, ac fel sy’n digwydd, mi wnes i anwybyddu’r peth yn gobeithio base’r broblem yn sortio’i hun allan.  Ond wnaeth hi ddim.  Dwi’n meddwl mai rhywbeth o’r enw metatarsalgia ydy’r broblem, ac os felly, peidio â defnyddio’r troed ydy’r peth pwysicaf, efalle - ond mae hynny’n anodd!  Felly dwi wedi cwtogi’r faint o gerdded dwi’n gwneud ac ond am fynd a’r ci am dro bach yn y bore.

 

Dwi ddim wedi stopio gweithio yn yr ardd, ond dwi yn trio osgoi cerdded o gwmpas.  Felly medraf wneud pethau yn y tŷ gwydr wrth eistedd i lawr, a medraf chwynnu ar fy mhengliniau.  Gymaint i’w gwneud ac mae trio peidio cerdded yn rhwystredig iawn - ond gwell o lawer i adael i’r troed gwella.  Byddaf yn mynd i’r "Foot clinic" lleol bore Mawrth a gobeithiaf bydd hynny’n help.

 

Yn y tŷ gwydr, mae’r planhigion bach yn dod ymlaen yn araf araf bach.  Er ein bod wedi cael haul, fel wedais, mae hi wedi bod yn oer, gyda thipyn o rew, ac mae’r ffenestri yn y tŷ gwydr yn drwm a dwi ddim y medru agor rhai ohonyn nhw bellach felly mae dwy yn aros ar agor.  Felly dros nos dwi’n defnyddio “fllece” hefyd.  A dyma rhai o’r planhigion:



Pupurau melyn melts ydy'r rhain - reit bach ar y funud.



Tomatos ydy'r chain.  Rhai newydd I fi  a dwi ddim yn cofio'r ene (ond ei fod yn dechrau gyda LAT!).  Tomato sydd yn tyfu yn gyflym ac mae'r ffrwythau yn aeddfedu yn gynnar oherwydd eu bod yn cael eu tyfu mewn gwledydd gyda hafoedd byr.



A letys.  Un sydd yn ymdopi'n dda gyda tywydd oer.  Gawn ni weld sut bydd pethau yn datblygu.

Tuesday, 10 March 2026

Gwyl Ddewi Arall: 2

Cyn i fi anghofio, meddyliais y basai hi’n syniad da rhoi dipyn o gofnod o weddill Gŵyl Arall eleni, cyn i fi droi yn ôl at yr ardd....

Cawson ni ddydd Sadwrn braf ar gyfer yr orymdaith a oedd yn gorffen ar y Maes gyda band pres a chanu.  Cyn hynny, ’roedd lansiad meddal o’r llyfr newydd To gan Meinir Pierce Jones, a oedd yn llawn dop.  Difyr clywed am y llyfr, sydd yn amlwg yn wahanol iawn i Gapten.  Dwi heb ei brynu eto, ond byddaf yn ei archebu. Ar y funud, mae digon o lyfrau ail-law o’r siop elusen i'w darllen.  Prynais y rhain, hefyd, yn “Palas Print” a darllenais ynhw


cyn gadael Caer…


Prynhawn yn yr Anglesey gydag Accordions dros Annibyniaeth: sesiwn da ac eitha hir.

 

Yn anffodus daeth y glaw ar fore Sul a hithau’n amser mynd am dro hanesyddol (arceolegol) gyda Rhys Mwyn.  Y Rhufeiniaid oedd y pwnc y tro yma.  (Mae ‘na lawer o haenau yng Nghaernarfon ac o gwmpas….Y Celtiaid, y Normaniaid a’r Rhufeiniaid).  Rhyfedd meddwl , pan ddaeth y Rhufeiniaid yr oedd y dref gyd yn bodoli yn Segontium, dim wrth ymyl y môr, lle buasai hi wedi bod yn llawn mwd.  Ac yn ôl Rhys, y Rhufeiniaid oedd y rhai cyntaf i ddefnyddio llechi ar dôau'r tai.

 





Er bod digwyddiadau eraill i ddod – ‘roedd rhaid i fi fynd yn ôl erbyn ar ôl cinio Sul.

Wednesday, 4 March 2026

Gwyl Ddewi Arall



Treuliais y penwythnos yng Nghaernarfon i fynychu Gŵyl Ddewi Arall fel dwi’n trio gwneud bob blwyddyn.  Mae’r ŵyl yma yn llai na’r un sydd yn yr haf, ond yn bwysig i fi o ran siarad a chlywed y Gymraeg trwy’r penwythnos, a digwyddiadau diddorol: llenyddiaeth, cerddoriaeth a hanes.  Y digwyddiad cyntaf i fi fynd iddo oedd darlith gan Elin Tomos am sut roedd merched yn cyfrannu at incwm teuluoedd y chwarelwyr.  Dwi wedi clywed Elin yn siarad fwy nag unwaith ac mae hi wastad yn ardderchog.  Wrth gwglo rŵan gwelais fod Elin Tomos wedi cael ei henwi ar restr y 30 hanesydd mwyaf dylanwadol o dan 30 oed yng nghylchgrawn hanes y BBC yn 2024.


Ac mae hi’n dweud, ar LinkedIn, ynglŷn â'r pwnc yma: “Mae cofnodion y cyfrifiad wedi awgrymu ers amser maith nad oedd menywod yn cyfrannu at incwm y teuluoedd, ond tydi'r cyfrifiad ddim yn ffon fesur deg.”




A dyna yr oedd hi’n esbonio: sawl reswm pam nad oedd y cyfrifiad yn dweud y cwbl: e.e.. diffiniad gwaith yn tueddu i gynnwys gwaith tu allan i’r tŷ a bod y dynion yn llenwi'r cyfrifiad ac efallai ddim yn fodlon cyfadde’ bod y gwragedd yn gwneud cyfraniad economaidd - oherwydd eu dyletswydd nhw, y dynion, oedd ennill pres.

 


Yr oedd Elin yn sôn am ferched yn hel a gwerthu mawn a grug gan ddefnyddio merlod, ond wrth i’r diwydiant gynyddu, gwaith yn y cartref oedd gwaith merched er bod tystiolaeth hefyd bod merched yn cludo llechi.  Roedd cyfrifiad 1871 yn dangos bod Mari Jones a oedd yn weddw ac yn 37 oed yn cael ei disgrifio fel “carrier of slaes from quarry”.  Ac efallai bod yr adfywiad crefyddol wedi cael effaith i gadw merched gartref.  Beth bynnag, erbyn 1901, roedd 84% o ferched Bethesda yn ddi-waith, yn ôl y cyfrifiad.  Ond efallai bod llawer mwy yn gweithio, ond yn y cartref?  Yr oedd cadw tai lojins yn rhywbeth cyffredin yn y cyfnod yma a’r merched oedd yn gyfrifol am y gwaith yma – ac wrth gwrs, ‘roedd merched hefyd yn gofalu am y tyddyn: os oedden nhw yn byw yng nghefn gwlad yn aml yr oeddent yn cadw mochyn ac ieir ac efallai gwartheg ac yn tyfu llysiau.  Merched oedd yn gwneud y gwaith yma – ond doedd y gwaith yma ddim yn cyfri yn y cyfrifiad. 


Mae Elin wedi cyhoeddi un llyfr: "Y mae y lle yn iach: Chwarel Dinorwig 1875-1900" a gobeithiaf efallai bydd y gwaith yma yn arwain at llyfr hefyd.