Ailddysgu

Wednesday, 3 June 2026

Sir Benfro

(Sgwennais I hwn yn ôl ym mis Ebrill ond am ryw reswm wnaeth y blog ddim gweithio'n iawn.  Felly dyma gynnig arall!)

 Gan fod rhaid i mi orffwys fy nhroed, dwi'n gwylio mwy o raglenni ar iplayer y BBC nag arfer. Dwi wedi mwynhau rhai o benodau Inside Britain's National Parks, gan gynnwys yr un ar Sir Benfro.

Er fy mod heb fod yna am rai blynyddoedd, ac mae'n bellter mawr o ble rwy'n byw, dwi wedi bod yn ddigon ffodus i fod ar sawl faith cerdded ar arfordir Sir Benfro. 

Dyma lun o’r capel sydd yn y creigiau – o daith gerdded 13 mlynedd yn ôl gyda grŵp o ffrindiau.  


Gwyliau lle roedden ni’n cerdded ar hyd yr arfordir, ddydd ar ôl ddydd – a rywsut, roedden ni’n ffodus iawn gyda’r tywydd. Cerddon ni’r llwybr dros dair blynedd (wel, rhan o’r llwybr) ac roedd yr haul allan  dydd ar ôl dydd.  Mor wahanol i’r tro cyntaf cerddais ar arfordir Sir Benfro yn ôl yn  y 70au – roedd yn ddiwrnod mor wlyb, aethon ni i’r tafarn lle roedden ni yn aros, yn socian.   Ar ôl hynny aethon ni am wyliau traeth gyda’r plant un tro ond cymysg oedd y tywydd y tro yna.

Y tro diwethaf i mi fynd i Sir Benfro roeddwn yn ymweld â fy ffrind Jan sydd yn byw yn Llandeilo ac aethon ni i’r arfordir ar ddiwrnod poeth, hyfryd, ym mis Medi a nofio yn y môr.

Y flwyddyn cynt, doeddwn i ddim ar wyliau cerdded chwaith, ond gyda grŵp modrwyo adar.  Dydy hynny ddim yn rhywbeth dwi’n ei wneud fy hun, ond mi oedd lle i fi fynd gyda nhw i ynys "Skokholm".  (Ac mae ‘na enw Gymraeg: Sgogwm).Doeddwn i ddim wedi clywed am yr ynys o’r blaen.  Dim rhy bell o Skomer, ond ynys lle dydy hi ddim yn bosib mynd am ddiwrnod: yn hytrach na hynny, mynd am wythnos.  Sgwennais yr hanes mewn dau flog - dyma'r cyntaf:

Ac wyddoch chi beth? ‘roedd yr wythnos hon yn ystod yr haf arbennig o boeth  2022: bob dydd bron yn boeth a’r haul allan.  A’r ynys yn lle braf i dreulio amser oherwydd ei bod hi dipyn yn oerach na’r tir mawr.  Dwi’n edrych yn ôl ar yr wythnos yna fel un o’r profiadau gorau dwi erioed wedi ei gael ynglŷn â gwylio a thynnu lluniau o adar.