
Dwi'n darllen ry gyflym. Er fod o'n peth da bod digon rugl yn fy narllen, dwi'n mynd trwy lyfrau ac yn rhedeg allan. Felly dwi wedi gwneud rhstri ohonnyn nhw i archebu o'r llyfrgell (achos fy mod yn byw yn Lloegr does dim llyfrau Cymraeg ar gael i fenthyg ar wahan i "Inter-library loan". (Be ydi hynny'n Gymraeg - Menthig Rhwng Llyfrgellau?)) A son am llyfrgellau, dwi newydd orffen
Y LLyfrgell a dwi'n meddwl ei fod o'n wych. Cymysgiad o ddirgelwch, llenyddiaeth, ffuglen gwyddoniaeth (? Science fiction?) a jyst stori dda a clyfar. Fel arfer, dwi ddim yn hoff iwan o lyfrau lle mae'r awdur yn symud rhwng gwahanol storiau cyfrochrog - a roedd rhaid atal fy hyn rhag symud i'r bennod nesaf am Ana (neu pwy bynnag). Felly ar ol gorffen, mae Atyniad ar y rhestr hefyd - a hefyd llyfr Saesneg Fflur Dafydd - "Twenty Thousand Saints". Dyna be ydi bod yn ddwy ieithog a gwych - ennill gwobrau yn y ddwy iaith! Dyma'r rhestr ar y funud:
Hi a Fi - Eigra Lewis Roberts
Cymer y Seren - Cefin Roberts
Y Bachgen Mewn Pytamas - John Boyne
Dyfi Jynschiyn - y dyn blin
a Dyfi Jyncshiyn - y ddynes yn yr haul
Fy Mrawd a Minnau - Alun Jones
Atyniad - Fflur Dafydd - a
Corcyn Heddwch - Becca Brown
Mae nhw i gyd yn lyfrau ffuglen. Ond hefyd dwi'm mwynhau llyfrau ffeithiol hefyd a llyfrau eraill sy ddim yn ffuglen. Dyddiaduron, fel engraifft. Dwi wedi son am darllen Dyddiadur America (dim wedi gorffen hwn eto) -a dwi wedi darllen llyfrau
Bethan Gwanas i gyd, dwi'n meddwl a dwi wedi mwynhau nhw i gyd, enwedig Ar Y Lein, ac Ar Y Lein eto - a.y.y.b. Ond yn ol Bethan ei hyn, dwi yn y lleiafrif - dydi llyfrau Cymraeg hunangofiant a llyfrau arall tebyg ddim yn werthu llawer. Os wir, mae hwn yn drueni. Dwi wedi cael gymaint o fwynhad allan o ddarllen llyfrau fel yma - a wedi dysgu dipyn hefyd! Y fath arall dwi'n darllen ydi llyfrau am byd natur - dwi'n dod yn ol i Blwyddyn Iolo (Iolo Williams): dyddiadur am bywynd gwyllt Cymru. Trwy hwn a llyfrau eraill dwi hefyd wedi dysgu'r gair Cymraeg am sawl anifail ac adar. Mae rhai enwau yn ddiddorol iawn - ac llawer gwell na'r enwau Saesneg - fel pioden y mor (oystercatcher) a mae enwau fel "morlo" a "dwrgi" yn deud rhywbeth am yr anifeiliad, tydyn?.
Ond dwi ddim yn gwybod os ydi'r darllen i gyd yn helpu hefo siarad a sgwennu yn Cymraeg - a'r prif reswm am y blog (fel i ddysgwyr eraill) ydi cael ymarfer sgwennu. Ond mae o lawer mwy annodd cael cyfle i siarad Cymraeg. Dwi'n dal i fynd i weld Gwilym sydd yn wreiddiol o Sir Fon a cael sgwrs hefo fo - a byddaf yn brwydro i cofio'r gair Cymraeg dwi eisau yn aml. Edruchais yn ol ar cofnod fy mlog blwyddyn yn ol - ac oeddwn yn dweud:
Fedrai ddim helpu synnu - dim ots faint ydw i'n ddarllen; gwylio S4C a gwrando ar radio Cymru - a felly, dwi'n honni fy mod i'n dysgu geiriau newydd - mae wastad gymaint o eiriau dwi ddim yn gwybod.
Dwi'n wir gobeithio bod fy ngeirfa wedi ehangu rhwyfaint. Dwi'n meddwyl ei bod o - ond y cwestiwn ydi - ydwi'n anghofio geriau mwy gyflym na dysgu nhw?