Ailddysgu

Wednesday 11 September 2024

Y dryw bach: Medi 11fed 2024

Blog Medi 11fed 2024

 

Y dryw bach

(Mae’r geiriadur (Bangor) yn dweud gall “dryw” fod yn wrywaidd NEU yn fenywaidd.  I Cysill, gair gwrywaidd, felly dyna beth wnaf ddefnyddio, oni bai fy mod yn bendant yn sôn am yr iâr.) 


Roedd o’n dipyn o syndod i ddarganfod, ychydig o flynyddoedd yn ôl (ond dim rhy bell yn ôl) mae’r driw ydy’r aderyn mwyaf cyffredin yn y wlad.  Dim y robin goch, na’r aderyn y to, na’r titw Tomos las.  Ond dan ni ddim yn ei weld o mor aml â hynny, oherwydd aderyn swil sydd yn cadw allan o’r ffordd ydy’r dryw. 

 

Dwi wedi bod yn trio tynnu llun da o’r driw, a dydy o ddim yn beth hawdd i’w wneud.  Mae o’n symud i ffwrdd yn gyflym, fel llygoden fach weithiau, yn rhedeg trwy’r gwrych.  Mae ganddo lais digon uchel - a dyna sut dwi’n ei weld o, ond buan mae o’n diflannu.

 

Dyma un llun dwi’n hoffi.  



Mae hwn ar ynys Sgogwm, lle treuliais wythnos dwy flynedd yn ôl, lle'r oedd digon o ddrywod, i fy syndod.  Un peth dwi wedi dysgu, trwy ddarllen llyfr ardderchog Stephen Moss, ydy bod y dryw yn aderyn sydd yn medru addasu i gymaint o gynefinoedd gwahanol.  

Be sydd angen ydy trychfilod, ac mae digon o’r rheiny yn y gwymon wrth y môr.  Mae’r dryw felly yn byw mewn llefydd eithaf anghysbell, fel ynys Kilda, hyd yn oed, ac mae’r dryw yma yn isrywogaeth o’r dryw Ewropeaidd arferol.


Ac yn agosach at adref, dwi wedi mynd ati i greu cynefin addas i ddrywod yn yr ardd.  Llecyn lle dyle fod digon o drychfilod a lle i guddio. Hyd at hyn, does dim llawer o lwyddiant wedi bod o ran gweld llawer o ddrywod, ond efallai eu bod nhw yma - ond yn cuddio!